Sut mae celf yn gwneud i ni deimlo – yn well neu’n waeth? Weithiau mae teimlo rhywbeth yn ddigon.
Fe wnaeth lluniau Phoebe Boswell fy achub i. Mae hi’n darlunio fy nheimladau i. Mae fel tase hi’n gwybod; wedi bod yn yr un lle â fi. Dyw hi ddim yn beth da bod felna, fel fi hynny yw, a doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddweud wrth unrhyw un, ddim hyn yn oed Mam. Yn enwedig Mam oherwydd doedd hi ddim yn deall, roedd hi’n poeni, oedd yn fy ngwneud i’n waeth. Dyma fi’n canfod y darluniau yma ar-lein. Fe welais i’r poen ynddyn nhw, roeddwn i’n eu casáu nhw a’u caru'r un pryd. Roedden nhw’n disgrifio sut oeddwn i’n teimlo. Fe ddangosais i nhw i Mam - allwn i ddim dweud wrthi beth oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen i, ond roedd y lluniau’n siarad drosta i. ‘Beth sy’n bod arnot ti?’ meddai hi, ‘yn edrych ar luniau felna, mae nhw’n hyll.’ Ond fe ddechreuodd hi wrando a gofyn cwestiynau. Fe ddywedais i, ‘Edrychwch, dim fi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn.’ Pan welais i luniau Phoebe fe deimlais i taw nid fi yw’r unig un, ’mod i ddim ar ben fy hun, ’mod i ddim yn freak.
Simone*
Syniad Simone oedd recordio ein sgyrsiau ac i mi gofnodi sut y mae ei phrofiadau gyda chelf wedi cyfrannu at ei gwellhad ac at gefnogi ei iechyd meddwl. Rydw i’n mentora artistiaid profiadol a newydd sydd â phrofiad o iechyd meddwl gwael. Bydd y rhan fwyaf yn dod ata i drwy gysylltiadau yn y byd celf, iechyd neu addysg, neu’n cyfarfod mewn gweithdai a digwyddiadau celf. Cyfarfu Simone a fi mewn arddangosfa Studio Upstairs, ac fe esboniodd i ei huchelgais a’i rhwystrau i fi. Dyma ni’n cytuno i gydweithio, gan greu strwythur ar gyfer cyfres gyfarfodydd, ac adolygu’r berthynas wrth i ni fynd.
Mae perthynas fentora adeiladol yn galluogi person i feithrin eu hadnoddau a’i gallu ei hunain er mwyn cyrraedd lle mae nhw am fod. Mae’n sgwrs aeddfed, gyda’r bwriad yn cael ei bennu o’r dechrau. Mae’n bwysig bod y person sy’n ael ei fentora yn deall taw nad perthynas addysgol, therapiwtig, cwnsela neu hyfforddi yw hon – seinfwrdd ydw i sy’n cefnogi’r person i wneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain.
Roedd Simone yn dioddef gydag iselder dwys, heb ddiagnosis, drwy fwyafrif ei harddegau. Ar ei gwaethaf roedd hi’n methu gadael ei hystafell, yn colli ysgol, yn cau eu hun rhag teulu a ffrindiau, ac yn profi byd tywyll, cyfyng drwy sgrin gan fethu gweld dyfodol na ffordd ymlaen. Pan welodd hi ddarluniau Phoebe Boswell ar-lein fe ganfu Simone ei llais drwy gelf. Dechreuodd dynnu lluniau; ‘I ddechrau dyma fi’n tynnu darluniau pitw mewn llyfr nodiadau cudd, sgribls bach pitw am feddyliau tywyll a lluniau fyddai neb yn eu gweld.’ Dywedodd fod hyn yn ei helpu i ‘...gael y meddyliau drwg allan o mhen a gwneud i mi deimlo’n well. Byddwn i’n cuddio’r llyfr dan y gwely a ddim yn edrych arno eto tan oedd yn rhaid i fi gael gwared â mwy o feddyliau.’
Iaith gyntaf Simone oedd marciau graffit cywir Phoebe Boswell a’i delweddau du a gwyn, ac fe ddechreuodd hi fynegi ei theimladau a’i phrofiad ei hun. I Simone roedd fflach goch y ‘J’ yn Just not Good Enough yn cyfleu sut yr oedd hithau’n dal am ei byw at fywyd. Dangosodd ei hymateb i’r gwaith y gallai hithau hefyd deimlo. Dechreuodd astudio darluniau Phoebe Boswell a magu awydd i weld pethau y tu hwnt i’w dychymyg, ei hystafell, ei bywyd. Dechreuodd Simone wylio pobl drwy’r ffenest, a thynnu lluniau ar unrhyw bapur oedd wrth law - marciau du, tywyll, aneglur o siapau’r bobl a welai’n pasio. Roedd ganddi ormod o gywilydd i dangos ei gwaith i neb, ond tyfodd ei hyder wrth i’w llinellau ddatblygu’n ffurfiau cyfarwydd. Prynodd Simone frasluniau, rhoi’r gorau i ddinistrio eu darluniau a dechrau edrych ar fwy o waith ar-lein.
Yn 2018 ymwelodd Simone a’i mam ag Autograph, yr oriel yn Llundain lle dangosir The Space Between Things gan Phoebe Boswell. ‘Roedd yn anhygoel jyst mynd allan a bod yng nghanol pobl, ond pan oeddwn i yno fe edrychais i tu hwnt i fy hun, a dechrau anghofio mod i’n ofnus a da i ddim. Os gallai hi [yr artist] weld ffordd drwy’r anobaith, gallwn ni hefyd. Dwi’n credu taw dyna pryd ddechreuais i wella.’ Roedd iselder Simone yn wahanol i drawma corfforol Phoebe Boswell, ond teimlodd Simone effaith y mynegiant allanol hwn o fywyd rhywun arall ar sut y gwelai ei heriau ei hun.
Siaradodd Simone a fi am ei gwaith, gan ystyried yn ofalus ofn a methiant. Erbyn hyn roedd hi’n astudio celf yn llawn amser ond roedd ei phyliau o iselder yn rhwystr. Gyda chefnogaeth staff academaidd a meddygol, teimlai bod cynllunio neu ddatblygu ei hastudiaethau a’i phractis celf yn amhosib. Dim ond rhwystrai allai hi eu gweld a theimlai fod pawb arall yn gweld dim ond ei hiselder. Doedd Simone ddim yn sylweddoli cymaint oedd hi wedi newid ei byd.
Wrth ymdrin â’i iechyd meddwl a’i geiriau anobeithiol, dyma ni’n edrych ar sut y gallai hanes personol a bod yn iach effeithio ar ymateb creadigol Simone. Gan fod celf yn ymdrin â phopeth, roedd ein sgyrsiau yn eang, a pan fydd artist yn cyflwyno’r personol yn eu gwaith, gall y canlyniadau fod yn annisgwyl. Wrth drafod ei phractis proffesiynol, trafododd Simone a fi y broses o gelu a datgelu gwybodaeth bersonol, sut y gall lleihau neu olygu fynd yn groes i’r gwir, a phryd mae penderfynu camu nôl. Roedd gen i ddiddordeb yn ei phenderfyniadau am gydnabod heriau personol a chreadigol creu celf, a sut oedd hi’n mynegi hyn yn ei gwaith. Ym mhob cyfarfod dyma ni’n adolygu effaith posib ein sgyrsiau ar ei phractis celf.
Mae’r broses betrus hon o ddarganfod ac ailadrodd yn ymddangos yn sych. Ond mae’n llaw’n chwerthin a golau, darganfyddiadau heriol neu annisgwyl, neu fe fydda i’n dysgu rhywbeth newydd. Mae pob profiad yn wahanol, a gall sbardun gweledol achosi i ni oedi, troi i ffwrdd, ystyried, newid marc neu gyfeiriad. Does dim un o’r bobl rydw i’n gweithio gyda nhw yn cuddio rhag penderfyniadau ‘anodd’ ond mae pob un, yn eu ffyrdd eu hunain, am fedru cofleidio cymhlethdod eu teimladau a chreu rhywbeth ohonynt, hyd yn oed er mwyn troi eu cefnau ar y teimladau. Gall problemau iechyd meddwl fynd a dod, neu fod yn gyflwr parhaol, sylfaenol ym mywyd person sy’n effeithio ar bob agwedd o’i bywyd. Mae iselder Simone yn mynd a dod, ond mae’n dweud bod ‘Celf wastad yna i fi.’ Dechreuodd ei mam hefyd edrych ar fywyd yn wahanol, ond stori Simone yw hon.
Celf Phoebe Boswell oedd y sbardun i wellhad Simone. Cyfarfyddiad cyntaf anodd wnaeth wneud iddi deimlo. Mae hi’n edrych ar fynegiant emosiwn drwy greadigrwydd ac mae ganddi ddiddordeb yn y mynegiant o iselder a gorbryder mewn paentio naratif. Â hithau bellach yn y coleg yng Nghaerdydd, mae Simone yn ymweld â chasgliadau Amgueddfa Cymru sy’n ‘lle o dawelwch ac ysbrydoliaeth’.
Dyma ni’n cyfarfod ar risiau’r Amgueddfa. ‘Nei di fyth ddyfalu beth dwi’n mynd i ddangos i ti.’ meddai Simone. Fe aeth a fi at baentiad Kevin Sinnott, Rhedeg i Ffwrdd gyda’r Torrwr Gwallt. Dyma fi’n chwerthin. ‘Mae mor rhydd.’ meddai hi. Ac wrth i ni eistedd ac edrych ac edrych, dyma ni’n chwerthin eto.
Esboniodd Simone yn rhugl pam oedd y paentiad yn bwysig. “Rhedeg i ffwrdd, gadael y gorffennol, bod yn rhywun gwahanol neu reoli dy fywyd. Dwi’n gwybod pa mor bwysig yw dewis pwy wyt ti am fod. Dyw hi ddim yn hawdd, ond mae’r paentiad hwn yn dweud wrtha i ei fod e’n bosib. Dyna sut dwi’n teimlo amdano fe.’ meddai hi. ‘Mae’n gwneud i fi chwerthin, yn fy nghodi, ac rydw i’n teimlo’n ysgafnach wrth edrych arno fe. Mae nhw gyda’i gilydd, ond eto ddim... dyw e ddim yn ei llusgo hi, mae e’n benderfyniad... neu yw hi’n rhedeg er ei ôl e? Dwi ddim yn gwybod a does dim ots gen i, ond mae’r paentiad yn siarad â fi.’
Fe siaradon ni am liw a golau: haul cynnes hwyr yn taflu cysgodion pinc a phorphor ar eu crwyn ac i lawr y stryd deras Gymreig. ‘Rydw i’n hoffi dychmygu ei bod hi’n noswyl haf ar ddiwedd diwrnod hir. Allan nhw ddim diodde bod i ffwrdd o’i gilydd am foment arall. Mae nhw’n rhedeg, rhedeg, rhedeg i ffwrdd o’u hen fywydau yn y lle bach yna lle mae pawb yn eu nabod nhw, tua’r machlud pinc lle bydd fory’n ddiwrnod braf, ble bynnag fyddan nhw. I fi mae’n cyfleu sbarc, gobaith, rhyddid a dyfodol.’
Dair blynedd wedi dod wyneb yn wyneb â chelf am y tro cyntaf roedd Simone yn fy nysgu am waith roeddwn i’n meddwl fy mod yn ei adnabod, a’i llygaid ffres yn rhoi safbwynt newydd. Roedd Simone yn gweld y gwaith drwy lens bersonol, gan ddathlu bywyd mewn lliw llawn. Ar yr olwg gyntaf efallai bod gwaith Kevin Sinnott yn ymddangos yn hollol wahanol i waith Phoebe Boswell, ond mae’r ddau yn trafod emosiwn, mynegi teimladau a gweithredu. ‘Yn y tywyllwch, i mi coch oedd Gobaith.’ meddai Simone. ‘Roedd bywyd yn werth yr ymdrech ac yn gallu bod yn dda a hapus. Yn yr heulwen rydw i’n gweld eu gobaith am ddyfodol gwell hefyd. Mae nhw fel fi. Rydyn ni i gyd yr un peth men gwirionedd.’ Wrth iddi siarad, roedd ei hangerdd pur am y gwaith yn heintus. Y diwrnod hwnnw dywedodd Simone ei bod hi wedi sylweddoli pa mor bell oedd hi wedi dod ar ei thaith. Roedd hi’n gweld moment o hwyl a dyfodol positif.
Mae nifer o’r bobl greadigol y bydda i’n gweithio gyda nhw, wrth bwyntio at lun, lliw neu gerflun, yn dweud:
‘Dyna ni! Dyna beth sy’n digwydd yn fy mhen i,’
‘Dyna pam alla i ddim codi o’r gwely, neu ddarllen, neu wneud, neu feddwl, jyst ystyried bod yn farw,’
‘Alla i ddim symud na chlywed, dyna fel mae’n teimlo.’
‘Edrych, jyst edrych.’
I Simone, y ‘J’ yn The A - Z of Emotions yn benodol oedd yn cyfleu hyn. ‘DYNA sut ydw i’n teimlo. Efallai bod hynny’n anodd i chi ei ddeall neu ei dderbyn, ond mae’n dweud wrtha i mod i ddim ar ben fy hun.’ Efallai taw nid dyma’r ymateb oedd Phoebe Boswell yn ei fwriadu wrth greu’r gwaith, ond dyna ymateb Simone. Dywedodd Simone yn ddiweddarach ‘Rydw i’n gwybod pethau, yn gweld pethau ac yn gallu siarad amdanyn nhw gyda phobl, mae celf ar gyfer pawb wrth gwrs. Trueni mod i heb wybod amdano fel hyn o’r blaen.’
Roedd Simone yn teimlo’n ddigon hyderus i ddangos ei brasluniau cynnar i fi, a dyma hi’n dangos llinynnau ei phrofiadau a’r newid yn ei harddull. Wrth i ni drafod y gwahaniaeth rhwng methiant a datblygiad dywed Simone ei bod hi’n creu celf fel cofnod a mynegiant o’i hunaniaeth newidiol. Mae creu celf yn cefnogi ei gwellhad, ac wrth wella mae’n creu celf.
Caiff perthynas fentora ei hadeiladu ar rannu profiad, gan ddibynnu ar ymddiriedaeth a pharch. Rhaid i’r person sy’n cael ei fentora fod yn ddigon cyfforddus i drafod yn agored yr hyn maent am ei wella. Er mwyn i’r mentora weithio rhaid i sgyrsiau penodol, anfeirniadol gael gwrandawiad amyneddgar, goddefol ac adeiladol, gweithredol gydag adborth adeiladol. Os yw fy mhrofiad personol o fudd i rywun, byddaf yn ei rannu. Gan greu fframwaith gadarn a chydnabod fy nghyfyngiadau, rwyf yn defnyddio fy nghariad at gelf a phrofiad personol a phroffesiynol yn y celfyddydau a meysydd eraill, gyda chefnogaeth Ysgol Seicoleg Caerdydd, y GIG a Phrifysgol De Cymru.
Fel creaduriaid synhwyrus rydym yn barnu ein hamgylchfyd yn barhaus, yn ymwybodol ac yn ddiarwybod. Mae hyn yn amlwg i Simone wrth iddi ddefnyddio ei geirfa gelf gyfoethog newydd, canlyniad meddwl am gelf ac edrych arno, dysgu amdano a’i greu yn ddyddiol. Mae bellach yn derbyn bod yr hyn a ddigwydd iddi ers canfod gwaith Phoebe Boswell wedi cyfoethogi ei phrofiad o’i hiselder a holl brofiadau’r gorffennol.
Mae ymateb emosiynol, pwerus Simone i waith Phoebe yn dangos sut yr ydyn ni ar ein mwyaf dynol, a sut mae bod yn ddynol yn cynnwys myrdd o wendidau, meddyliol a chorfforol, byrhoedlog neu barhaus. Bydd ein teimladau yn llywio ein hymateb corfforol gymaint â’n meddyliau. Ni allwn wahanu’r ddau. Mae celf yn ein iachau pan fyddwn yn adnabod y tebygrwydd sy’n ein tynnu ynghyd, yn hytrach na’r gwahaniaethau sy’n eu rhwygo. Yn Amgueddfa Cymru, daeth Simone a minnau ynghyd i weld adlewyrchiad o ymdrech a phrofiad dyn a rhannu gweledigaeth obeithiol. Nid cofnod o ddigwyddiadau wedi’u dehongli drwy’r zeitgeist yw’r rhain ond celf sy’n gyforiog o lawnder bywyd, i bob un ohonom, ym mhobman.
*Newidiwyd enw Simone i warchod ei phreifatrwydd