Portread o Wneuthurydd, Harman Grisewood (1906-1997)
JONES, David
Ymunodd y model, Harman Grisewood (1906-97) â'r BBC ym 1929 ac aeth ymlaen i fod yn brif gynorthwyydd i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Bu gan David Jones ddylanwad ffurfiannol ar ei syniadau ar gelfyddyd a llenyddiaeth yn ystod Haf 1931 pan fuont yn rhannu tŷ ar Ynys Bŷr. Paentiwyd y llun hwn yng nghartref rhieni Jones yn Brockley. Mae'r teitl yn awgrymu cysylltiad rhwng crefftwaith a chelfyddyd gain barddoniaeth. Roedd Grisewood yn dweud fod yr arlunydd yn neilltuol o hoff o olwg y got fawr a'i fod wedi mynd ati'n ffyrnig i rwygo fersiwn cynharach o'r portread yn ddarnau mân 'fel pe bai'n ymosod ar elyn'.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.