Ers canrifoedd mae gwahanol grefyddau a chredoau ar draws y byd wedi mynegi eu syniadau drwy gelf, ac artistiaid yn defnyddio gwahanol gyfryngau, cysyniadau a thechnegau i greu eu gwaith.
Mae credu mewn rhywbeth neu rywun yn golygu rhoi ffydd neu hyder yn ei fodolaeth. Er y gall hyn fod yn brofiad personol, a yw cymuned, cyfeillgarwch a chalon yn bwysig hefyd?
Bydd nifer o artistiaid yn troi at grefydd a chredoau i drafod eu teimladau a’u syniadau eu hunain. O ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, i bererindota ac offrymu, a phortreadu seremonïau a gwasanaethau, mae artistiaid yn aml yn cyfeirio at wahanol brofiadau o grefydd a chredoau yn eu gwaith.
Edrychwch ar y gweithiau celf isod – sut fyddan nhw’n portreadu straeon, profiadau, a syniadau gwahanol grefyddau a chredoau’r byd?