Person anabl ac yn awdur ac artist anabledd ydw i sy’n gweithio yng ngogledd Powys. Rwyf yn defnyddio’r gair ‘anabledd’ gyda ‘awdur’ ac ‘artist’ oherwydd rwyf yn teimlo ei fod yn bwysig iawn dangos fy mod yn uniaethu â safbwynt gwleidyddol ymgyrchu anabl a’r model cymdeithasol, sy’n datgan taw nid ein hanabledd sy’n ein tramgwyddo, ond rhwystrau cymdeithasol ac anffafriaeth strwythurol. Mae gwahaniaeth cynnil rhwng artist anabl ac artist anabledd: mae gan artist anabl ryw fath o anabledd, tra bod artist anabledd yn creu gwaith sy’n ymdrin ag anabledd. Mae fy rhyddiaith a’m celf yn anorfod yn dod o safbwynt anabledd, mae fy nghelf yn adlewyrchu fy mywyd fel person anabl mewn cymdeithas abl. Hyd yn oed wrth baentio tirlun neu bortread o anifail, gellir gweld fy mhrofiadau personol.
Rwyf wedi defnyddio fy rhyddiaith wastad i drafod iechyd meddwl yn agored, ond doeddwn i ddim yn ymwybodol wrth ddechrau paentio bod gan fy nghelf un rhywbeth i wneud â fy iechyd meddwl neu fy anabledd corfforol. Gydag amser, fodd bynnag, dechreuodd materion anabledd ymddangos, a gadewais i hyn ddatblygu gan arbrofi â dulliau gwahanol o gyfleu hyn mewn celf oedd yn bennaf haniaethol. Rwyf yn defnyddio lliw a siâp i gyfleu syniadau a theimladau. Cefais fy ‘ngeni’ fel artist yng Nghymru, ym 1992 pan gefais fy annog wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl dyddiol i droi fy llaw at gelf weledol am y tro cyntaf ers yr ysgol gynradd. Yn fy ngwaith gweledol rwyf yn defnyddio’r llysenw Ceridwen Powell fel cydnabyddiaeth o fy Nghymreictod, ac yn ysgrifennu fel Rosamund McCullain.
Rwyf hefyd yn gydlynydd ac yn aelod o Celf-Able, grŵp celf cynhwysol ym Maldwyn. Mae’r mudiad yn cael ei gynnal a’i arwain yn gyfangwbl gan bobl anabl, gan ddangos y gall pobl anabl gymryd yr awenau. Yn hytrach na manteisio yn oddefol ar wasanaethau, gall pobl anabl drefnu a darparu ar gyfer eu hunain a’r gymuned ehangach.
Yr hyn sy’n fy synnu i yw nad oes unrhyw bobl anabl, bron, i’w gweld yn y celfyddydau. Prin yw’r portreadau o bobl anabl gan artistiaid abl, a mwy prin fyth yw’r gwaith gan artistiaid anabl neu anabledd. Mae tipyn o waith ymchwil wedi’i wneud i brinder menywod mewn orielau celf ac yn y canon celfyddydol, ac mae’n rhyfeddol cyn lleied o waith menywod sydd yn y casgliadau mawr. Sefydlwyd y Guerilla Girls ym 1985, ac mae nhw’n defnyddio geiriau, delweddau a hiwmor heriol i roi llais i ffeministiaeth a gyrru newid cymdeithasol. Maent wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a chreu projectau am y byd celf, byd y ffilmiau, gwleidyddiaeth a diwylliant poblogaidd. Teithiant y byd yn trafod pynciau llosg ac yn rhannu eu profiadau fel arwyr cartŵn ffeminist, yn amlygu’r anghyfiawn a’r annheg ar faterion rhywedd a thu hwnt. Mae’r academydd Griselda Pollock - hanesydd celff ffeminist a damcanydd diwylliannol arferion a hanes celf - yn herio modelau celf a hanes celf arferol sydd wedi celu rôl menywod yn y byd celf tra’n edrych ar y strwythurau cymdeithasol sy’n arwain at y celu hwn. Mae’n edrych ar gydberthynas categorïau cymdeithasol rhywedd, dosbarth a hil. Ond prin yw’r ymchwil i’r portread o bob anabl yn y byd celf, fel artistiaid neu fodelau. Rwyf newydd ddechrau gradd doethuriaeth ym Mhrifysgol Leeds fydd yn ymdrin â’r union fater hwn.
Rwyf yn gobeithio cael gwell hwyl arni yn Leeds nag mewn prifysgol arall lle astudiais i ar gyfer MA mewn Celfyddyd Gain rhwng 2017 a 2019. Rhannais fy ngofynion mynediad gyda nhw yn fy nghyfweliad a chyn cofrestru ac roedd gennyf Lwfans Myfyriwr Anabl i gyfrannu at y gofynion mynediad, ond doedd y brifysgol yn methu deall yr hyn oedd yn ofynnol. Fe gymerodd hi 18 mis i ddarparu cadair addas. Ar y diwrnod cyntaf roedd yn rhaid i mi wynebu grisiau serth a thaith hir i’r llyfrgell, ac ar ben y grisiau roedd yn rhaid i mi aros a dweud wrth y grŵp ‘Mae’n flin gen i, alla i ddim dod’. Y profiad hwn a ysbrydolodd fy mhaentiad cyntaf tra’n fyfyriwr, How It Feels When People Or Situations Disable Me, ac fe ddangosais i hwn mewn lle amlwg yn fy stiwdio er mwyn i bawb gael y neges. Ond roedd ymladd y frwydr yn erbyn agwedd yn anoddach na’r frwydr gorfforol. Roeddwn wedi gwneud yn glir taw celf anabledd oedd fy niddordeb, ond doedd dim lle yn y cwricwlwm i mi ddilyn fy niddordeb, a doedd fy nhiwtoriaid ddim yn ‘deall’ fy ngwaith celf o gwbl (yn wir, roedd yn rhaid newid fy ngwaith gradd DWP R.I.P. rhwng ei osod ac agor y sioe raddio). Rwyf wedi clywed straeon tebyg gan artistiaid mewn prifysgolion eraill. Nid yw estheteg celf anabledd o reidrwydd yr un peth ag estheteg sefydliadol, ond mae ceisio newid sut y mae artistiaid yn mynegi eu hunain er mwyn ffitio rhyw syniad o ‘normalrwydd’ yn tagu lleisiau artistiaid anabl ac anabledd.
Cyhoeddwyd maniffesto yn ddiweddar gan grŵp amlwg o artistiaid anabledd. Yn Not Going Back To Normal mae Nelly Dean yn dweud,
Mae sefydliadau celfyddydol yn trin artistiaid Anabl a Byddar yn wahanol – dydyn nhw ddim yn ystyried ein gwaith o safon, dydyn nhw ddim yn deall ei wleidyddiaeth. Mae nhw’n ei farnu’n israddol. Rhaid i hyn newid.
Ers 2010 mae polisïau cynni wedi cwtogi’r arian a’r gwasanaethau lles y mae pobl anabl yn dibynnu arnynt, gan gostio eu bywydau i filoedd lawer a thaflu’r hawliau a frwydrwyd mor galed amdanynt yn ôl ddegawdau. Mae pobl anabl yn gweld y perygl i hyn ddirywio ymhellach dan fesurau Covid, ac mae artistiaid anabl ac anabledd wedi mynd ati o’r newydd a lansio ymgyrch We Shall Not Be Removed Cafwyd diwrnod o weithredu ar y cyfryngau cymdeithasol ar ddydd Mercher 17 Mehefin gydag artistiaid anabl o bob cwr o’r DU yn dathlu’r cyfoeth a’r amrywiaeth o gelf gynhwysol ar Twitter Instagram a Facebook gyda’r hashnodau #WeShallNotBeRemoved ac #EndAbleism. Cynlluniwyd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r amodau mwyfwy annheg i bobl anabl yn y diwydiannau creadigol o ganlyniad i’r pandemig, gyda nifer o artistiaid anabl yn gorfod gwarchod am gyfnod hir gan golli incwm a llwyfan cymdeithasol.
Beth sydd i’w weld felly wrth astudio casgliadau Amgueddfa Cymru? Wrth chwilio am y term ‘anabl’ mae’r rhan fwyaf o ganlyniadau yn cwympo i’r categori hanes cymdeithasol a diwylliannol. Mae yno offer prosthetig hynafol, gan gynnwys atodiadau i fraich ffug John Williams o Benrhyncoch, a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymhlith y teclynnau amrywiol mae bachyn, morthwyl, a llawer mwy gyda’r bwriad, mae’n debyg, i alluogi Mr Williams i barhau i weithio. Heb Wladwriaeth Les roedd yn rhaid i bobl anabl ennill eu bara menyn ym mha bynnag fodd posib. Tebyg felly yw’r doliau gan Gwmni Teganau Dyffryn Clwyd yn Nhrefnant oedd yn cyflogi milwyr wedi anafu yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y casgliad hefyd mae mwclis a bwcl addurniadol a wnaed yn ystod therapi galwedigaethol gan y Corporal Walter Stinson o 11eg Bataliwn Sir Llundain (Reiflwyr Finsbury) oedd yn glaf yn Ysbyty VAD y Groes Goch Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gellir gweld hefyd ddillad Hopcyn Hopkins (Hopcyn Bach) a anwyd gyda chyflwr corachedd ym 1737. Yn 14 oed aeth ei rieni â Hopcyn i Lundain a’i ddangos yn gyhoeddus am arian. Cafodd y ‘Cymro Bach hyfryd a rhyfeddol’ ei gyflwyno i’r teulu brenhinol ym 1751 a roddodd oriawr aur iddo, pensiwn blynyddol a deg gini am bob ymddangosiad yn y Llys. Cafodd ei ‘arddangos’ ym Mryste'r un flwyddyn. Bu farw yn 17 oed.
Doedd yr arfer hwn o arddangos pobl anabl fel rhyfeddodau, am arian, yn gyffredin. Roedd Ysbyty Bethlehem, neu Bedlam i ddefnyddio’r enw poblogaidd, yn atyniad twristiaid lle gallai ymwelwyr dalu i rythu ar y ‘gwallgofiaid’. Byddai’r cleifion yn chwarae’r ffŵl o flaen yr ymwelwyr i ennill ceiniogau. Roedd yr agwedd hon yn gyffredin mewn cymdeithas am ymhell dros ganrif. Yng nghasgliad Amgueddfa Cymru mae poster ar gyfer Edwards and Page’s Electric Picture Pavilion yn Ystradgynlais, lle'r oedd ‘Elroy The Armless Wonder’ yn ymddangos ym 1912 yn chwarae offerynnau, saethu a phaentio gyda bodiau’i draed.
Yr unig weithiau celfyddyd gain yn y casgliad yw paentiadau Pete Jones o Fangor. Wedi graddio o’r coleg celf roedd Pete yn ei chael hi’n anodd gwneud bywoliaeth fel artist, a daeth yn nyrs anabledd yn ysbyty Bryn-Y-Neuadd yn Llanfairfechan am flynyddoedd lawer. Byddai’n paentio portreadau o gleifion yr ysbyty o’i gof ac o ffotograffau archif, a cafodd y rhain eu harddangos yn ei arddangosfa unigol gyntaf, Mordaith, yn Oriel Ynys Môn yn 2019. Ei nod oedd ‘cyflwyno dynoliaeth a hygrededd rhai o’r bobl wnaeth fyw (a marw) yn yr ysbyty, nifer ohonynt heb deuluoedd, a rhai fyddai neb yn gwybod am eu bodolaeth.’ Mae’r portreadau wedi eu paentio â pharch a thynerwch a fyddai o bosib yn ddieithr i gleifion yr ysbyty yn eu bywydau bob dydd. Fy hoff baentiad yn y casgliad yw 5 Orange Chairs, sy’n dangos pum ffigwr yn eistedd mewn cadeiriau oren sefydliadol. Braidd y gellir gweld y ffigyrau’n glir, fel eu bod yn diflannu neu gael eu llyncu, ac mae ceg y ffigwr canolog led y pen mewn sgrech nad oes unrhywun yn gallu, neu’n barod i’w chlywed. Raid yw pwysleisio bod gwaith Pete Jones wedi ei gadw nid yn y casgliad Celf Gain yn y casgliad Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol.
Rhaid croesawu cynnwys gwaith Pete Jones yn y casgliad, a bod yno rai gweithiau sy’n dangos anabledd mewn modd urddasol a pharchus, ond megis cychwyn mae’r gwaith o gadw ac arddangos gwaith artistiaid anabl ac anabledd. Efallai bod rhai o’r artistiaid yn y casgliad yn anabl, ond heb ddatgan hyn neu ddim yn teimlo ei fod yn berthnasol i’w gwaith. Datblygodd Henri Matisse arthritis yn ei ddwylo wrth heneiddio ac ni allai baentio, ac felly trodd at greu gwaith drwy dorri papur, gwaith a ddaeth yn eiconig yn ddiweddarach. Wyddwn ni ddim os oedd Matisse yn ystyried ei hun yn anabl gan taw diffiniad mwy modern yw hynny.
Wrth chwilio casgliadau mawr eraill, prin eto yw’r portreadau o bobl anabl neu waith gan artistiaid anabledd. Mae gan y Tate rai gweithiau ar faterion anabledd ac maent wedi gweithio gyda Shape Arts, DaDa a Disabled Avant Garde. Sefydliad dan arweiniad pobl anabl yw Shape Arts sy’n rhoi cyfle a chefnogaeth i artistiaid anabl a sefydliadau diwylliannol i greu sector fwy cynhwysol a chynrychioliadol. Nhw sy’n cynnal y Casgliad ac Archif Genedlaethol Celfyddydau Anabledd sy’n dogfennu’r Mudiad Celf Anabledd o’i ddyddiau cynnar ddiwedd y 1970au hyd heddiw. Grŵp o bobl anabl a’u cyfeillion yw hwn wnaeth oresgyn rhwystrau a braenaru’r tir ar gyfer Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a chreu celf a diwylliant cyfoethog am y frwydr honno.
I artistiaid heddiw, mae cyfleoedd ar-lein megis Outside In sy’n rhoi llwyfan i werthu i artistiaid sy’n wynebu rhwystrau mawr yn y byd celf o ganlyniad i resymau iechyd, anabledd, amodau neu unigrwydd cymdeithasol. Mae DaDa, Shape ac Outside In hefdy yn cynnig cyfleoedd i artistiaid anabl i arddangos eu gwaith. Mae’n teimlo bod drysau’n dechrau agor ar gyfer artistiaid anabledd, ac rwyf yn bersonol yn cyflwyno fy ngwaith yn rheolaidd i wahanol fentrau. Cyhoeddwyd cyfle comisiwn yn ddiweddar gan Turner Contemporary yn benodol ar gyfer artistiaid anabl. Diolch i ymdrech ddiflino mae artistiaid anabl ac anabledd o’r diwedd yn dal sylw'r prif sefydliadau. Mae rhwydweithiau megis Celfyddydau Anabledd Cymru, Disability Arts Online yn cefnogi, annog ac addysgu artistiaid anabledd. Ceir ymdeimlad cynyddol ymhlith artistiaid anabl bod ein gwaith yn bwysig, yn nodedig, yn esthetig ac yn llawn haeddu ei le mewn unrhyw oriel.
I gloi, mae’r byd celf cyffredin yn dechrau agor ei ddrysau i artistiaid anabledd. Mae artistiaid anabledd yn frwd dros eu gwaith ac yn ymroi iddo, a bydd hyn yn ein cynnal tan y bydd y byd celf yn wirioneddol gynhwysol. Megis dechrau mae’r daith, a bydd yn galw am gryn ddyfalbarhad, ond mae pobl anabl wedi hen arfer ymdrechu i oresgyn rhwystrau bob dydd, ac rwy’n ffyddiog y byddwn ni fel artistiaid yn parhau i wthio’r drws led y pen ar agor. Gallai Amgueddfa Cymru achub y blaen yn y maes hyd yn oed, drwy gomisiynu gwaith gan artistiaid anabl neu anabledd o Gymru, a gosod esiampl i sefydliadau cyhoeddus eraill Cymru.