CYNFAS

Korkor Kanor
13 Hydref 2020

Ail-ddychmygu The Punchbowl and ladle gan Ndidi Ekubia fel trosiad am hunaniaeth, gobaith a newid

Korkor Kanor

13 Hydref 2020 | Minute read

Pan ymddangosodd y gof arian Ndidi Ekubia ar raglen The Mind of Makers The Chipstone Foundation yn 2013, fe ddisgrifiodd ei gwaith fel cyfuniad o ‘drefn ac anrhefn’. Ei hawydd oedd rhoi trefn i’r defnydd, ond anrhefn oedd y canlyniad naturiol. I bobl fel fi sy’n caru celf, roedd yn hynod gwylio fideo YouTube o’i phroses yn plethu’r ddau.

Mewn eiliadau gellir gweld bod cymaint o strwythur ym mhroses Ndidi ag sydd o ddilyniant, wrth iddi ddechrau gyda dalen wastad o fetel a’i forthwylio’n bowlen cyn ei chodi. Bydd patrymau haniaethol wedi eu braslunio ar bapur yn magu dimensiwn newydd wrth iddi batrymu’r arian i’w ffurfio. Mae’r hyn oedd i ddechrau yn bolygon pensaerniol yn prysur weddnewid yn strwythur tal llifeiriol wedi ei ddal gan leinin corc. Mewn trosiad o ystumiau bywyd, mae’n dechrau gyda llechen lân sy’n ‘oer’ ei naws, a’i chrefft yn trin y metel a rhyfeddod y gynulledifa sy’n cynhesu’r deunydd.

Mae The punchbowl and ladle (1999) yn ddarn symbolaidd sy’n adlewyrchu sut y bydd grymoedd bywyd yn ein newid yn barhaus. Bwriadwyd i’r bowlen bantiog 36.9cm o ddyfnder ddal pwnsh, ond nid yw wedi ei ddefnyddio i’r pwrpas hwn erioed. Ond anodd yw gwahanu pydew dwfn y bowlen rhag yr amser annaearol sydd ohoni, gyda phandemig COVID-19 yn 2020 yn golygu taw prin yw’r hyn y gallwn ei ddathlu. Wrth i gymunedau Du yn y DU ac UDA fynd i banig prynu mae newyn yng Ngweriniaeth Ddemocratig y Congo a De Sudan yn dangos perthynas fregus y ddwy gymdeithas â bwyd - un yn ymaflyd ag ofn diffyg bwyd a’r llall yn wynebu’r realiti y tu hwnt i Gefnfor Iwerydd.

Mae amryw ddehongliadau yn awgrymu bod gwaith Ndidi Ekubia wedi’i seilio ar ei hunaniaeth, ac amhosib yw anwybyddu sut mae’r cyfuniad o ddylanwadau Nigeria a Manceinion wedi dylanwadu ar ei chrefft fel gofaint arian. Wrth wylio ’fideo YouTube o'i gwaith byddaf yn rhyfeddu wrth iddi ymgolli yn ei morthwylio ei hun, a’r donyddiaeth sydd iddi hi yn ‘synfyfyriol’. Wedi gweithio mor rhugl, mae’n tarfu ar ein dealltwriaeth ddilynol drwy drefnu’r lletwad ar ffurf ysgol. Erbyn i Ndidi orffen ei champwaith mae iaith arian wedi’i gyfieithu yn delyneg o olau.

Ond mae arian ei hun yn siarad ei iaith gymhleth ei hun. Ynghlwm yn hanes deunyddiau cysegredig, aur a diemwntau Gorllewin Affrica mae trais, fel diemwntau gwaed Sierra Leone a rhyfel y Stôl Aur yn Ghana. Yn ddiweddar mae’r newyddion am ddwyn cerfluniau efydd Benin wedi ychwanegu elfen wleidyddol bellach at weithiau artistiaid o Affrica a’r deunyddiau a ddefnyddiant. Ond mae Ndidi codi uwchlaw hyn drwy ei ddefnyddio fel ei llais, gan gan ddweud ei hun bod ei thechneg codi â llaw yn rhan o’i gwreiddiau yn Nigeria. Wrth ei gwylio’n gweithio mae’r modd y bydd yn defnyddio ei chorff cyfan i dylino’r metel yn ymdebygu i ddawns rhyddmig.

Fodd bynnag, mewn cyd-destun Ewropeaidd, mae gofannu arian yn symbol o foeth a chyfoeth. Mae gwisgo gemwaith ar y dwylo mor boblogaidd ag erioed, o fodrwyau aur ac arian gilt o’r oesoedd canol i fodrwyau dyweddïo a phriodas heddiw, ond mae eto’n cario yn herfeiddiol ar eich dwylo symbol imperialaidd. Dengys ymchwil bod cyswllt rhwng argaeledd cynyddol arian a phwnsh yn Ewrop yn gysylltiedig â’r fasnach gaethweision ar draws Cefnfor Iwerydd, gan ychwanegu haen arall o gymhlethdod at fwriad Ndidi wrth greu Silver Punchbowl and Ladle. Tu hwnt i gymhlethdod hunaniaeth yr artist felly mae sawl modd y gall y gynulleidfa ddehongli Silver Punchbowl and Ladle. Fe’i dyluniwyd ym 1999 ar gomisiwn, gan herio’r diffiniad o Gelf Gymwys.

Gofynnwyd i Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymwys Amgueddfa Cymru, a oedd ymarferoldeb yn hanfodol i’r diffiniad o Gelf Gymwys, ac fe ddywedodd yntau: ‘Mae Celf Gymwys yn aml yn gategori dadleuol - caiff ei ddefnyddio’n aml i grwpio gwrthrychau wedi’u creu o’r un defnydd (clai, arian, gwydr ac ati) heb ystyried cymeriad y gwrthrych (pam llai o bwys yn cael ei roi ar ffigwr clai nag ar ffigwr tebyg o farmor neu efydd?). Fy marn bersonol yw nad oes yn rhaid i weithiau celf gymwys fod yn ymarferol. Ryw i’n credu hefyd bod dosbarthu celf i gategoriau (celf gymwys, celfyddyd gain, crefftau ac ati) yn arfer eithaf mympwyol, ac y dylid barnu gwrthrych am ei nodweddion ei hun ac yn ôl gofynion yr artist, y gynulleidfa neu’r defnyddiwr.’

Caiff y rhan fwyaf o gategoriau a dosbarthiadau heddiw eu trefnu yn unol â rhagfarn ddofn (dosbarth, hil a rhywedd) sy’n greiddiol i gymdeithas. Felly mae dosbarthu gwaith Ndidi Ekubia fel celf ymarferol yn unig, dan faner Celf Gymwys, neu fel Celf Affricanaidd neu Brydeinig hyd yn oed, yn teimlo’n arwynebol. Ond er mwyn ei drafod, mae’n bwysig ystyried ei gwaith yn rhinwedd y farchnad sydd ohoni. Gellid dadlau taw’r bygythiad mwyaf i’r artist cymhwysol, o ganlyniad i’r pandemig yn ogystal â datblygiad technegol ym mhob diwydiant, yw y bydd eu gwaith yn cael ei ddigido a’i ddibrisio. Gydag nifer o amgueddfeydd yn cau neu’n gweithredu ar-lein o ganlyniad i’r cyfnod clo, ni ellir gweld gweithiau megis Silver Punchbowl and Ladle yn y cnawd fel y bwriadwyd. I ofaint arian fel Ndidi, gyda synhwyrau gweld a chyffwrdd mor bywsig i werthfawrogiad eu crefft, caiff elfen allweddol ei golli wrth i’r farchnag esblygu. Ac fel gydag unrhyw ddiwydiant arall, mae Celf Gymwys yn wynebu cystadleuaeth gan feysydd eraill, megis celfyddyd gain a ccchrefftau, fydd â goblygiadau ariannol i artistiaid ac amgueddfeydd bwy gilydd wrth bennu gwerth buddsoddiad wrth gomisiynu. Mae diffyg cynrychiolaeth mewnyod du ym myd celf Prydain yn gyffredinol hefyd yn golygu nad yw un elfen o gymdeithas yn cael eu gwerthu i’r brif ffrwd. Mae artistiaid fel Ndidi felly’n wynebu bygythiad o bob cyfeiriad.

Er hyn, efallai taw’r bygythiadau sy’n gwneud y diwydiant celf yn un mor anodd i fenywod o dras Affricanaidd yw’r union beth all eu cysylltu. Wedi’r cyfan, yng nghanol cythrwfl gwleidyddol bydd nifer ohonom yn troi at gelf a diwylliant am arweiniad. Fel y dwedodd Nina Simone - cantores, cyfansoddwraig, pianydd ac actifydd Americanaidd o dras Affricanaidd - ‘dyletswydd artist, yn fy marn i, yw adlewyrchu’r oes.’ Mae’n hanfodol felly, yng nghanol cythrwfl cenedlaethol, bod pobl ddu ym mhob cwr yn creu cysylltiadau diwylliannol rhwng gwledydd a chyfandiroedd ym mha bynnag gyfrwng. Er cymaint y newid annaearol yn y byd, mae trefn gorthrwm hiliol yn parhau i bobl ddu ar draws y byd.

Mae powlen bynsh Ndidi i raddau yn cynrychioli gwleidyddiaeth pobl ddu yn yr hinsawdd newidiol hwn. Gwelir yng ngwead ei gwaith symud a mudiad cyson; gair sydd wedi ei gysylltu â phrotest sifil pobl dduon ers y 1800au, pan ddechreuodd diddymwyr wrthsefyll y mudiad gwrth-gaethwasiaeth, hyd protestiadau Bywydau Du o Bwys yn 2020. Hyd yn oed mewn pandemig bydeang oedd i fod dod â’r byd i stop, mae calonnau pobl ddu yn dal i guro, a’r mudiad i wrthsefyll eu trawma yn parhau. Mae statws cyffredin pobl ddu fel dinasyddion is yn parhau yn rhan o drefn y byd, ac mae parhad y grym anghytbwys hwn yn tanio pobl ddu ledled y byd.

At hyn, mae arddangos gwaith Ndidi Ekubia yn Amgueddfa Cymru yn ei hun yn anghyffredin. Er bod digonedd o ddeunydd crai yng Nghymru (diolch i sgil-gynnyrch y diwydiant plwm) bychan yw ei diwydiant gofannu arian, o’i gymharu â chymdogion fel Lloegr. Mae comisiynu’r gwaith hwn felly yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y diwydiant gofannu arian. Ar hyn o bryd mae Silver Punchbowl and Ladle yn rhan o gasgliad sydd ar fenthyciad hirdymor i Amgueddfa Cymru gan Ymddiriedolaeth P & O sy’n cefnogi gofaint arian newydd drwy gomisiynu gwaith. Roedd yr ymddiriedolaeth yn chwilio am bartner newydd yn 2007 pan oedd Amgueddfa Cymru yn datblygu casgliad arianwaith cyfoes, a dechreuwyd y casglu ar y cyd â’r Cyngor Crefft yn Llundain.

Fel y modrwyau aur ac arian y mae dynion wedi gwisgo ar eu dwylo ers cyn cof, gellir gweld Silver Punchbowl and Ladle fel eitem sydd mor gyfarwydd nes cael ei hanghofio. Fel gyda phlatiau cerameg sy’n troi’n lestri brwnt, fydd dyn ddim bob tro yn gwerthfawrogi crefft gelfyddydol ein heitemau bob dydd. Ond nid eitemau bob dydd yw powlen bynsh a lletwad. Wrth ystyried bwriad Ndidi wrth greu’r bowlen hon, rwyf yn rhyfeddu ar y rhimyn llydan a’i ddychmygu’n llawn i’r ymylon o bynsh Ewropeaidd neu gawl Nigeriaidd. Wrth astudio’r lletwad rwyf yn dychmygu blasu llymaid hael o’r hylifaau hyn, yn boeth a rhugl, yn llenwi cwpanau a phowlenni i leddfu’r llwglyd. Mae’r bowlen a’r lletwad yn drosiad am foddhad a digonedd.

Ond wrth edrych wedyn ar y rhigolau yng ngweithiau Ndidi rwyf yn cael fy atgoffa o newid parhaus - newid naturiol ond anodd dygymod ag ef. Rwy’n dychmygu’r artist yn morthwylio’r atgofion trefedigaeth o’r metel, ac fel drwm mae gan ei morthwyl ei llais ei hun. Y fflam chwyth sy’n goron ar y cyfan, yn llosgi unrhyw weddillion trefedigaethol ymaith.

Mewn cyfnod o ansefydlogrwydd byd-eang mae’n anodd cael eich traed danoch. Wrth i’r llywodraeth wahardd cyffwrdd, rhaid i ni’r bobl gyffredin gadw’n pellter, cario hylif diheintio, a golchi’n dwylo i waredu’r hyn na welwn, yn ffigurol a materol.

Ond yng nghanol yr ansicrwydd i gyd, mae’r hyn a welaf yng ngwaith Ndidi Ekubia yn rhoi gobaith. Wrth iddi blethu arianwaith a Chelf Gymwys rwyf yn cael fy atgoffa, fel menyw ddu yn y Gorllewin, o fraint anghofiedig bwyd a maeth. Ac wrth gydnabod hanes gofaint aur ac arian rwyf yn cofio’r frwydr fud y byddwn yn ei hymladd bob dydd. Rwyf yn gweld gobaith wrth ddychmygu’r teimlad o ddal y bowlen a’r lletwad yn fy nwylo, pan fydd y pandemig ar ben a rhywbeth, o’r diwedd, i’w ddathlu.

Korkor Kanor
Twitter: @KorkorKanor
Facebook: Korkor Kanor
LinkedIn: Korkor Kanor

Share


More like this