CYNFAS

Georgia Day
26 Mawrth 2021

I warchod a gwasanaethu: Pinc-galchu’r heddlu a delweddu cadarnhaol

Georgia Day

26 Mawrth 2021 | Minute read

Rhan I: Hanes Tymhestlog

Am 3AM ar noson enbyd o oer ym mis Ionawr yng Nghaerdydd, dihunwyd fi a fy mhartner gan hyrddiad o gnocio ar ein drws ffrynt. Roedd gweiddi tu allan. Fel myfyrwyr mewn ardal llawn myfyrwyr, dydy clywed sgrechian meddw ar nos Sadwrn ddim yn anghyffredin. Ond clywed cnocio mor ffyrnig ar y ffenest nes eich bod yn meddwl ei bod am dorri? Llai cyffredin. Fel mae’n digwydd, roedd fy nghyd-letywr yn trio dod nôl mewn i’r tŷ ar ôl noson mas, tra bod ffrind yn dioddef pwl seicotig. 

Dyma ni’n cael fy flatmate a’r ffrind i mewn i’r tŷ yn ddiogel, gan gynnig gwydraid o ddŵr i’r ail i geisio tawelu ei nerfau – ond heb lwc. Roedd yn sgrechian nerth ei ysgyfaint. Felly, dyma ni’n galw am ambiwlans. Pan fo rhywun yn dioddef argyfwng iechyd meddwl ac yn bosib iawn yn berygl i’w hunain, yr ateb yw galw’r ambiwlans. 

Ie?

Ddwy awr yn ddiweddarach a dim golwg o’r ambiwlans, a’r ffrind yn mynd yn fwyfwy swnllyd a threisgar, fe benderfynon ni alw’r heddlu. Fel grŵp o fyfyrwyr sy’n amlwg yn queer a thraws, roedd hyn yn groes i’r graen. Doedden ni ddim wir yn teimlo fel dioddef trosedd casineb am bump y bore. Ond heb sôn am ambiwlans, dyma ni’n galw’r heddlu. 

Mewn llai na phum munud ymddangosodd fan gyfan o heddlu o flaen y tŷ. Dwi ddim yn credu imi sylweddoli pa mor gul oedd y cyntedd hwnnw tan i chwech neu saith o swyddogion wthio’u ffordd i mewn i fynd â’r dyn oedd yn sgrechian i ffwrdd. Roedden nhw’n rhyfeddol o ddigyffro, hyd yn oed wrth i’r boi ’ma weiddi a phoeri arnyn nhw. A dim eu bai nhw oedd eu bod nhw’n digwydd bod gerllaw ac wedi ymateb gyntaf. Ond mae graddfa’r sefyllfa yn fy nharo, hyd yn oed nawr. Rydyn ni’n galw am ambiwlans a dim un yn dod am oriau. Dyw dyn ifanc yn dioddef argyfwng iechyd meddwl ddim yn flaenoriaeth i wasanaethau brys sydd eisoes dan straen aruthrol. Yn y diwedd rydyn ni’n galw’r heddlu, ac yn sydyn mae fan gyfan ohonyn nhw yn ceisio gwasgu i mewn i’n tŷ myfyrwyr, gyda sawl un arall tu allan.

Dwi ddim yn arbenigwr, ond roedd hynny’n fy nharo i’n rhyfedd. 


Fel person queer yng Nghymru, mae’r berthynas hanesyddol rhwng ein cymuned ni a sefydliad aruchel yr heddlu yn llawn cymhlethdod. Er gwaetha fy nheimladau personol am yr heddlu’n cael eu defnyddio fel swyddogion homoffobia sefydliadol (heb sôn am oruchafiaeth dreisgar pobl gwyn), mae yna bobl sydd â bwriadau da sy’n rhan o’r lluoedd hyn – a nifer o bobl queer yn eu rhengoedd hefyd. Fodd bynnag, rhaid i ni allu asesu hanes y berthynas rhwng yr heddlu a chymunedau queer a sut mae eu delwedd yn effeithio ar y cymunedau hyn.

Taflen ymddangosiadol anghymhleth yn hyrwyddo Rhwydwaith Staff Hoyw Heddlu De Cymru yw’r gwrthrych isod. Ar yr wyneb, gall bodolaeth Rhwydwaith Staff Hoyw ymddangos fel peth da, wrth ystyried bod unigolion sy’n uniaethu fel pobl queer wastad wedi bod yn rhan o’r heddlu, ac wastad yn mynd i fod. Onid yw’n beth da i staff hoyw unrhyw le i gael rhwydwaith ddiogel o bobl i fynegi eu hunain o’i mewn? Ond gyda chyd-destun degawdau o heddluoedd yn gormesu pobl queer a’u mynegiant, mae’r mater yn fwy annelwig. 

Does dim angen edrych ymhell i ddeall y berthynas elyniaethus rhwng cymunedau queer a’n heddluoedd. Wedi’r cwbl, dim ond ym 1967 y cafodd cyfunrhywiaeth ei dad-droseddoli yn rhannol, ac rydym yn parhau i frwydro yn ddyddiol yn erbyn hegemoni ceidwadol sy’n gwrthod gadael i ni ffynnu. Rydym wedi cael ein llethu gan ganrifoedd o arestio a thrais am fygwth y wladwriaeth normadol. O Ddeddf Sodomiaeth 1553 i ‘awyrgylch llwyd a llechwraidd goruchwyliaeth ac arestio’ yn y 1950au,1 cyrchoedd heddlu ar fariau hoyw yn yr 80au, y trawsffobia sy’n bla heddiw –  mae’r rhestr o anghyfiawnderau sydd wedi niweidio pobl queer o dan gochl cynnal statws quo heternormadol yn hirfaith, ac mae pobl queer sydd yn lleiafrif ddwywaith neu deirgwaith drosodd, yn dioddef yr anghyfiawnder hwn ar ei waethaf.

Ym mhob achos, mae heddluoedd wedi ymateb i lawenydd a gwrthsafiad queer gydag arestiadau treisgar ac anffafriaeth, ac wedi chwarae rhan weithredol wrth siapio diwylliant homoffobig cenedlaethol. “Police harrassment, dear”, yng ngeiriau’r portread ffuglennol o’r ymgyrchydd hawliau queer Jonathon Blake yn Pride (2014), “I could set it to music.” 


Dyma frad sydd mor gyffredin nes troi’n beth bob dydd – dyma fu profiad pobl queer yn nwylo’r heddlu am amser maith. Ond beth sydd gan hyn i’w wneud â’r rhwydwaith y mae’r daflen hon yn ei hyrwyddo?

Delweddaeth berfformiadol yw creu Rhwydwaith Staff Hoyw mewn sefydliad gor-wrywaidd gyda hanes mor homoffobig â hyn. Y nod yw gwerthu delwedd o’r heddlu fel endid goddefgar, ac nid yw’n gam tuag at gydraddoldeb, ond yn ‘fodd o ddilysu arferion plismona’r gorffennol gyda’r bwriad o oresgyn y berthynas wael a gelyniaethus rhwng yr Heddlu a’r gymuned LHDT.’2


Ond oni allai Rhwydwaith Staff Hoyw chwarae rôl symbolaidd gadarnhaol, o leiaf? Symbol disglair o pa mor bell ydyn ni wedi dod, o’r cynnydd a wnaed tuag at gydraddoldeb yn ein sefydliadau mwyaf gwrywaidd-niweidiol hyd yn oed? Neu, ai dim ond galluogi penaethiaid yr heddlu i olchi eu dwylo casglebol o’r holl beth ‘hoyw’ mae hyn, tra’n parhau i arddel amgylchfyd ac ymddygiad sy’n gormesu’r lleiafrifoedd mwyaf ymylol? Pan fo pobl gwyn a dosbarth canol LHDTQ+ (fel arfer dynion hoyw cis) yn ennill briwsionyn o gyfalaf cymdeithasol neu wleidyddol mewn unrhyw faes, mae tuedd i orffwys ar ein rhwyfau. Llongyfarchiadau, dyma gydraddoldeb. Edrychwch, mae ganddon ni rwydwaith staff hyd yn oed! Ond nid diwedd y ffordd yw cynnydd ymddangosiadol aelodau lleiaf ymylol ein cymuned. I berson sy’n lleiafrif o fewn lleiafrif, nid yw presenoldeb yr heddlu fyth yn gysur. Mae swyddogion yr heddlu yn enwedig o fygythiol i bobl queer o liw (QPOC), ‘yn sgil pwyntiau cyswllt dwysach, a homoffobia a thrawsffobia’.3  Mae’r pwyntiau cyswllt dwysach hyn yn digwydd, wrth gwrs, yn sgil hiliaeth sefydliadol sy’n cyniwair yng nghalon unrhyw heddlu  ̶  mae hiliaeth wedi cael ei gysylltu â heddlu De Cymru yn ddiweddar yn dilyn marwolaethau ‘anesboniadwy’ Mohamed Hassan a Mouyied Bashir wedi cyswllt gyda’r heddlu.

O safbwynt queer, mae tensiwn rhwng cynnydd gwirioneddol â delweddu cadarnhaol yn tueddu i gyrraedd ei anterth yn ystod digwyddiadau Pride. Yn anffodus, ymddengys fod achlysur lle mae swyddogion mewn lifrai heddlu yn gorymdeithio’n fodlon mewn parêd yr oedden nhw ar un adeg yn ymosod arno, yn beth i’w ddathlu. Gallai swyddogion heddlu queer fynychu’r digwyddiadau hwn mewn dillad bob dydd, fel dinasyddion preifat, ond maen nhw wedi ymladd i allu gorymdeithio mewn lifrau yn lle. Mae hwn yn creu gwrthgyferbyniad gweledol rhyfedd rhwng lifrai gormeswyr a’r wynebau llon sy’n eu gwisgo. Ond mae’n edrych fel cynnydd! A dyna’r unig beth sy’n bwysig, ynte? 

O safbwynt delweddu cadarnhaol, mae’n wych – mae’n portreadu’r heddlu fel gwarchodwyr hawliau LHDTQ+, ‘er gwaethaf parhad arferion sy’n gwrth-ddweud y ddelwedd hon,’ ac mae’n normaleiddio’r broses barhaus o blismona gofodau queer lle mae disgwyl i ni fod yn ddiolchgar am eu goddefgarwch ymddangosiadol hyd yn oed wrth i ‘amodau trosgynnol pŵer anghyfartal barhau’n sylfaenol ddigyfnewid.’4


Rhan II: Rôl Heddluoedd

Petai chi’n gofyn i berson cyffredin beth yw swyddogaeth yr heddlu yng nghymdeithas heddiw, byddan nhw mwy na thebyg yn dweud rhywbeth fel ‘gwarchod a gwasanaethu’. Ond i bobl sy’n queer neu’n rhan o leiafrif arall, mae’n codi’r cwestiwn: gwarchod pwy? Gwasanaethu pwy? Pobl, neu fuddiannau ariannol y wladwriaeth? Yn y bôn, sut mae swyddogion heddlu yn gwarchod neu’n gwasanaethu pobl queer? 

Mae’n ffaith hysbys fod troseddau casineb yn cael eu tan-gofnodi’n enbyd, gydag oddeutu 81% o droseddau yn mynd heb eu crybwyll wrth yr awdurdodau yn 2017.5 Gall hyn gael ei briodoli i ystod o ffactorau, ond y brif broblem yw pan fo pobl queer yn adrodd ynglŷn â’r troseddau hyn  ̶  neu unrhyw drosedd maen nhw’n ei ddioddef – y teimlad llethol yw nad yw swyddogion yr heddlu yn cymryd eu pryderon o ddifrif. ‘Fe ddywedon nhw bod angen i ni fod yn fwy gwydn.’; ‘wnaeth yr Heddlu ddim cymryd y peth o ddifri’; ‘Ges i fy ngham-ryweddu yn fwriadol’ – dyma rai o brofiadau lleiafrif bach a wnaeth adrodd ynglŷn â’r troseddau a wnaed yn eu herbyn.6 Hyd yn oed pan fydd dioddefwyr yn cael eu credu a bydd camau’n cael eu cymryd, mae deddfwriaeth troseddau casineb yn gosod y cyfrifoldeb am ymddygiad gwahaniaethol ar yr unigolyn, gan anwybyddu gormes strwythurol a systemig.7 Hawdd dychmygu felly fod nifer o bobl queer yn wynebu dewis amhosibl: ‘adrodd am achosion penodol o drais wrth yr heddlu, cangen o’r wladwriaeth sy’n cyson achosi trais trawmatig, neu aros yn dawel ac yn gobeithio aros yn ddiogel?’8

Un peth annisgwyl am y daflen isod yw modd y mae Stonewall UK, elusen LHDT+ flaenllaw,  yn dilysu’n anfeirniadol Heddlu De Cymru. Wedi’i arddangos yn falch ar y daflen. islaw logo Heddlu De Cymru, mae logo yn cyhoeddi bod yr Heddlu ymysg 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn 2011. Mae hyn yn arbennig o syfrdanol o ystyried bod Stonewall yn elusen wedi’i henwi ar ôl cyfres o derfysgoedd gan bobl queer dosbarth gweithiol a thraws yn erbyn yr heddlu. Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2011 yn cynnwys 14 llu heddlu i gyd, gydag un (Heddlu Hampshire) yn dod yn bedwerydd.9 Mae cefnogaeth o’r fath i sefydliadau sy’n gormesu aelodau mwyaf ymylol cymdeithas yn beryglus, ac yn gwneud i ni gwestiynu beth yn union yw diben elusen fel Stonewall. Mae’n enghraifft ohonyn nhw’n cyflwyno eu hunain fel endid mwy derbyniol i bobl pwerus er mwyn meithrin eu hygrededd mewn maes gwleidyddol heteronormadol. Ond canlyniad hyn yw dileu hanes ein cymuned, ac mae’n arwain at greu taflenni a rhwydweithiau sy’n hollol anfeirniadol o rôl yr heddlu yn ein gormes hanesyddol a pharhaus. 


Ond eto, beth yw’r opsiynau eraill? Gwaredu’r rhwydweithiau’n llwyr? Peidio cael heddlu o gwbl?10

Fyddai hynny’n ddrwg o beth? 


Rhan III: Does Dim Atebion Hawdd

Roedd Dad yn heddwas. Dwi’n gwybod fod gan unigolion yn y sefydliadau gormesol hyn fwriadau da a chalonnau da. Cefais fy magu yn clywed straeon am yr heddlu dros y bwrdd bwyd – y tro pan wnaeth Dad ddal dyn oedd yn ceisio dianc mewn car tair olwyn; sawl stori ryfeddol am fois meddw; y job wnaeth ymddangos ar Crimewatch. Doedd ei fywyd yn yr heddlu ddim yn fêl i gyd, ac roedd e’n llythrennol yn cyfri’r diwrnodau tan ei ymddeoliad, roedd wrth ei fodd yn gweithio fel heddwas.

Ond fe fydda i, weithiau, yn meddwl. Er gwaetha’r daioni dwi’n gwybod y gwnaeth Dad yn ei waith dros y blynyddoedd, i ba raddau wnaeth e’ gyfrannu at ormes systemig a sefydliadol fy nghymuned? 

Plismon glaslanc, yn ffres o’r academi, yn ysu i ddod o hyd i’w bobl a’i le yn y byd – pa ran chwaraeodd e’ yn gor-blismona ac erlid pobl fel fi? Fel plismon yn y 90au cynnar... gyda Thatcheriaeth ar ei anterth a hysteria gwrth-queer o ganlyniad i AIDS. Sut allai Dad beidio bod yn rhan o hyn?

Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i’n credu taw swydd Dad oedd y peth gorau’n y byd. A dwi’n credu ei fod wir wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ond yw hynny’n gwrthbwyso’r holl ddrwg y mae lluoedd heddlu wedi cyfrannu ato? 

Pan fyddwn ni’n dychmygu dyfodol gwahanol ar gyfer plismona, pan fyddwn ni'n codi’n lleisiau fel un i ddweud ‘stopiwch ariannu’r heddlu’ neu ‘diddymwch yr heddlu’, rydyn ni’n gofyn y cwestiynau hyn. Pam fod faniau’r heddlu yn cael eu hanfon i ddelio â dyn sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl? Pam fod cymunedau queer yn cael eu gor-blismona yn gyson, yma yn ne Cymru fel ymhobman arall, yn ôl pob tebyg?

Onid oes gwell ffordd i fynd o’i chwmpas hi?  



Myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yw Georgia Day (nhw/eu) sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol a Llenyddiaeth Saesneg. Mae eu diddordebau yn cynnwys hanes queer, pobi, garddio, a darllen. I gysylltu â Georgia, e-bostiwch georgiaday8@gmail.com.


Nodiadau

1 Peter Ackroyd, Queer City: Gay London From the Romans to the Present Day (Llundain: Vintage, 2017), t. 211

2 Emma K. Russell, ‘A “Fair Cop”: Queer Histories, Affect, and Police Image Work in Pride March’, Crime, Media, Culture (cyfrol 13, rhifyn 3, 2017) [gwelwyd 24/02/21], t. 278

3 Cyfieithiad o Molly Nevius, ‘The First Pride Was a Riot: How Queer Activism Has Partnered with Police to Hurt the Community's Most Vulnerable’, Hastings Women's Law Journal, (cyfrol 29, rhifyn 1, 2018) [gwelwyd 24/02/21], t. 127

4 Cyfieithiad o Russell, ‘A “Fair Cop”’, t. 288

5 ‘LGBT in Britain: Hate Crime and Discrimination’, Stonewall UK (2017) [gwelwyd 27/02/21], t. 12

6 ‘LGBT in Britain: Hate Crime and Discrimination’, Stonewall UK, t. 13

7 Nevius, ‘The First Pride Was a Riot’, t. 139

8 Nevius, ‘The First Pride Was a Riot’, t. 139

9 ‘Stonewall Top 100 Employers 2011: The Workplace Equality Index’, Stonewall UK (2011) [gwelwyd 24/02/21], tt. 6–7

10 I gael mwy o wybodaeth am blismona amgen, gweler https://defundthepolice.org/alternatives-to-police-services/


Share


More like this