CYNFAS

GWENBA
27 Mai 2021

Cerrig Yfory

GWENBA

27 Mai 2021 | Minute read


Artist amlddisgybledig yw GWENBA sy’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei gwaith yn ymdrin â’r berthynas rhwng gofodau organig a rhithiol, gan greu tyfiant digidol o grombil y ddaear drwy gyfrwng arbrofion perfformiad, sain, fideo a thestun.

‘Cerdd fideo fer yw hon am brofiad rhithiol o Bryn Celli Ddu, sy’n ystyried sut y gallwn fod mewn cynefin seibr ac adfeilion hynafol drwy’r Rhyngrwyd. Mae’r fideo’n defnyddio ffilm archif o’r lleoliad, wedi’i gywasgu, ei heneiddio a’i chwalu, fel straeon wedi’u pasio ar lafar. Yn ei ategu mae’r testun “Tomorrow Stones” neu “Cerrig Yfory” wedi’i seilio ar ymchwil ar y safle a gwrthrychau ac arteffactau wedi’u canfod. Darn dwyieithog yw hwn. Fy nghreadigaeth i yw pob elfen sain.’



Share


More like this