Grawn Diemwnt
CANTOR, Mircea
Cerflun o wydr crisial yw Grawn Diemwnt gan Mircea Cantor a enillodd Wobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams Artes Mundi yn 2011. Yn ei waith mae Mircea yn ein hannog i drafod sut mae mudo, hunaniaeth a chyfoeth yn faterion byd-eang er bod ein profiadau i gyd yn wahanol. Yma mae’r artist wedi creu cerflun prydferth o fwyd cyffredin i amlygu’r diffyg cydraddoldeb rhwng y De a’r Gogledd Byd-eang, tlodi bwyd, a dinistr amgylcheddol wrth gynhyrchu bwyd.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru