ACT1 - DIWRNOD 1
20:30
Rydw wedi siglo i lonyddwch naturiol. Mae fy symud wedi stopio a gallaf deimlo’r brosesau awtomatig yn symud tu fewn i mi. Grwndi dwfn o’r bol. Sychder gludiog fy gnheg feddal. Pryd wnes i fwyta ddiwethaf? Yn bwysicach, pryd wnes i dorri syched?
Mae gwaith wastad yn fy atgoffa o’r môr. Rydw i’n caru’r arfordir. Ei newid dynamig parhaus sy’n fy nenu yn ôl bob tymor. Rwyf wedi hen anghofio clociau. Yn hytrach, rwyf wedi dysgu cadw’r amser o’r tro diwethaf y teimlais dywod cras rhwng bodiau fy nhraed, yng nghesail fy mraich, yn nghrchiau corneli fy llygaid. Caf fy synu bob tro gan ei newydd-deb. Rwy’n cofnodi fy mywyd yn ôl pob haf sydd wedi cynhesu fy nghroen.
Rwy’n canfod fy hun mewn coridor ysbyty wedi’i baentio’n las hyd at ganol fy mrest. Rai dyddiau, rwyf yn esgus dal fy anadl i gerdded ar ei hyd nes cyrraedd y pen bas. Weithiau byddaf yn ymladd am wynt hyd mer fy esgyrn, fel petawn wedi osgoi boddi.
Rwyf wedi meddwl sut brofiad yw bod yn glaf. Yn arnofio ar rafft o wely – i sgan CT a phelydr-X ac MRI, i’r Ward Strôc a Lifft 3, i’r Theatr, i’r ystafell Uwchsain – i mewn ac allan o berlewyg.
Y porthorion yn rhwyfo.
Y nyrs yn llywio.
linell IV fel mast
Ymlaen.
Ymlaen.
Nes taro rhyw arfordir anochel.
ACT2 – DIWRNOD 4
04:45
Symudaf at y llyfr gweddi agored ar y pulpud a dechrau darllen. Mae dawns gobaith ac arswyd meddygaeth i’w gweld ar ei gorau yma.
Mae oerfel gwlithog nos o haf yn treiddio drwy’r ffenestri dwbl ac yn cyffwrdd fy mraich noeth wrth i mi droi pob tudalen. Cyfraf nifer y cofnodion ers i mi fod yma ddiwethaf. Rwyf yn teimlo fy mod yn busnesu... ond darllenaf beth bynnag.
Wyddaf i ddim pwy ydyn nhw. Fydd pobl ddim yn gadael eu henwau. Mae i’r llawysgrifen rhugl ar y papur ryw dawelwch terfynol. Yn gofyn bendith, gofyn gwyrth, gofyn heddwch.
Bydd pennill olaf y gerdd X-Ray, gan y bardd a’r radiolegydd Dannie Abse, yn atsain yn fy mhen bob tro y dof yma. Ynddo mae arswyd enbyd wrth i ni orfod dyneiddio ein gwrthrychaeth. Rwyf wedi dysgu anadlu drwy bob darn o dystiolaeth fydd fel gwayw i’r cylla. Mae’n arswyd angenrheidiol ofnadwy.
Fyddaf i byth yn anghofio’r person cyntaf y gwyddwn fyddai’n marw cyn diwedd y diwrnod. Y teimlad o wybod. Y teimlad wrth i’r wybodaeth lithro i esitedd yn drwm yn fy stumog. All neb ddysgu hynny i ti.
Mae 9 cofnod ers fy sifft nos ddiwethaf.
Mae’n rhyfedd weithiau sut y gall un llyfr deimlo’n fwy dynol.
ACT3 - DIWRNOD 3
Gorffwys.
Rywf wedi gyrru i’r arfordir heddiw. Yn y pellter gallaf weld llanw a thrai Bracelet, Limeslade, Langland, Caswell. Rwyf yn twyllo fy hun taw dim ond tu hwnt i’r un nesaf, ychydig pellach, y byddaf yn gweld Rhosili.
Gorffwys.Rwyf wedi cyrraedd fel mae’r gwyll yn disgyn. Mae angen i mi newid fy nghylch cwsg yn barod am fy sifft nos, ond mewn gwirionedd, rydw i wastad wedi bod ag awydd gwylio’r Iwerydd wrth fachlud.
Ac nid wyf yn cael fy siomi.
Ger Rams Tor rwy’n dewis pwyso am y môr.
Gorffwys.Cymryd y cyfan.
Gorffwys.Rwyf wedi dewis cymryd Cefnfor Iwerydd i gyd yn fy nghwsg.
Rwyf am i rywun lapio’r dillad amdanaf.
Mae’n 11:30 pan fyddaf yn gyrru nôl adref i Gaerdydd o’r diwedd.
Mae’r teulu yn fy nghanfod yn y gegin. Rwyf wrthi’n bwyta eirin Marchnad Splott oerfelys o’r oergell. Eu crwyn porffor yn torrri’n suddog ar fy ngwefus.
Maent yn gofyn: Wnes ti orffwys?
Wnaeth y cefnfor i gyd dy orffwys?
ACT 4 – DIWRNOD 1
15:15
Mae fy mreichiau’n drwm ac yn orlawn o blatiau Ishihara garw, siart Snellen 3 metr, tonomedr adlam a lamp hollt sumudol. Yng nghesail fy mraich mae opthalmosgôp ac yn gorlifo o bocedi fy ngwisg mae diferion llygaid, rhwystrydd llygaid, pen a phapur ac enw’r claf sy’n gaeth i’w wely mae’n rhaid i mi ei weld.
Rwyf wedi ymarfer trefn y profion ar ymchwil fydd yn rhaid i mi eu gwneud, drososodd a throsodd wrth dwrio drwy’r adran cleifion allannol yn caffael fy offer.
Yn fy meddwl hefyd rwyf yn cario nifer y llythyrau fydd yn rhaid eu harddweud wedi dychwelyd a’r nifer cynyddol o gleifion sy’n gopa parhaus ar y gorwel. Ond mae hyn yn bwysig.
Cwestiwn syml sy’n rhaid i mi ei ateb: faint all y person hwn ei weld?
Mae’r offer sy’n cydbwyso’n beryglus yn fymreichiau yn ddarlun o elfennau gwahanol ein golwg. Pob diagnosis yn treiglo fel fjord yn fy ymennydd.
Rhaid gwirio hyn. Rhaid dogfennu’r llall.
Rwyf yn codi hwyl, dadio’r cwch, ac wrth estyn am fy rhwyf dyma wthio drws adran lygaid y cleifion allannol ar agor, a bwrw iddi.
Rwy’n aros.
O fy mlaen mae cynfas mawr, yn llenwi’r wal hyd at ddwy ran o dair eu huchder.
Y Traeth yw’r teitl. haenau haniaethol o dywod melyn ac aur yn arwain at glytwaith o fôr glas wedi’i bwytho. Gwelwn ymestyn y cynfas drwy swigod trwchus y paent acrylig sy’n dod â’r twyod yn fyw yn eu haenau. Gallaf glywed, bron, wichian y tywod cras, a sut y mae’n pylu cyn troi’n gefnfor.
Taenwyd y paent glas yn llinellau clir gyda chrib o drionglau gwyn. Gallwch deimlo gwacter y gofod cyn i’r don daro.
Mae’r mor yn ymdoddi i’r wybren gymylog. Gallaf deimlo awel drom diwedd haf mewn coridor ysbyty gaeafol, oer.
Mae’n fy nharo fod hwn wedi bod yma erioed.
Rwyf wedi crobian drwy lygad fy meddwl a’i ganfo yno yng nghjornel fy llygaid ers misoedd. Ond dyma’r tro cyntaf i mi ei weld.
ACT 5 – DIWRNOD 1
18:00
Rwyf yn canfod fy hun mewn oriel gelf. Un go iawn. Ond rwy’n dal yn fy nillad gwaith, mae fy negesydd plŷg yn dawel fel y bedd ac mae gennyf frechdan gaws mewn ffilm a bar siocled wrth fy ochr – heb eu cyffwrdd.
Rwyf mewn ystafell siâp ciwb gyda waliau o liwiau cyfoethog yn llawn gweithiau celf o fri cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r golau’n gynnes. Nid oes cerddoriaeth. Mae arwydd ar y wal yn fy ngwahodd i ddefnyddio’r gweithiau fel sbardun i gyfansoddi haiku a’i adael yn ddienw. Yma a thraw yn ysr ystafell mae sawl soffa fawr sgwâr. Rwyf yn eistedd ar un ohonynt, Rwyf ar ben fy hun.
Pan fyddwch chi’n dechrau chwilio am y gweithiau celf mewn ysbytai, rydych chi’n sylweddoli nad moment unigryw yw hon. Rwyf wedi canfod coridorau gyda phrintiau, ystafelloedd clinig gyda lluniau pastel, ac wedi aros am y lifft mewn cynteddau o ddyfrluniau. Byddaf yn dilyn y llwybr hiraf er mwyn ymweld â’m hoff weithiau drachefn.
Ond dyma’r tro cyntaf i mi weld oriel gelf lawn yn y gwaith. Cefais fy synnu gan y moethusrwydd. Saif ger prif dramwyfa’r ysbyty fel atodiad ychwanegol. Ac rwyf yn ddiolchgar.
O fy mlaen saif llun bywyd llonydd mawr o flodau a ffrwythau. Gallaf weld pob blagurun rhosog pinc. Mae’r fâs sy’n eu dal yn las a gwyn. Gallaf weld ymchwydd tiwlipau porffor.
Mae ysbytai yn llawn hapusrwydd ac arswyd, gobaith ac anobaith. Gall celf yn y gofodau yma ymddangos fel baich ychwanegol. Gall deimlo fel moethusrwydd gorfleys ac allan o’i le o’i weld am y tro cyntaf. Mae yno un pabi neu benigan oren. Mae’n anodd dweud yn iawn pa un gan fod y dail yn fwriadol haniaethol. Yn hytrach, mae gwead ac arlliw neilltuol i’r bwlb. Mae gan ysbytai urddas sy’n cyflwyno gweithiau clef mewn modd gwahanol. Mae braint wahanol i’r gweithiau yma. Braint amser. Braint gofod corfforol a meddyliol. Braint iechyd corfforol a meddyliol.Mae’n cydnabod nad yw hyn yn iawn i rai pobl ar rai adegau.
Ond mae gofodau felly hefyd yn hanfodol. Mae hyn yn codi cwestiynau diddorol.
Sut mae creu a churadu gofod o’r fath?
All ysbytai fod yn leoliadau ar gyfer celf dadleuol?
A ddylen nhw fod?
Ddylai pobl gael eu hannog i drafod, neu i barchu gofod personol? Credaf bod y rhain yn gwestiynau anodd eu hateb, ac efallai taw diben celf mewn ysbytai yw nad oes unrhyw angen ateb cwestiynau o’r fath. Saif gellygen ac eirinen ar y bwrdd isod. Maent yn ymddangos yn wastad, fel petant wedi rholio o baled yr artist. Wrth gamu’n agosach gallaf weld bod golchiad melyn dros y gwaith i gyd. Mae’n adlewyrchu yn y golau. Weithiau mae’n hawdd profi celfyddyd. Mae’n ein hamgylchynnu. Ond mae rhywbeth am ysbytai sy’n gwneud iddo deimlo fel dewis ymwybodol. Bydd celf yn bersonol erioed a’r profiad o ymwneud â chelf mewn ysbytai yn fwy personol fyth.
Mae gofodau o’r fath wedi bod yn hanfodol i mi wrth gynnal cydbwysedd yn y gwaith. Maent wedi dysgu i mi bwysigrwydd oedi. Ymroi’n ymwybodol i weld. Ailosod. Ailorffwys. Ailddechrau. Pendronaf os yw pob gweithiwr yn ymddiddori yn eu gweithle yr un modd. Caf fy nenu gan Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis gan Gwen John. Mae symlrwydd plaen y gwaith hwn yn cyfleu myfyrdod dwys, dwys. Gwelaf fwy i’w ddarllen yma nag mewn portread. Mae’r darn yn ein gwahodd i fyfyrio, i weld offer tyner ei chrefft. Mae’r corneli meddal, cynnes a’r orig bersonol a gyflwynir ganddi yn amlygu dynoliaeth ei gwaith artistig. Teimlaf bod dynoliaeth y gofal hwn yn ein gwahodd i gyflwyno eiliadau tebyg o fyfyrdod yn ein gwaith artitsig a’n lles personol. Boed hynny yn gadair, desg a ffenest ym Mharis neu yn y gwaith gyda brechdan a chelf yn gwmni. Dihuna fy negesydd plŷg â llef.
Rywf yn cael fy ngalw yn ôl.
Rhoddaf y frechdan yn ei ffilm yn fy mag.
Pocedaf y siocled rhag ofn.
ACT 6 - DIWRNOD 2
08:45
Wrth i fi newid o ddillad cartref i ddillad gwaith a pharatoi fy sytafell yn y cyfnod Covid, rwyf yn gwneud yn siŵr fy mod yn agor yr hollt llorweddol yn y ffenest sy’n uchel uwch fy mhen tu ôl fy nghadair. Ei bwriad yw rhoi mynediad i olau ac awyr iach, ond teimlaf fy hun yn troi fy mhen yn anobeithiol i weld drwyddi. Rwyf yn ei hagor fymryd cyn galw fy nghlaf cyntaf.
11:30
Pasiodd y bore mewn rhes o brofion uveitis, cyfri celloedd siambr allannol, cynghori cleifion, dal llygad dros rimyn masg yn hwy nag arfer am na allaf ddal llaw. Dweud wrth bobl nad ydw i’n poeni. Dweud wrth bobl mod i’n poeni’n fawr. Dweud wrthyn nhw gydag empathi a chydymdeimlad ‘Mae’n ddrwg gen i. Mae’n wironeddol ddrwg gen i.’ pan allwn ni wneud dim arall.
Daw sŵn o’r pellter.
Bychan ond eglur. Murmur arian tywod a môr a chri ysbeidiol gwylanod. Och yr arfordir parhaus, rhymig, gorffenedig, dibynadwy.
Fel petai’n datgan:
Rwyf i yma.
Gall pethau newid.
Mae newid yn anochel.
Ond byddaf i yma.