CYNFAS

David Mullin
27 Mai 2021

Brigau Onnen

David Mullin

27 Mai 2021 | Minute read

gwŷdd tabi (sidan)
onnen (pren)
rhuban
cotwm (wedi’i nyddu a’i droi)

Daethant o’r dwyrain, yn wreiddiol. Cawsant eu gyrru i’r gogledd, o Ewrop, gan newid hinsawdd a chanfod lle mewn cymunedau newydd, ac ymsefydlu. Maen nhw’n neilltuol, yn adnabyddus, gyda’u nodweddion eu hunain. Heddiw mae bron cymaint ohonynt ar Ynysoedd Prydain ag o bobl.

Mae’r onnen yn elfen o gynefin ac yn gynefin ei hun. Bydd yr onnen yn elfen o’r rhan fwyaf o gymunedau coediog, a bydd yn tyfu mewn amodau gwlyb a sych. Does angen fawr ddim pridd arni. Yn ôl Oliver Rackham, mae’r onnen yn fwyd i 111 o rywogaethau pryfed a gwiddon, mae 600 o rywogaethau cen yn tyfu ar y rhisgl, a 26 mwsogl a phedwar o lysiau’r afu yn gysylltiedig â hi.

Mae’r onnen hefyd yn goeden ddefnyddiol. Mae'n llosgi’n wyrdd, heb orfod ei sychu. Er ei fod o statws isel, cai’r pren ei ddefnyddio i greu troliau, berfâu, erydr ac ogau. Roedd yn boblogaidd ar gyfer dolenni offer, cribiniau, gwaywffyn a ffyn cerdded. Defnyddiwyd y dail i fwydo gwartheg yn y gaeaf, pan fod porfa’n brin. Mae’r Morgan Motor Company yn dal i dyfu coed ynn ar gyfer fframiau eu ceir.

Mae Rhestr Enwau Llefydd Hanesyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn rhestru 245 o enwau yn cynnwys y gair onnen. Caeau lle fyddai’r onnen yn nodwedd amlwg yw mwyafrif y rhain. Cân adnabyddus o’r 19eg ganrif yw Llwyn Onn yn adrodd hanes gŵr yn canfod ei gariad wrth gerdded ger llannerch o goed ynn, ond er clywed y fwyalchen a gweld blodau'r gog mae'n cael ei lethu gan golli cariad. “What are the beauties of nature to me?” yw byrdwn un fersiwn Saesneg.

Mae’r onnen felly mor ganolog i gynefin dyn ag y mae i fyd natur. Yn wir, mae Ronald Hutton yn awgrymu y cai ei hystyried fel y goeden fwyaf cyfrin, gyda mwy o hanesion ofergoleus amdani mewn casgliadau llên gwerin nag unrhyw rywogaeth arall ar Ynysoedd Prydain.

Cofnododd y naturiaethwr o’r 18fed ganrif, Gilbert White, yr arfer o ‘hollti’r onnen’: pan fyddai plentyn yn torri’i lengig, cai onnen ei hollti a’r plentyn ei basio drwyddi. Byddai’r hollt yn cael ei chau a’i chlymu, ac wrth i’r goeden wella, felly hefyd byddai’r plentyn. Ceir cofnod o’r arfer yn Hampshire, Swydd Gaer, Cernyw, Dyfnaint a Swydd Henffordd: yn Walterstone cafodd un plentyn ei basio drwy’r hollt naw gwaith cyn clymu’r goeden â brigau helyg. Dyma Gilbert White hefyd yn cofnodi afiechyd mewn gwartheg oedd yn cael ei achosi mae’n debyg gan lŷg yn rhedeg dros yr anifail. Y driniaeth oedd i naddu twll mewn onnen a chau llŷg ynddo yn fyw. Byddai’r gwartheg wedyn yn cael eu brwsio â brigau o’r goeden. Ar droad yr 20fed ganrif cymerwyd ffotograff o onnen llŷg, wedi’i phlygu'n siâp Z ar ei hochr, ym Mharc Richmond. Cwympodd y goeden o’r diwedd yn Storm Fawr 1987.

Defnyddiwyd coeden Parc Richmond hefyd mewn seremoni i drin y pâs. Byddai plant oedd yn dioddef o’r pâs yn cerdded dan ‘far gwrach’ wedi’i gwthio i’r goeden tra byddai ‘mam lŷg’ yn llafarganu ar doriad gwawr. Cofnodwyd coeden fwy hynod fyth yn Oaker Coppice, Eyton, Swydd Henffordd. Roedd hon wedi’i gorchuddio â gwallt dynol, wedi’i wthio i’r rhisgl. Roedd y gred bod gosod gwallt plentyn yn dioddef o’r pâs ar y goeden yn fyw hyd y 19fed ganrif, pan fyddai pobl o Lundain yn dal i anfon cudynnau o wallt i’r ciper lleol i’w gosod yn y rhisgl.

Dywedwyd bod yr onnen yn atynnu mellt, a’u brigau’n cadw nadroedd draw. Byddai rhoi dail onnen o dan y gobennydd yn gwneud i’r breuddwydiwr ddarogan y dyfodol. Roedd canfod deilen onnen eilrif (fel meillionnen pedair dalen) yn lwc dda ac yn arwydd o wir gariad. Byddai’r hadau yn cael eu hongian dros ddrysau i gadw gwrachod draw, ac o’u piclo byddent yn affrodisiac, yn gwella’r clefyd melyn ac yn atal gwynt. Ystyriwyd y sug yn donic cyffredinol, a byddai’n cael ei roi i fabanod newyddanedig.

Ond cledd deufiniog oedd yr hud. Yn Swydd Gaer yn y 19eg ganrif, credwyd i gancr onnen gael ei achosi gan arfer pobl o geisio gwella dafaden drwy ei rhwbio â chig moch a’i osod dan risgl y goeden. Byddai’r goeden wedyn yn ‘dal’ y ddafaden.

NPRN405601
Cyfeirnod Grid SN6351032910
Hen Sir Gaerfyrddin
Cymuned Talyllychau
Math o Safle COEDEN
Cyfnod Ôl-ganoloesol

Mae'r onnen wedi ymgynefino ym mhob cwr o Gymru, ond mae’n fwyaf poblog yn y de a’r de-orllewin. Noda Oliver Rackham bresenoldeb y goeden yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de, lle maent wedi ffynnu ers y 1930au. Cymru hefyd yw cartref hysbys yr onnen fwyaf yn Ynysoedd Prydain. Yn 2010 mesurwyd cwmpas boncyff Onnen Abaty Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin, a chanfod ei fod yn 33 ½ troedfedd (10.2m). Mae coed mwy wedi eu cofnodi, ond nid ers y 19eg ganrif.

Saif onnen Talyllychau mewn clawdd, dafliad carreg o adfeilion yr abaty canoloesol. O bell mae’n anodd amgyffred ei gwir faint, ond o sefyll yn ei chysgod mae’n amlwg fod rhai o’r canghennau isaf mor fawr â choed unigol. Rhyw bedair metr o’r llawr tyf gwernen o’r boncyff. Tyf draenen wen o gangen arall. Mae’r goeden ar goll dan fwsogl ac eiddew, a chen yn britho rhai o’r canghennau llorweddol. Ym mhantiau a chlymau bach y boncyff mae dŵr yn casglu, cyn gorlifo i lawr dros y rhisgl. Tyf llygadlys mewn cilfach fechan. Islaw, caiff y llwybr tarmac drwy’r carped o glychau’r gog wrth droed y goeden hardd ei sigo a’i dorri gan y gwreiddiau.

Daeth o’r dwyrain, yn wreiddiol. O Asia ac i Wlad Pwyl cyn cyrraedd y DU (yn swyddogol) o’r Iseldiroedd. Mae’n debyg i Hymenoscyphus fraxineus gyrraedd yn y 1970au, a cafodd ei gofnodi gyntaf yng Nghymru yn 2012. Erbyn 2016 roedd Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod ‘wedi ymsefydlu’ ar draws Cymru ac yn gwahardd mewnforio coed, planhigion a hadau onnen, na’u symud yn fewnol. Lledodd yn gynt nag oedd y modelau’n rhagweld, ac nid yw arafu ei ledaeniad bellach yn bosib. Mae’r ffwng yn ffrwytho ar y ddaear, gan ryddhau sborau sy’n glanio ar ddail y goeden, cyn treiddio i’r pren ac amharu ar y system gludo dŵr y planhigyn. Bydd dail yn duo a gwywo, archollion yn ymddangos ar y rhisgl, y corun yn marw nôl, a’r goeden yn dod yn fwy tebygol o ddioddef gan afiechydon a phlâu eraill. Amcangyfrifir y bydd y ffwng yn lladd hyd at 140 miliwn o goed ynn y DU, gan gostio hyd at £15 biliwn i’r economi.

brigau onnen
wedi’u cario mewn bag sidan
i wella ffitiau (mewn plant)

Eitem rhif 11.24.7 yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw dau frigyn onnen: brigyn trwchus wedi’i dorri ar y ddau ben islaw blagur deilen, a phen brigyn blagurog gydag egin du ar y pen. Mae yno ddeilen hefyd: y deilgoesyn a’r ddau ddeilios isaf, gyda gweddill y deilios wedi’u gwaredu. Mae’r brigau a'r ddeilen wedi’u clymu ag edau goch, wedi’i lapio bum gwaith a’i glymu’n gwlwm dwbl. Holltwyd pen y brigyn mwyaf, gyferbyn â’r egin deilen, a gwthiwyd deilgoesyn ynddo. Gyda’r eitem hefyd mae deilen rydd, ond ŵyr neb ble oedd hon wedi ei gosod. Efallai ei bod yn rhan o’r deilgoesyn yn hollt y brigyn mwyaf. Mae’r brigau a’r dail i gyd yn cael eu cario mewn bag o sidan coch, wedi’i wnïo â chotwm coch a’i gau â chortyn rhuban coch.

Gwrthrych rhyfedd yw hwn, a thriniaeth ryfedd i wella ‘ffitiau’ (epilepsi). Roedd meddyginiaeth llafar gwlad yn rhyfedd ac astrus ym mhobman (un enghraifft oedd i gardota deuddeg ceiniog gan ddeuddeg person gwahanol, eu cyfnewid am swllt, ac anfon honno at of arian i’w throi’n fodrwy fyddai’n gwella’r ffitio), ond yn Swydd Henffordd roedd tê uchelwydd yn cael ei gyfri’n llesol, a chlymu arianllys i ddwylo, arddyrnau a phigyrnau’r plentyn. Roedd epilepsi’n cael ei gysylltu’n aml â dewiniaeth. Efallai bod yr onnen, â’i nodweddion gwrthfelltithiol, yn cael ei gweld fel deunydd da i gadw’r ddewiniaeth yma draw. Mae bwndel o allweddi onnen wedi’u clymu ag edau goch yng nghasgliad yr Amgueddfa Hud a Dewiniaeth yng Nghernyw. Byddai’r rhain yn cael eu cario, neu eu plygu i ben hosan chwith er mwyn gwarchod rhag gwrachod. Mae gwrthrych tebyg yn Amgueddfa Horniman, eto wedi’i glymu ag edau ac mewn bag o sidan coch. Yng nghasgliadau Amgueddfa Horniman hefyd mae brigau onnen yn eu hegin fyddai’n cael eu berwi mewn dŵr i’w yfed i wella ffitiau.

Daeth o’r dwyrain, yn wreiddiol. O Tsieina i Ffrainc, yr Almaen a’r Ffindir, cyn cyrraedd y DU. Cadarnhawyd bod Orthocoronavirinae wedi cyrraedd Cymru ar 28 Chwefror 2020. Mae’r feirws yn achosi haint yn y system anadlu ddynol, gan effeithio ar y sinysau, y trwyn a’r llwnc, y corn gwddf a’r ysgyfaint. Gall hyn arwain at niwmonia, methu’r system anadlu, problemau gyda’r galon a’r afu, sioc septig a marwolaeth. Tarodd y feirws ar ei waethaf yng Nghymru yn y de-ddwyrain a Bae Abertawe. Gwaharddodd llywodraethau’r DU symud a chyswllt rhwng pobl. Am y tro cyntaf ers yr 16eg ganrif, roedd gwylwyr ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn atal pobl rhag croesi. Mae dros 128,000 o bobl yn y DU wedi cael eu lladd gan y feirws, a'r gost i'r economi wedi ei amcangyfrif yn £300 biliwn.

Pren a pobl, bywydau ynghlwm gan edafedd coch. Iachau un ac iechyd y llall. Yn rhannu cynefin a gwarchod ein gilydd. Er hyn, mae Oliver Rackham yn awgrymu bod cynifer o afiechydon coed wedi’u cyflwyno ers y 1970au â’r holl flynyddoedd cynt. Mae’n beio globaleiddio, sy’n galluogi i blâu ac afiechydon newydd ledu tu hwnt i’w cynefin naturiol. Globaleiddio hefyd alluogodd i SARS-CoV-2 ledu mor llwyddiannus, ond nid yw i weld yn galluogi i’r brechlyn gyrraedd y rhannau hynny o'r byd lle mae mwyaf ei angen. Yn 2004 daeth Sefydliad Iechyd y Byd i’r casgliad fod “globaleiddio yn achosi newidiadau dwys, anrhagweladwy yn aml, i amodau ecolegol, biolegol a chymdeithasol sy'n llywio datblygiad afiechydon heintus...” Roedd trosglwyddiad milheintiol (rhwng anifeiliaid a dynion) yn ofid mawr, ac yn aml o ganlyniad i ddyn yn symud i gynefinoedd newydd a dod i gysylltiad â firysau newydd. Mae newid hinsawdd hefyd yn gorfodi anifeiliaid i adael eu cynefin traddodiadol a dod i gysylltiad agosach â dyn, gan gynyddu’r cyfle i bathogen ganfod cynhaliwr newydd.

Mae’r gred y tu ôl i’r gwrthrych a dderbyniodd Rif Eitem 11.24.7 yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn dyddio o gyfnod cyn globaleiddio, cyn dyfod meddyginiaeth fodern. Cyfnod cyn brechlynnau a chyffuriau i drin epilepsi. Ond efallai bod dealltwriaeth bod perthynas rhwng y dynol a’r annynol, bod gan yr annynol nodweddion tu hwnt i’r defnyddiol a’r ymarferol, tu hwnt i’r hyn gaiff ei gyfri heddiw’n rhesymegol. Efallai bod yr hen arferion yma’n atgof bod gennym berthynas anorfod â’r organebau sy'n rhannu ein planed, a gwae ni rhag datod yr edau goch.




Archaeolegydd, crochenydd ac awdur yn byw yn Swydd Henffordd yw David Mullin. Ei brif ddiddordeb ymchwil yw archaeoleg ffiniau a thir y ffin, ac yn 2011 fe gwblhaodd ymchwil PhD ar gynhanes gororau Cymru a Lloegr. Caiff ei ryddiaith ei lywio gan dirlun y gororau, y berthynas rhwng pobl, lle a phethau, a’r modd y mae’r gorffennol yn bresennol yn y presennol.


Share


More like this