Fe dreuliais amser maith yn meddwl sut y byddwn i’n ysgrifennu’r erthygl olygyddol hon. Byddwn i’n dihuno yn y tywyllwch i sibrwd syniadau i fy ffôn. Daeth y meddyliau’n gydymaith wrth nofio yn y pwll lleol, wrth i mi ymarfer fy monolog yn fy mhen gyda phob tro. Ac yna mewn newid sydyn, bron (sy’n aml yn digwydd pan fyddwn ni’n ymddiried yn ein hunain) sylweddolais fod yn rhaid i mi ddilyn y cyngor a roddais innau i bobl, ac ysgrifennu o’r galon. Mae’r rhifyn hwn o Cynfas - pedwar traethawd a darn llai yn cynnwys gwaith o gasgliad Amgueddfa Cymru - wedi’i ysgrifennu o brofiad personol, gan edrych ar y celfyddydau ac iechyd yn y person cyntaf. Fy nod i felly yw gosod y sylfaen.
Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi cydweithio â myfyrwyr gofal iechyd wrth hyfforddi myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a meddyginiaeth. Y sbardun oedd ceisio canfod a dod i ddeall yr hyn oedd yn debyg rhwng addysg nyrsio a’m gwaith fel artist, cynhyrchydd ac addysgwr, fel rhywun sy’n creu ac yn meddwl gyda, a thrwy edau. Mae’r dyniaethau meddygol neu glinigol yn faes eang, a does dim byd newydd am ddysgu o’r celfyddydau gweledol (neu unrhyw gelfyddyd). Rhannwyd llyfrau a cherddi, trafodwyd gweithiau celf, gwyliwyd ffilmiau, darllenwyd blogiau, dilynwyd cyfrifon instagram. Cafwyd cip ar y cyflwr dynol o bersbectif gwahanol. Ysgrifennwyd traethodau a mynychwyd cynadleddau. Mae’r rhain yn hen arferion. Yr hyn sydd weithiau yn fwy o her yw siarad, neu greu o’r hunan. I ystyried beth mae bod yn ddynol yn ei olygu ‘fel petai’, fel y bydd y cohort myfyrwyr meddygol presennol yn trafod cywilydd - teimlad sy’n gyffredin i nifer o gleifion sy’n derbyn gofal iechyd. Sut mae cywilydd yn teimlo, yn edrych, yn ysgrifennu? Sut beth yw profi cywilydd, teimlo cywilydd, a chywilyddio rhywun? Mwy o brofion yw’r rhain. Nid ydynt yn teimlo’n wyddonol, ac nid ydynt wedi’i seilio ar dystiolaeth. Sut fydd hyn yn creu nyrs, bydwraig neu ddoctor da?
Rydw i’n troi yma at eiriau fy nghydweithwraig, Wendy, sy’n awdur. Rwyf yn crafu nodiadau mewn borderi beunydd, yn ceisio cofnodi doethinebau eraill, a pan fydd Wendy’n siarad bydd fy mhensel yn hedfan. Wrth ymateb i gwestiwn heriol ‘Beth yw ei ddiben?’ dyma hi’n atgoffa’r grŵp o artistiaid a myfyrwyr gofal iechyd bod pob llyfr yn adrodd stori rhywun, a’i bod hi’n anodd rhoi ein hunain yn sgidiau rhywun arall (os taw dyna yw empathi) heb gerdded ein hunain. Yr her fawr yw pontio’r gagendor hwn ac edrych yn ofalus ar ein hunain. Meithrin empathi yw hyn, ac nid yw’n digwydd dros nos. Yn Funny Weather: Art in Emergency dywed Olivia Laing; ‘Nid yw Empathi’n rhywbeth sy’n digwydd wrth i ni ddarllen Dickens. Mae’n waith. Yr hyn a wna celf yw darparu deunydd i ni feddwl - persbectif newydd, gofod newydd. Wedi hyn gyfaill, mae fyny i ti.’ (Cyfieithiad o Laing: 2020, 2)
Rydw i’n teimlo weithiau taw diben fy ngwaith gyda’r myfyrwyr gofal iechyd yw eu cefnogi i ddatblygu iaith dosturiol; gwaith caled fel y mae Olivia Laing yn ein hatgoffa. Rhywun dwi’n amau sydd wedi mynd i’r afael â hyn a’i gofleidio, yw Zain Amir, doctor yn y GIG sydd newydd ddechrau arbenigo mewn ophthalmeg. Yn ei ysgrifennu mae Zain yn datgelu ychydig am ei berthynas â chelf weledol, sut mae’n ei gynnal ac yn rhoi ysbaid angenrheidiol o straen ei waith meddygol.
Fel Zain, rydw i’n frwd dros gelf sy’n ennyn ymateb emosiynol a chorfforol hyd yn oed. Celf sy’n sbarduno awydd i ddarllen, meddwl, cofleidio, estyn, llefain. Dylai cyfarfyddiad celfyddydol sbarduno ymateb, i gerdded drwy dirlun, ffonio anwyliaid sydd yn ddieithr ers gormod o amser. Dyma’r hyn ydwyf am i gelf ei gyflawni, i mi.
Mae pawb sydd wedi ysgrifennu yma yn rhannu elfen o’u perthynas â chelf neu wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, a’u hystyr personol. Rydw i’n rhannu fy mherthynas innau hefyd. Ond cyn i mi wneud hynny gadewch i ni ystyried ymhellach y cyswllt rhwng celf, iechyd a lles.
Mae yna gelf sy’n ymestyn ein dealltwriaeth o wyddoniaeth, a chydweithio rhwng gwyddonwyr ac artistiaid o’r enw sci-art yn cyfrannu at ddealltwriaeth ymchwil newydd yn y maes iechyd a thu hwnt. Mae yna gelf sy’n clymu cymunedau, yn adeiladu ac atgyweirio, sy’n ymwneud ag agosatrwydd a gwerthfawrogi gwahaniaethau. Mae yna gelf hefyd sy’n lleddfu’n profiad o leoliadau lle y byddwn yn fwyaf bregus - ysbytai maes brys argyfwng Covid a wardiau chemotherapi - gan anwylo cyffyrddiadau caled bywyd. Felly hefyd y pethau bychain. Straeon personol o gyfarfod, cysylltu, ystyr a cholled. Profiadau dyddiol cyffredin sy’n rhan o’n naratif personol, ein hiechyd a’n lles. Dilysiant, tystiolaethu, gwrandawiad. Rydw i’n hoffi’r pethau mawr, yn eu caru hyd yn oed, ond y pethau bach sy’n bwysig i mi. Dwi’n berson sy’n poeni am y pethau bychain.
Rwyf yn chwilio am brofiadau personol, a’r celf a gaiff ei sbarduno gan hyn sy’n fy nenu. Pwytho diollwng Arthur Bispo do Rosário, a dreuliodd fwyafrif helaeth ei fywyd mewn ysbyty meddwl, yn casglu, gwnïo, cyfuno a gwneud synnwyr o bethau yn ei ffordd ei hun. Siaced bwythdrom Agnes Richter, cwilt carchar Changi, The Unfinished gan Kari Steihaug, 556 siwmper weu Loes Veenstra a gynhyrchwyd heb batrymau a heb roi dim un yn rhodd. Ysgythriadau hynod deimladwy Käthe Kollwitz, cyffes Charlotte Soloman Life? Or Theatre?, lapio tyner Judith Scott. Y gorffennol i gyd, bron, yn weladwy - profiadau mewn geiriau, a thu hwnt i eiriau. Crëwyd cymaint o’r rhestr hwn fel ymateb i drawma, weithiau mewn ymgais i gadw’r meddwl yn brysur, i drosgyfeirio, i leddfu neu fel tysteb. Dyma wir bŵer celf - gall roi llais i bethau tu hwnt i eiriau, i deimladau diddeall. Caiff un o’n hoff brojectau i gael ei greu o anghenraid ei rannu yn y rhifyn hwn. Fe ddaliodd un o staff yr Amgueddfa, Jade Fox, ei modelau o’r orielau i lens ddidostur ein cyfarfod Zoom. Fe greodd hi ei modelau 3D o ddeunyddiau oedd wrth law er mwyn canfod ystyr, creu ystyr, er mwyn cadw ci du iselder draw.
Teimlaf lawnder bywyd yn y cyfan hwn. Mae rhywbeth am brofi colled, cariad, poen a brwydr eraill sy’n meithrin brawdoliaeth, ymdeimlad o berthyn, ac atgof nad oes dim yn para am byth. Digon i’r diwrnod... daw eto haul... Ond siarad am fy un ydw i yma, mae gen i gynulleidfa. Sut deimlad yw bod heb y cyfle hwnnw, heb sedd wrth y bwrdd, i gael rhywun arall yn siarad ar eich rhan o hyd? Yn ei thraethawd mae Amanda Wells yn ein hatgoffa o frwydrau parhaus artistiaid anabl, sut mae rhwystrau corfforol a chymdeithasol yn parhau ym meysydd addysg, creu a chynrychiolaeth, a sut mae casgliadau sefydliadau cenedlaethol mawr yn ategu’r diffygion hyn. Mae llwyfan a chynrychiolaeth yn elfen fawr o iechyd a lles.
Mae rhai pethau’n anodd eu gweld - mae eu gwirionedd yn atsain ymhell wedi i ni droi’n llygaid heibio. Gwaith felly yw Yn Nhŷ fy Nhad gan Donald Rodney. Cafodd Donald ei eni flwyddyn cyn fi yng Nghanolbarth Lloegr - lle anodd i ddyn du yng nghymdeithas agored hiliol y 1970au. Bu farw’n ifanc o gymhlethdodau yn deillio o ddioddef Anaemia Crymangell, cyflwr genetig etifeddol. Mae Yn Nhŷ fy Nhad Nhad Gwelwn law chwith Donald yn gorwedd ar gynfas wen. Yn ei law mae tŷ bychan, bregus wedi’i adeiladu o ddarnau o’i groen ei hun, yn edrych fel hen femrwn sych a chwyrog wedi’i blygu. Gyda’r drws bychan, y to tyllog a’r waliau treuliedig wedi’u dal ynhŷd gan binnau, mae’n dy anodd i fyw ynddo.
Roedd gwaith Donald Rodney yn hynod wleidyddol. Defnyddiodd ei gyflwr fel modd i drafod nifer o faterion, gan gynnwys hiliaeth strwythurol, felly nid ydwyf am honni taw cyfleu’r profiad o fyw gydag anaemia crymngell yn unig y mae hwn, ond mae’n anodd anghofio taw dyma gnawd Donald, wedi’i dyllu eildro. I mi mae’r pinnau syth gyda’u pennau bach crwn gaiff eu defnyddio i deilwra gwisgoedd yn ein hatgoffa o gorff wedi’i ddilladu, yn ogystal â’ chnawd y corff ei hun. Mae’r wisg a’r tŷ ill dau yn bethau y byddwn yn byw ynddynt, ac nid o reidrwydd yn gyfforddus. Mae’r tŷ pitw hwn, a’i gyfeiriadau at fyw gyda ac o fewn, yn cael ei gyflwyno fel trosiad, cwestiwn, neu her hyd yn oed. Mae’n waith o brydferthwch bregus, ac mae’n galonogol deall ei fod yn rhan o arddangosiad addysgiadol i blant ysgol yn Tate Lerpwl.
Rwyf yn gwerthfawrogi tynerwch, a dyma a welaf yn fy ail ddewis o gasgliad Amgueddfa Cymru, Pum munud cyntaf baban, Port Jefferson, 1959 gan Eve Arnold. Un o’r pethau sydd wedi ei wahardd i ni ar hyn o bryd yw gyswllt corfforol. Mae gennyf ffrindiau sy’n byw ar eu pen eu hunain, sydd wedi treulio misoedd heb gyffwrdd croen arall. Mae digonedd o ymchwil yn dangos pwysigrwydd seicolegol cyswllt corfforol. Lle da, ond anghysurus i ddechrau yw astudiaeth Harry Harlow o gyswllt mamol ymhlith primatiaid. Rydw i wedi gweld fy mam unwaith ers mis Mawrth, a hyd yn oed bryd hynny, ar ei phen-blwydd, allwn i mo’i chofleidio. Mae Mam yn rhoi cwtsh da, felly roedd ymatal rhag y pleser hwnnw yn anodd iawn.
Os yw cyffwrdd croen wedi’i wahardd am y tro, efallai y gallwn ei fwynhau drwy rywun arall? Dyma lle daw Pum munud cyntaf baban Eve Arnold i’r adwy. Mae bysedd mam yn ymestyn i gyfarfod bysedd ei baban newydd-anedig, yn dal yn ei grafanc ysgafn. Cyfuna cnawd wedi’i oleuo’n gelfydd i greu gorwel arbennig, gwawr yn codi o waelod y ffrâm. Mae’n rhaid bod hon yn foment anodd i Eve ei gwylio o ddeall ei thrawma diweddar hithau, yn colli plentyn a dioddef hysterectomi ychydig cyn tynnu’r llun hwn. I mi mae ysgafnder y cyffyrddiad yn cyfleu gobaith, ac mae gobaith yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ddal ato. Rwyf hefyd yn deall cymhlethdod cyffyrddiad - nid yw bob tro yn synhwyrus bleserus, a gall delweddau fel hyn sbarduno gorbryder a thristwch. Gall celf ddatgelu ofnau, dangos ein bregusrwydd, datod ein hymylon tynn, taclus. Ond gall yr eiliadau anghyfforddus yma, er mor annymunol, fod yn gam cyntaf at ddilysu, tystiolaethu, cydnabod, a gwella. Maya Angelou ddywedodd, ‘Nid oes ing mwy na chario stori heb ei hadrodd.’ Yn ei thraethawd mae MC Davies yn trafod y cyfarfyddiad dadlennol, gan rannu’r profiad o ganfod ei hun yng ngwaith rhywun arall, a sut y gall agor y drws arwain at ganlyniadau positif.
Wrth osgoi cyffwrdd, mae cadw mewn cysylltiad hefyd yn her. Gyda chynifer ohonom yn byw pob elfen o’n bywydau gartref, mae clymau cymdeithasol cymuned a gofodau ymgynnull a feithrinwyd dros flynyddoedd lawer, yn dechrau simsanu. Fel rhywun sydd â diddordeb ym mherfformiad gwrthrychau materol fel dolenni dilyniant (Klass, 1996) neu leoliadau atgofus (Turkle, 2011), moment gyffrous oedd canfod project Cysur mewn Casglu a lansiwyd gan Sharon Ford, Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli yn Big Pit Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r project yn ymgais fechan, glodwiw i geisio adeiladu cysylltiadau cymdeithasol mewn cartrefi nyrsio a’r gymuned ehangach, drwy gyfrwng gwrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa.
Hoffwn gloi drwy ddychwelyd i’r dechrau, at dystiolaeth, defnyddioldeb a chylch llythrennol (o fath). Mae’n arferol mesur effaith project, yn enwedig pan fod angen cyfiawnhau neu ganfod nawdd allanol, ac mae’n bleser gallu rhannu dull dyfeisgar i fesur lles. Ar ddechrau’r pandemig fe weithiodd Maria Hayes gyda YLab Wales
Caiff celf a iechyd eu diystyru weithiau fel testunau ‘meddal’. Yw testunau cyferbyniol ‘caled’ yn fwy clodwiw? Ydyn nhw mewn gwirionedd yn destunau ‘meddal’? Fydd hi ddim yn sioc i chi glywed nad wyf i o’r un farn. Rwyf yn credu yn hytrach, fel y gwelir yn nhraethodau’r rhifyn hwn, bod y mae celf ac iechyd yn cwestiynu, herio, pryfocio, grymuso a gweddnewid. Bywyd ei hun yw celf a iechyd.
Hoffwn ddiolch i Zain Amir, MC Davies, Maria Hayes ac Amanda Wells am draethodau dadlennol, teimladwy, sy’n pigo’r meddwl ac weithiau’n herio. Diolch hefyd i Becky Adams ei hadnodd cwiltio hyfryd - cyfle i chi gael cysur wrth greu. Rwyf yn ddiolchgar i staff Amgueddfa Cymru, yn enwedig Lisa Edgar a Jake Griffiths, am eu cefnogaeth wrth gasglu ynghyd yr ail rifyn hwn.
Klass, D et al (1996) Continuing Bonds: New Understandings of Grief. London: Taylor and Francis
Laing, O (2020) Funny Weather: Art in an Emergency. London, Picador.
Turkle, S. (ed) (2007) Evocative Objects: Things we think with. Cambridge, MA: MIT
Angela Maddock:
Mae gan Angela Maddock Ddiddordeb arbennig ym maes celfyddydau a iechyd ac mae’n gweithio gyda myfyrwyr gofal iechyd. Ei diddordeb pennaf yw sut y byddwn yn iaith tecstilau a phrofiad yn ein bywyd bob dydd a sut y gallwn ddefnyddio methodoleg tecstilio i ymchwilio ac ymgysylltu. Mae ei phractis yn cynnwys gwehyddu tapestri, adeiladu 3D, gweu, brodio, pwytho a chwiltio. Yn Hydref 2018 dyma Angela yn olrhain ei hedefyn ei hun drwy gerdded o Gaerfyrddin i Middlesbrough yn dilyn cyfarwyddiadau ei ffôn symudol. Yn ei hymchwil presennol mae’n defnyddio methodoleg tecstilio i edrych o’r newydd ar archif Anna Freud. Mae ei phroject creadigol presennol, In Kind yn ddeialog sy’n cyfnewid straeon am atgyweirio gwrthrychau edafedd. Cafodd Angela ei magu yng nghanolbarth Lloegr ac mae bellach yn byw yn Abertawe.