CYNFAS

Umulkhayr Mohamed
13 Hydref 2020

Mae Bywydau Du o Bwys: O Hanes Du i gyrff Du, eu gwleidyddiaeth a’u hatgofion.

Umulkhayr Mohamed

13 Hydref 2020 | Minute read

Wrth fapio Celf Ddu Prydain yn y 1980au, soniodd Stuart Hall am gywain yr elfennau niferus oedd yn rhan o’r mudiad, nid fel uned ond fel casgliad o wahaniaethau gwrthgyferbyniol. Dewisais innau ddilyn llwybr tebyg wrth gywain y casgliad hwn er mwyn cyfleu dyfnder y gwahaniaethau sy’n rhan o’r categori gaiff ei labelu yn Ddu. Mae hefyd yn fodd o roi sylw i’r amrywiol brofiadau Du sy’n bodoli, tu hwnt i’r trawma Du sydd wedi ei amlygu i boblogaeth Wyn Cymru a’r byd diolch i fudiad mae Bywydau Du o Bwys.

Wrth astudio’r Hanes Du a welir yng Nghasgliadau Cenedlaethol Cymru, cefais fy nharo unwaith eto, fel y digwydd bob tro y byddaf yn dychwelyd at y casgliadau yma gyda fy mhersbectif Du cynhenid, bod rhai manylion wedi eu tawelu tra bod elfennau eraill wedi’u gwthio’n ormodol.

Mae cyfranwyr y rhifyn cyntaf hwn o Cynfas yn trafod cyrff Du, gan ymdrin â’r cwbl yw Du i nifer - lliw croen. Maen nhw hefyd yn sôn am y wleidyddiaeth sy’n cael ei wthio arnynt, gan gydnabod niferus effeithiau cynnil, real cael eich gweld o safbwynt eich hil, er taw dyfais gymdeithasol yw hil, a sut y caiff celf ei weld gan bobl Ddu, ac i’r gwrthwyneb. Cefais fy nghalonogi wrth i’r cyfranwyr rannu atgofion a phrofiadau personol yn gysylltiedig â nifer o’r gweithiau yn y casgliadau, a’u perthynas â myrdd o brofiadau Du fydd braidd yn cael sylw na llwyfan.

Pa fanylion sy’n cael eu tawelu? Y rhai sy’n datgelu taw nid un arlliw, ffordd o fyw ac o weld y byd yw’r rpofiad Du. Yn ogystal ag erthyglau gallwch weld fersiwn ddigidol o (heb eu)Gweld (hen eu)Clywed; arddangosiad o benddelwau a gosodwaith sain a grewyd gennyf i y llynedd i fynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth deg o gelf gan, ac o bobl Ddu yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru. Bydd adnodd addysg hefyd fydd yn defnyddio Asymmetric I gan Magdalene Odundo, sydd wedi’i ysbrydoli gan y ffurf dynol, i danio awen farddonol. Rwyf yn gweld y ddau ychwanegiad yma yn fodd o roi llais o dawelwch y gorffennol.

A pa elfennau sydd wedi’u gwthio’n ormodol? I mi, gwelir hyn yn amlwg yn y modd y caiff celf ei gategoreiddio er mwyn rhoi gwerth uwch i ffurfiau penodol. Nid yw hyn yn beth newydd, nac yn benodol i gasgliadau cenedlaethol Cymru, ond roedd yn elfen y gwelais angen ei gywiro wrth gywain y casgliad hwn. Gwneir hyn yn ofalus iawn ym mhob erthygl, boed wrth ail-esbonio addurn aur a llais artistig, gwerthuso celf gymwysedig o’r newydd wrth i ni weld cymaint o ystyr y gall ei gynnal, neu’r modd y bydd artist gwyn yn dangos gwallt Du ac yn cael ei ddyrchafu’n gelf uwch, er ei fod yn cwympo’n fflat o gael ei astudio, gan neilltuo rhai geiriau.

Thema’r rhifyn hwn yw rhoi llwyfan ehangach i Fywydau Du a’u pwysigrwydd, a sut y gall celf fod yn astudiaeth o hyn ac yn fodd i’w gyfathrebu. Fel golygydd gwadd rhifyn cyntaf Cynfas, y cylchgrawn celf rhyngweithiol digidol hwn, rwyf yn eich gadael i bori’r cynnwys â gofal ac yn edrych ymlaen i glywed eich casgliadau.

Proffil Proffesiynol

Artist, awdur, curadur ac ymgynghorydd Cymreig a Somali yw Umulkhayr Mohamed (hi/ei). Mae ei phractis artistig yn canolbwyntio’n bennaf ar ddelweddau symudol a pherfformiad sy’n trafod y tensiwn o fwynhau crwydro rhwng amseroedd rhyddfreiniol a’r angen ymarferol i fyw yn y presennol.

Fel rhan o’i rôl bresennol fel Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru mae Umulkhayr yn rhan o’r tîm craidd sy’n gweithio ar arddangosfa sy’n ailddychmygu dyfodol Cymru. Hi hefyd yw prif guradur Hwyrnos: Y FAGDDU – project ar y cyd rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi fydd yn dathlu natur ddiflino a diddiwedd y profiad Du.

Mae Umulkhayr yn teimlo bod ei gwaith golygyddol a churadurol yn cael ei arwain gan y ddealltwriaeth fod yr hyn gaiff ei gynnwys a’i hepgor, mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau celf sy’n honni eu bod yn trafod hunaniaeth, yn weithred hynod wleidyddol gaiff effaith hirhoedlog ar gymunedau a’u profiadau, a rhaid eu trin felly â gofal ac ystyriaeth.

Tu hwnt i’w rôl gydag Amgueddfa Cymru, mae Umulkhayr yn ymgynghorydd strategol i sawl sefydliad ar ehangu ymgysylltiad drwy fynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb strwythurol. Mae hyn yn cynnwys gwaith fel Cydweithiwr Celfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, aelod o Grŵp Ymgynghorol Amrywiaeth a Chynhwysiant BFI FAN a Grŵp Ymgynghorol Ifanc BFI FAN. Mae Umulkhayr hefyd yn aelod o Black Curators Collective, casgliad o feynwod Du a churaduron anneuaidd o bob cwr o’r DU.


Share


More like this