Dwi’n cofio’n glir gwisgo dillad Mam pan oeddwn i’n bump oed. Mae’n rhaid bod dawnsio o gwmpas y tŷ ynddyn nhw yn teimlo mor rhydd, fel Julie Andrews yn The Sound of Music. Gwefusau coch, colur llygaid glas, sgert ffrils gydag addurn petwnia a rhosod (dwi’n credu) ar ffabrig lliw mwstard, het wellt, a blows. Dwi’n gwybod hyn achos bod llun ohona i’n gwisgo’r cyfan, ac yn eistedd ar ben y grisiau. Ond yn oedolyn ifanc, fe ffeindiais i’r llun a’i rwygo’n ddarnau. Welwyd mohono byth eto, ond dwi’n ei gofio.
Gofynais i Mam os mae’n cofio fo. Mi oedd hi’n cofio fo’n iawn. Wnaeth hi feddwl yn galed lle mae’r llun wedi mynd, tan imi gyfadda bod fi wedi ddinistro fo.
Dwi’n synnu o hyd mod i’n cofio’r llun hwn, a sut rwy’n teimlo tristwch hyd heddiw nad yw’n bodoli yn y byd hwn mwyach. Dwi’n meddwl amdano’n aml. Ffotograff syml a dynnwyd, dwi’n cymryd, gan Mam ond sydd â grym mor nerthol ac anweledig nes cynhyrfu ynof drobwll o deimladau – cywilydd, tristwch, llawenydd, balchder – ond yn y pen draw; cywilydd. Pam? Pam fod gan y llun gymaint o afael ynof o hyd, er ei fod wedi hen bydru mewn tomen a throi’n wastraff ers blynyddoedd?
Sut oeddwn i’n gwybod bryd hynny fod yn rhaid i’r ffotograff gael mynd?
Tyfais i fyny ar Ynys Môn mewn pentref bach iawn. Roeddwn i’n byw’n ofnadwy o agos i draeth, a roeddwn i’n medru gweld o tu allan o ffenast fy ystafell wely. Mae’r gallu i anadlu mewn lle gwledig yn neud i chdi gwerthfawrogi o’n fwy pan ti’n ei ddianc o am ddinas. Sydd yn beth amlwg i ddweud, ella, ond y peth cyntaf dwi’n meddwl amdan pan dwi’n trafeilio nol adra ydi’r ffordd mae’r aer yn teimlo ar fy nghroen.
Cafodd y ffotograff ei dynnu yng nghartref fy mhlentyndod yn Aberffraw. Dyna lle cae cyfran helaeth o’r teulu wedi eu magu ac yn dal i fyw. Mae Môn yn lleoliad i nifer o chwedlau cyfrin Cymru, yn ei thir âr a’i harfordir garw, ei childraethau creigiog a’i rhostir agored. Rydyn ni’n cael ein trwytho yn chwedlau’r tir o’n cwmpas yn yr ysgol, a’n breuddwydion am hud, ysbrydion a chreaduriaid ein cynefin yn ein llenwi â balchder. Gallwn ni gredu ein bod ni’n byw mewn rhywle hudol, ac efallai bod yr hud hwnnw yn ein gwythiennau ni hefyd. Efallai taw coel gwrach yw’r cyfan hefyd, a gor-ddweud am bosibiliadau’r anweledig. Fel y gallwch chi ddychmygu, mewn pentrefi bach mae pawb yn adnabod ei gilydd, a gwybod busnes ei gilydd hefyd. Pwy yw pwy, ble mae hwn a hwn yn byw, beth oedden nhw’n arfer ei wneud, i bwy maen nhw’n perthyn, ble maen nhw’n gweithio nawr?
‘Lot o bobol dydan ni ddim yn nabod yn byw yn y pentref rŵan,’ medda Nain.
Gall peidio gwybod neu ddeall rhywbeth fod yn frawychus. I mi, mae’n agor y drws i gymaint o ganfyddiadau posib – amdanaf i ac eraill – ac os dydyn ni’n dysgu edrych yn fanylach efallai y byddwn ni’n gweld rhywbeth oedd angen i ni ei weld ers tro.
Wrth edrych drwy gasgliad ar-lein Amgueddfa Cymru cefais fy nenu’n syth at ffotograffau David Hurn, a llun o dair brenhines drag yn paratoi ar gyfer dawns yn Llundain yn benodol. Mae delweddau fel hyn yn dangos yn glir i mi pam fod dinasoedd metropolitan yn gymaint o dynfa i bobl ifanc queer o’r wlad – fel fi pan adewais i Aberffraw am Lundain yn 19. Tynfa rhyddid, cymuned, a drama’r metropolitan.
Dim ond unwaith oeddwn i erioed wedi bod i Lundain, pan oeddwn i yn y coleg celf, ac roeddwn i’n gwybod ym mêr fy esgyrn taw dyna lle oeddwn i angen bod bryd hynny. Am y tro cyntaf roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn bod yn fi fy hun. Yn ddistaw bach, dwi’n credu bod mynd i’r ddinas fwyaf posib yn y DU yn golygu y gallwn i fod yn pwy bynnag oeddwn i am fod. Gwisgo sut oeddwn i am wisgo, mynd i unrhywle, gweld unrhywun, bod yn ‘fi fy hun’. Neu, efallai, bod yn fwy na fy hun.
Mae lluniau’n ddadleuol. Gallan nhw guddio’r gwirionedd, datgelu rhywbeth cudd, neu ddweud celwydd hyd yn oed.
Ar 30 Mawrth 2014, llosgodd y Three Crowns yn ulw, sef yr unig far hoyw ym Mangor, y ddinas agosaf i nghartref. (Roedd hyn ddiwrnod wedi i Lywodraeth y DU basio deddf yn cyfreithloni priodasau o’r un rhyw.)
Doedd dim iawndal am yr ymosodiad. Mae’n debyg bod dadl rhwng dau bartner busnes wedi gwaethygu nes cynnau tân i’r adeilad cyfan, a rheolwr y dafarn yn dioddef anafiadau difrifol, a bod y dyn a gyhuddwyd yn ôl y sôn wedi dechrau nifer o danau yn yr ardal dros y flwyddyn flaenorol.
Dim ond unwaith oeddwn i wedi bod yno. Mae fy atgofion o’r profiad yn niwlog oherwydd fy mod i’n eithaf ifanc, ac yn feddw. Rydw i’n cofio ei fod yn teimlo’n fach, sy’n golygu ei fod yn llenwi â phobl yn gyflym iawn, iawn. Dwi’n cofio llawer o glitter, llenni coch, a lle’n drwm o atmosffer. Yn drwm â gwres yr holl gyrff wedi ymgasglu at ei gilydd i gyfeiliant cerddoriaeth ddisgo. Doedd yr addurniadau ddim yn wahanol iawn i’r bariau eraill roeddwn i wedi bod ynddyn nhw, ddim mewn gwirionedd. Roedd y celfi yn dywyll dan farnais ac yn ludiog, fel y llawr, a sawr chwerw’r lager yn lliwio’r aer a threiddio i’r toiledau lle byddai’n asio â sawr piso. Dwi’n credu taw glitter oedd fy mhrif atgof. Wal arian, serennog yn wych o ffug. Mae gan glitter ei iaith camp, eithafol ei hun.
Camp yw’r ymgais i wneud rhywbeth eithriadol. Ond eithriadol yn yr ystyr arbennig, hudol yn aml (y gromlin, a’r osgo eithafol), nid eithriadol o ran ymdrech yn unig.1
Roedd y gofod hwn yn teimlo’n wahanol.
Dyna’r bar hoyw cyntaf i fi gamu iddo erioed. I mi, roedd e’n teimlo’n wahanol. Doedd dim byd anarferol yn yr addurn – efallai yn y demograffig neu’r gerddoriaeth.
Rwy’n synhwyro y gallai gofod fel hwn fod yn lle dilys i ddarganfod eich hun, am ddiogelwch, brawdgarwch, cymysgarwch.
Yna tro’r White Lion oedd hi yn 2015, yn gobeithio ailgynnau’r awyrgylch balch a greodd y Three Crowns. Yn anffodus, fel cymaint o ofodau queer, roedd yn rhaid iddynt gau yn ddiweddar oherwydd cynyddu pwysau ariannol o ganlyniad i’r pandemig. Nid dyma’r unig leoliadau yng ngogledd Cymru. Ym Mhenmaenmawr mae gwesty Pennant Hall oedd hefyd yn gartref i sauna hoyw wedi cael ei werthu er mwyn cael ei ddymchwel i adeiladu fflatiau.
Rwy’n falch bod y gofodau yma wedi bodoli yng ngogledd Cymru, ond yn drist na fydd modd i fi gamu iddyn nhw. Trueni mod i ddim yn gwybod amdanyn nhw yn gynt.
I mi mae bod yn queer yn ymgnawdoliad o gryfder. Rydych chi’n gwybod yn barod sut i ddarllen y codau a’r symbolau sy’n diwallu eich dyheadau. Mae archif yn canolbwyntio ar y queer yn mireinio geirfa, yn egluro, yn gwneud i chi gredu tystiolaeth eich llygaid. Roeddech chi’n iawn i ddehongli’r queer yn y gwrthrych, y llun neu’r gofod hwnnw.
Mae fy rhieni yn ama bod nhw’n nabod pobol oedd yn arfer mynd i’r Three Crowns, ond tydi nhw ddim yn siŵr.
Jyst gossip oedd o.
‘Be sydd yn digwydd yno?’ Fel petai pub hoyw yn drafnidiaeth i fyd gwahanol yn hytrach na pub arferol. I mi… dyna be mae pub hoyw yn wneud.
Siaradais gyda Robart Evans yn ddiweddar, sydd yn gyn-weithiwr a phreswylydd yn y Three Crowns a’r White Lion. Dywedon nhw oedd y bar angen bod yn rhywle i alluogi pobol i fod yn ‘extra’ nhw’n hunan. Sydd yn ddiddorol imi bod ni’n disgrifio ein hunan fel bod yn ‘extra’. Be di huna yn union? Ydio’n ‘extra’ ta ydio’n fod yn ‘dilys’ ti?
Mewn project gafodd ei gomisiynu gan yr Eisteddfod yn diweddar, creuais fideo i ddogfennu’r sgwrs yma gyda Robart. Credaf bod hi’n bwysig i archifo straeon ac hanesion hunaniaeth a chymunedau cwiar ein ardaloedd gwledig, nid yn unig yn y mannau mwy metropolitan. Mae defnyddio hanesion llafar, lluniau a gwrthrychau yn ein gallugoi i agosáu tuag at gofnodi bywydau LHDT+ fwy eang, yn enwedig yng Nghymru. Drwy gofnodi hanes y bobl gallwn ddysgu mwy am y cymunedau, eu gwleidyddiaeth nhw a’u dymuniadau ar gyfer y dyfodol. Wrth wneud ymchwil i’r project, ffeindiais luniau o’r bar drost blynyddoedd ar dudalen Facebook.
Drysau caeedig, drysau di-nod, drysau’n cuddio dan ein trwynau. Drwy’r mudandod y byddwn ni’n rhithio posibiliadau a ffantasi i ni’n hunain.
Estyn am rywbeth o awydd. Bron â chyffwrdd, yn methu, ar flaenau eich bysedd. Mae’r llaw, y fraich, y corff cyfan yn wrthrych awydd. Wrth feddwl am estyn allan pan fydda i’n gweld arwresau femme ar y sgrin neu mewn lluniau. Fedra i ddim estyn wrth gwrs, dim ond breuddwydio am wneud, ac mae cysur yn hynny.
Mae rhywbeth eithriadol am ddarllen gofodau a lluniau fel hyn. Yr hud o ddod â rhywbeth yn fyw yn eich dychymyg, wrth dynnu llun, neu daro ar ateb sy’n gwneud rhywbeth yn hollol amlwg. I mi mae hynna’n eithriadol.
Crëwyd Archif rukus! yn y London Metropolitan Archive gan yr artist Ajamu X a’r gwneuthurwr ffilmiau Topher Campbell.2 Dyma’r archif LGBT Du byw cyntaf yn Ewrop sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth, diwylliant a phrofiadau cymunedau hoyw, lesbiaidd a trans yn y DU ac mor bell i ffwrdd â Nigeria ac Efrog Newydd. Mae’r gwreiddyn deallusol yng ngwaith Stuart Hall ac Astudiaethau Diwylliannol Prydeinig yn gyffredinol, ac yn agor sgwrs feirniadol am arferion treftadaeth prif ffrwd a’r drafodaeth gydnabyddedig o hunaniaeth Ddu a queer.
Yn ogystal â bod yn archif o wrthrychau a chofroddion, maent yn darparu arddangosfeydd, sgyrsiau, gweithdai, ac adnoddau addysgiadol yn canolbwyntio ar y profiad LGBT Du. Rwy’n cofio gweld rhai o’r gwrthrychau yn yr archif (fy ymweliad cyntaf ag unrhyw archif!) gan ryfeddu a synnu at yr holl wrthrychau oedd ar gael. Ffotograffau fel hunluniau, nodiadau, deunydd hyrwyddo, llythyrau, cofnodion, dyddiaduron a llyfr sylwadau o arddangosfa.
Sut beth fyddai archif queer yng Nghymru? Ai artistiaid fyddai’n arwain? Pwy fyddai’n cyfrannu? A fyddai’n adnodd ffynhonnell agored?
Byddwn i’n dadlau na ddylai fod yn gaeth i unrhyw reolau na hierarchaeth. Efallai dylai’r ffotograffau gan Keith Parry o’r holl flynyddoedd yn y Three Crowns fod yno? Beth am arwydd y White Lion? Ble fydd hwnnw’n mynd? Mae Pennant Hall nawr yn bodoli fel cyfres o adolygiadau ar TripAdvisor, ond mae modd canfod eu gwefan wedi archifo hefyd os twriwch chi’n ddigon trylwyr.
Efallai y gallai’r llun yna o fi yn blentyn yn gwisgo dillad Mam gael ei gynnwys, tasai heb gael ei ddinistrio. Efallai gall fy nhystiolaeth i ei fod wedi bodoli gael ei ystyried fel hanes llafar. Wedi’r cyfan, dyma fi yn ysgrifennu amdano flynyddoedd wedyn, a’i glymu i mhrofiadau queer i gyd. Rwy’n meddwl am y llun wrth siarad am y tafarnau dwi wedi ymweld â nhw. Rwy’n meddwl am y llun wrth sôn am weithgareddau o bob math. Rwy’n meddwl am y llun wrth eistedd mewn tawelwch. Mae gweld y queer a’i roi ar gof a chadw yn cadarnhau pwy ydw i. Yn yr eiliad honno roeddwn i’n ddigon dewr i ddangos fy natur fenywaidd i pwy bynnag sy’n tynnu’r llun: pam na alla i wneud hynny nawr? Taswn i’n ei weld eto, efallai byddai arbrofi gyda dulliau o fynegi fy hun ddim bellach yn freuddwyd gywilyddus ond yn gadarnhad o realiti.
Artist o Gymru yw Owain McGilvary sy’n rhannu ei amser rhwng Glasgow ac Ynys Môn ac yn gweithio gyda delweddau symudol, collage a darlunio. Mae ei waith yn aml yn plethu gwahanol hanesion llafar, straeon personol, theori queer, chwedleua, hel clecs ac ymchwil archifol.
1↑ Susan Sontag, Notes on Camp (1964), t. 7
2↑ Archif rukus! ar wefan Prifysgol Fetropolitan Llundain