CYNFAS

Catrin Menai
27 Mai 2021

AGORA

Catrin Menai

27 Mai 2021 | Minute read

Artist yw Catrin Menai (1987– ) yn gweithio rhwng Cymru a Glasgow. Wrth ystyried defnydd sylw, mae’n defnyddio geiriau, ffilm a gwrthrychau canfod fel modd o drafod cadwyni cysylltiadau, dulliau cyfnewid, a gwahanol fathau o gwmni.

“Fe ddarllenais yn rhywle bod craidd o gelloedd nerfau siâp glöyn byw y tu fewn i linyn cefn ceffyl. Mae’n ddelwedd sy’n aros gyda fi, fel y bydd ‘adref’, a’r holl ddelweddau cysylltiedig sy’n pentyrru ac ymddangos, sy’n hedfan. Cefais fy nhynnu at y ffigwr bach o geffyl a ganfuwyd ‘ar ddamwain’ wrth gloddio mewn gardd ym Mhant-yr-Heol, Pentwyn Mawr (1949). Roeddwn i’n dychmygu person yn symud tua’r ceffyl a’r ceffyl yn symud tua’r person, a’r cyfathrebu sylfaenol yma; o gyfarfod ac ymglymu. Mae’n wir, rydyn ni ynghlwm yn ein cynefin. Mae’r ffrithiant yn wyddonol ond eto’n delynegol, wrth i’r tirlun symud ac ymledu.”

Cyfeiriadau:

  1. Model bach efydd o geffyl, 100 CC–OC 100
  2. Mynyddoedd y Carneddau
  3. Brenda Chamberlain – Ceffylau llawn maint wedi’u tynnu yn syth ar y waliau gyda golosg ac ocr coch (Carreg Fawr, Ynys Enlli). Brenda Chamberlain yn ffarwelio â chwch o’r ynys.
  4. Patrick Farmer – Recordiad maes hydroffonig meic caeedig i iâ yn toddi ar Lyn Fachwen (Y Drenewydd).

Share


More like this