CYNFAS

Diana Almeida
2 Ebrill 2021

GWEITHDY: Personae drag / hunaniaeth ffem

Diana Almeida

2 Ebrill 2021 | Minute read

David Hurn, Gay Ball at the Registry Resort. Phoenix, Arizona USA. © David Hurn / MAGNUM Photos / Amgueddfa Cymru

Y Gweithdy

All menyw fod yn frenhines drag? Yw drag yn agored i bawb?

Er taw prin fyddan nhw’n cael eu gweld, mae menywod wedi bod yn rhan o’r byd drag ers y dechrau. Heddiw, gall menyw fod yn Frenin neu’n Frenhines Drag. Gall drag fod yn arf o fewn (a tu allan!) i’r gymuned queer i ail-greu ac ail-ddiffinio hunaniaeth rhywedd fel rhan o sbectrwm eang, hyblyg. Mae gan frenhines drag gyfle i ail-ddiffinio ac adennill eu grym benywaidd eu hunain.

Bydd y gweithdai yma yn helpu pobl i greu persona drag eu hunain, drwy ystyried eu hunaniaeth a rôl stereoteip rhywedd yn eu bywydau.

Mae’r gweithdy hwn i ddechreuwyr wedi’i rannu’n ddwy sesiwn ac yn agored i unrhywun sydd â diddordeb mewn hunaniaeth rhywedd a chelfyddyd drag. Does dim angen profiad perfformio, ond mae croeso i bob math o artistiaid a pherfformwyr i gymryd rhan. Dan arweiniad yr artist cis-fenyw Diana Almeida (Dee Dee Vine), bydd y gweithdy yn dedchrau drwy drafod drag benywaidd, ond mae’r dull gweithio’n berthnasol i bawb beth bynnag eu rhywedd.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ddigidol ar 20 a 23 Ebrill. Mwy o fanylion i ddilyn – dewch yn ôl i’r dudalen am ragor o wybodaeth a cadwch lygad ar gyfrif @CelfArYCyd ar Instagram.

Arweinydd y gweithdy

Gweithiwr theatr o Sbaen sy’n byw yng Nghaerdydd yw Diana Almeida. Mae ganddi MA mewn drama o Brifysgol De Cymru a PhD mewn Astudiaethau Rhywedd o Brifysgol Salamanca, lle arweiniodd ei hymchwil iddi astudio drag a trawsffeministiaeth. Mae’n frwd dros theatr adloniant a brwydro dros hawliau ffeminist ac LHDTQRhA+.


Share


More like this