Profais ddau ganfyddiad dadlennol wrth imi weithio ar y rhifyn hwn, dau brofiad dyrchafol. Dwi’n eu rhannu fan hyn gyda chaniatâd llawn pawb a gymerodd ran.
I ddechrau, gofynnais i Lisa Edgar, y Dirprwy Geidwad Celf, os oedd gan unrhyw un o staff Amgueddfa Cymru stori fyddai’n gweddu i thema celfyddyd a iechyd. Cyflwynwyd fi gan Lisa i Sharon Ford a Jade Fox. Mae Jade yn gynorthwydd amgueddfa yng Nghaerdydd a Sharon yn Rheolwr addysg a Chyfranogiad yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Cyfarfyddais â nhw yn unigol fel y bydd pawb yn cwrdd y dyddie hyn, dros sgrîn. Meddyliais y byddwn i’n ysgrifennu am eu projectau’n unigol, ac yna, wrth hanner syrthio i gysgu, sylweddolais eu bod yn cyd-berthyn o fewn fframwaith papur a ysgrifenwyd flynyddoedd yn ôl gan y pediatregydd a’r seicdreiddiwr, Donald Woods Winnicot ym 1953, ‘Transitional Objects and Transitional Phenomena: A Study of the First Not-Me Possession’.
Mae cwmpas papur Winnicott yn eang – mamolaeth, plant bach, gafael, gwahanu, perthnasau a chwarae – yn wir disgrifiodd ei ddull yntau o ymchwilio fel un a oedd yn casglu ‘hwn a’r llall, fan hyn a fan draw’ (Winnicott yn Phillips, 2007: 16), ond y mae ei thema ganolog, gwerthfawrogiad o’r hyn yr enwodd Winnicott yn wrthrych trawsnewidiol (‘transitional object’), yn parhau hyd heddiw. Dim ond cyfierio at yr elfen hon a’i fyfyrdodau ar chwarae y byddaf yn y drafodaeth fer hon.
Disgrifia Winnicott y newydd anedig fel endid sy’n bodoli mewn gofod lle, yn ei wythnosau cyntaf, mae ei holl ofynion yn cael eu diwallu – mae’r fam (nid o reidrwydd y fam enedigol) yn hollol ymrwymedig yn ei haddasiad – ac mae’r plentyn bach yn byw o dan rith ‘undod’ â’r fam. Dros amser, mae’r plentyn yn canfod rhywbeth arall, peth meddal – ‘bwndel o wlân neu gornel blanced’ (Winnicott, 1953: 91) – sy’n gweithredu fel y gwrthrych ‘fi a nid-fi’ cyntaf, ac yn nodi ymddangosiad yr hunan fel goddrych. Mae’r gwrthrych hwn yn gweithredu fel canolwr neu bont rhwng bywyd mewnol ac allanol y plentyn bach ac mae’n ‘amddiffynfa rhag gorbryder’ (Ibid: 91) sy’n gallu parhau drwy gydol plentyndod a thu hwnt; yn wir dywed Winnicott wrthym y gallai ailymddangos ‘mewn cyfnod diweddarach pan fydd amddifadrwydd yn bygwth’ (Ibid). Gallwn weld y gwrthrych pontio yn glir ym mywyd babi. Daw teganau meddal yn gyfoedion cyson na ellir fyth eu gadael ar ôl. Bydd blanced dreuliedig yn hanfodol ar gyfer teithiau neu er mwyn cysgu – yr un flanced na ddylid byth ei golchi ac sydd o ganlyniad yn datblygu ei phersawr arbennig ei hun. Enghraiff berffaith o’r gwrthrych pontio yw blanced gysur Linus, y cymeriad pryderus yng nghomic Peanuts. Mae ‘Blanced Linus’ yn cyfleu syniad Winnicott o’r ‘amddiffynfa rhag gorbryder’ ac yn dangos i ni bwysigrwydd y cyfarwydd. Mae hyn yn mynd a fi nôl at fy nghyfarfod gyda Sharon a theori-ar-waith arall, sef perthnasau clós parhaus.
Dywed Sharon wrthyf am broject cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Cymru, Cysur mewn Casglu sy’n gwahodd pobl i ymateb i gasgliad arlein yr amgueddfa drwy gyfrwng ysgogiadau ddwywaith yr wythnos ar twitter a Facebook, mae un o’r rhain i’w weld isod. Mae’r ysgogiad hwn – o gwiltiau a blancedi a meddalwch, o amddiffyniad a chynhesrwydd – yn fy atgoffa o Winnicott, a bod yr angen am ‘amddiffynfa rhag gorbryder’ yn parhau ymhell ar ôl plentyndod. Mae’n rhywbeth y mae Becky Adams hefyd wedi adnabod yn ei hadnodd addysg cwiltio. Mae ymateb Sharon i’r ysgogiad, delwedd o focs bisgedi melyn ei Nain yn glyd rhwng tebot, jwg laeth a thun te, yn ein hatgoffa bod modd canfod cysur mewn nifer o bethau, gan gynnwys defodau rhannu tê a bisgedi – ydych chi’n cofio atgof hirhoedlog Proust am y ‘little crumb of madeleine’? Mae stori Sharon yn ymwneud cyn gymaint â chwlwm parhaus, cyswllt byw gyda rhywun annwyl gaiff ei gynnal yn gorfforol drwy wrthrychau, ag ydyw’n ymwneud â chysur ei hun. Dyma beth yw hanes cymdeithasol.
Mae project Cysur mewn Casglu wedi ei ymestyn i gartrefi gofal ledled Cymru. Gyda’r cartrefi ar gau i bawb heblaw am ymwelwyr hanfodol, mae’n ymgais greadigol a gwirioneddol i geisio cynnal cyswllt cymdeithasol drwy rannu gweithgareddau (a bod yn chwareus mae’n debyg). Wrth ymateb i ‘Tê’ fel ysgogiad, nododd Gartref Nyrsio Pen-y-bont drafodaethau ynglŷn â natur newidiol tê, gwylio hysbysebion tê ar YouTube a darganfod, am £660, o bosib un o debotau drytaf y byd.
Mae’r elfen chwareus yn dod â ni at Jade. Mae hi’n weithiwr blaen tŷ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sy’n caru ei swydd, yn enwedig y cyswllt â’r cyhoedd a bod ‘gyda’r’ casgliad. Roedd bod ar ffyrlo yn her anferth i Jade. Mae hi’n agored am ei phrofiadau tymor hir gydag iselder a gorbryder ac roedd hi’n poeni y byddai ynysiad y clo mawr yn cael effaith negyddol iawn ar ei lles. Dywedodd wrthyf ei bod wedi treulio rhywfaint o amser yn teimlo nad oedd ganddi unrhyw beth i godi ar ei gyfer. Rhannodd un o ffrindiau Jade neges Facebook rhywun a oedd wedi adeiladu model 3D o Tate Modern, fel cartref i fochdew fel petai, ac awgrymodd y gallai Jade wneud rywbeth tebyg. Atebodd Jade yr her, gan aildrefnu’r gofod-rhwng-dau-fyd a ddaeth gydag ynysiad ffyrlo. Mae’n ailymweld â chreadigrwydd ei phlentyndod, gan greu cyfres o fodelau 3D rhyfeddol o’r amgueddfa y gellir ymgolli’n llwyr ynddynt. Mae Jade yn codi un i ddangos ar y sgrin, caffi’r amgueddfa. Roeddwn i wedi eistedd yno ychydig ddyddiau cyn y clo mawr, gan rannu tê a phice ar y mân gyda ffrind agos. Mae’r eiliad hon o adnabyddiaeth yn un chwerw-felys, achos bod pethau syml ddim bellach, wel, mor syml â hynny. Ond daw’r melysder, yn ddirybudd reddfol drwy gyfrwng y gwich o lawenydd sy’n gadael fy nghorff. Maen nhw’n odidog. Maen nhw’n neud i fi chwerthin, a dwi’n sylweddoli nad wyf wedi ymateb i unrhyw beth fel hyn ers wythnosau. Mae modelau Jade wedi eu creu o hyn a’r llall, stwff wedi ei ailfeddiannu a’u ailbwrpasu – wedi eu creu o anghenrhaid ac nid yn anhebyg i greadigaeth Winnicott – yn llonni’r galon. Dwi’n gofyn iddi esbonio beth maen nhw’n ei olygu iddi,
Galla i ddweud yn onest, heb os, os na fyddai gen i’r modelau hyn fydden i yn fy ngwely ddim eisiau symud ac yn mynd i mewn i bydew du. Fy modelau yw’r rheswn dwi’n codi yn y bore, maen nhw wedi rhoi gymaint o lawenydd imi.
Wrth edrych yn ôl ar y profiad o fod yn olygydd gwadd ar y cylchgrawn, o annog pobl eraill i rannu eu straeon personol am gelfyddyd a iechyd a lles, y ddau ddigwyddiad bach hyn o gyswllt chwareus yn sgîl ein sefyllfa bresennol, sefyllma mae’n rhaid i bawb ei oddef, sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf. Pryn y byddau un o’r ddau yn bodoli heb yr amser hwn ac mae’r ddau yn destament perffaith i’n gallu unigol i gymell dyfeisgarwch creadigol. Wele Sharon a’i thîm yn dychwelyd at drugareddau llawn cariad er mwyn plethu straeon newydd. Wele Jade yn creu ei hystyr ei hun yng ngofod ansicr ffyrlo, gofod y byddai Winnicott wedi ei adnabod fel profiad canolraddol, sy’n ‘dilyn yn uniongyrchol o faes chwarae’r plentyn bach sydd wedi ‘ymgolli’ mewn chwarae.’ (Ibid:96) A minnau, yn falch o fod wedi darganfod y ddau.
- Phillips, A (2007) Winnicott London: Penguin
- Winnicott, DW (1953) Transitional Objects and Transitional Phenomena, a Study of the First Not Me Possession International Journal of Psychoanalysis vol 34, 1953, 89-97.