Tirlun gyda Ffigwr yn ei Eistedd
VAUGHAN, Keith
Yn y Tirlun gyda Ffigwr yn ei Eistedd mae pen y gwrthrych wedi’i guddio â chroes goch – cyfeiriad o bosib at yr hunansensoriaeth y gorfodwyd yr artist Keith Vaughan i’w defnyddio yn ei fywyd ei hunan. Ar yr adeg hon, mae cofnodion ei ddyddlyfr yn datgelu ei ddicter a'i frwydr gydag anghyfiawnder bod yn ddyn hoyw yn byw ar adeg pan oedd perthnasoedd o'r un rhyw rhwng dynion yn drosedd. Mae Vaughan bellach yn adnabyddus am ei baentiadau o gyrff gwrywaidd noeth sy'n eistedd rhwng yr haniaethol a'r ffigurol – sy'n diweddaru neu'n cwiyreiddio’n bwerus y pwnc heteronormadol am yr ymdrochwr yng nghelf y Gorllewin.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.