CYNFAS

Bethan Scorey
27 Mai 2021

Cymdogion Annisgwyl: Llainfadyn a Nantwallter

Bethan Scorey

27 Mai 2021 | Minute read

Caiff trip i amgueddfa Sain Ffagan yn aml ei ddisgrifio fel siwrne o amgylch Cymru mewn un diwrnod. Does unman arall lle ddowch chi ar draws ensemble tebyg o adeiladau brodorol a diwydiannol Cymreig, ac fel casgliad maent yn arddangos sut ddatblygodd gwahanol ranbarthau yng Nghymru draddodiadau adeiladu amgen. Pan rydych chi’n trafaelio ar draws Cymru go iawn, mae golwg yr adeiladau hanesyddol yn newid yn raddol: rhywle ar hyd yr A5 welwch chi gerrig enfawr yn cwrdd â brics coch, ac wrth nesáu at gyrion Lloegr sylwch ar y nifer o adeiladau pren du a gwyn sy’n ymddangos. Ond yn Sain Ffagan, mae’r gwahaniaethau hyn rhwng rhanbarthau yn bur amlwg. Yng nghanol yr amgueddfa wrth yr hen dollty, mae yna ddau fwthyn sy’n amlygu hyn, sef Llainfadyn a Nantwallter, a dwi’n annog pobl i ddarllen y darn hwn wrth ymweld â’r bythynnod yno.

Bwthyn chwarelwr lechi oedd Llainfadyn, a adeiladwyd yn 1762 ym mhentref Rhostryfan ar gyrion Eryri, tra roedd Nantwallter yn fwthyn i was ffarm a adeiladwyd o gwmpas 1770 ym mhentref Taliaris, Sir Gaerfyrddin. Cafodd y ddau eu codi o fewn degawd i’w gilydd, a’r ddau i deuluoedd dosbarth gweithiol Cymreig, ond o ran golwg maent yn drawiadol wahanol. Heddiw, mae Llainfadyn a Nantwallter yn gymdogion annisgwyl, wedi eu hailgodi ryw ugain metr o’i gilydd yn yr Amgueddfa. Bwriad y darn hwn ydy ystyried y rhesymau am y gwahaniaethau amlwg rhwng y ddau o ran adeiladwaith a sut aeth eu perchnogion ati i ddefnyddio dulliau a defnyddiau hollol wahanol i siapio’r tai, serch anghenion go debyg.

I ddechrau, dewch i ni ystyried ym mha ffyrdd maent yn gymharol. O ran cynllun, mae’r ddau fwthyn yn debyg iawn: bythynnod un stafell yn y bôn, gyda stafell fyw betryalog yn agored i’r to, er roedd trigolion yn dueddol o rannu’r gofod hyn mewn i stafelloedd bach anffurfiol trwy osod dodrefn a pharwydydd syml. Mae gan y ddau aelwyd ar un pen a thaflod ar y pen arall; llofft syml agored lle'r oedd plant yn cysgu a nwyddau’n cael eu storio oedd hwn, ac yn Llainfadyn a Nantwallter mae yna fan cysgu arall oddi tano. Tu fas, mae gan flaen y ddau fwthyn ddrws weddol ganolog gyda ffenestri bychain, ac un simnai wrth y tal maen. Felly mae gan y ddau fwthyn yr un ‘fformiwla’ fel petai: mae prif nodweddion y naill dŷ – y drws, ffenestri, aelwyd, simnai, mannau cysgu – wedi’u drefnu a gosod yn gyson. Ond fe aeth perchnogion Llainfadyn a Nantwallter ati i adeiladu'r fformiwla hon mewn ffyrdd gwbl wahanol.

Roedd y broses o adeiladu tŷ brodorol yn organig iawn a doedd dim darluniau pensaernïol. Prin oedd gan drigolion ddigon o arian i gyflogi pensaer neu ddyluniwr proffesiynol, felly roedden nhw’n gwbl ddibynnol ar eu sgiliau eu hunain, y crefftwyr lleol, a ‘chymhortha’ gan y gymuned.1 Y rheswm amlwg am y gwahaniaethau rhwng Llainfadyn a Nantwallter ydy o ble maent yn dod, eu lleoliadau gwreiddiol. Yn hanesyddol roedd topograffi a mynyddoedd Cymru yn gwahanu’r wlad mewn i ranbarthau, a’r rhain heb systemau cyfathrebu da na llwybrau niferus rhyngddynt. Doedd dim modd i’r werin bobl brynu na chludo deunyddiau o ranbarthau eraill, dim ond deunyddiau naturiol o’r tir comin oedd ar gael iddynt.

Wedi dewis safle yn y mynyddoedd, aeth perchnogion Llainfadyn ati i gasglu clogfeini o’r caeau cyfagos i godi’r waliau cadarn. Weithiau roedd rhaid rholio’r clogfeini mwyaf i’r safle, neu os doedd dim modd eu symud o gwbl, adeiladwyd y bwthyn o’u cwmpas; gelwir y rhain yn ‘gerrig sefydlog’.2 Aeth yr adeiladwr ati i osod pob clogfaen gyda sgil a greddf mewn system flaenfain, gyda’r cerrig mwyaf tua gwaelod y wal a’r rhai llai yn uwch. Nodwch fod ambell garreg yn ymwthio allan o’r wal; ‘cerrig trwodd’ ydy’r rhain, sy’n clymu a chryfhau’r wal. Yn amlwg roedd yna agennau dwfn rhwng y clogfeini mwyaf, a chafodd y rhain ei ‘pegio’ gyda darnau man o garreg a llechi mewn clai er mwyn cryfhau’r wal ymhellach.

Yn Sir Gaerfyrddin, lle doedd dim cynifer o gerrig adeiladu da, cafodd waliau Nantwallter eu creu o ddeunydd o’r enw ‘clom’, sef cymysgedd o wellt, pridd a cherrig man. Gosodwyd y clom mewn haenau, neu ‘lifts’, ac roedd hi’n hanfodol gadael i bob haen sychu cyn ychwanegu'r haen olynol. Adeiladwyd y waliau ar blinth o gerrig rwbel, oedd yn sicrhau sylfaen gadarn ac yn atal llygod a llygod mawr rhag cloddio drwy waelod y wal. Doedd dim angen conglfeini na physt ar waliau clom ond roedd creu corneli crwn yn help i osgoi cyrion gwan a brau. Unwaith roedd y waliau’n ddigon tal a sych, roedd modd creu agorfeydd a gosod capan drws a ffenestri.

Er gwaethaf y gwahaniaethau rhwng waliau talpiog Llainfadyn a rhai llyfn, gwastad Nantwallter, roedd cam olaf y broses o adeiladu waliau yn unfath. Cafodd y ddau fwthyn eu gwyngalchu, sef y ffordd gyffredinol o amddiffyn y waliau rhag glaw a phryfed yn nythu, tu fas a thu fewn.

Toeon pren sydd gan Llainfadyn a Nantwallter, y naill wedi ei orchuddio gyda haen o ddeunyddiau naturiol. Eto, roedd y deunyddiau naturiol addas gerbron y tai yn wahanol iawn. Yn Llainfadyn roedd rhaid gorchuddio’r strwythur pren gyda haen o dyweirch er mwyn gosod llechi. Wrth i’r tywarchen sychu roedd yn dueddol o galedi a briwsioni a chwympo i’r stafell fyw islaw, felly aeth perchnogion y bwthyn ati i osod nenfwd o galico oddi tano.3 To gwellt sydd gan Nantwallter, ar y llaw arall. Roedd angen haen o redyn a chyll wedi’u osod yn groeslinol dros y ceibrau er mwyn gosod haen drwchus o eithin, a byddai’r gwellt yn cael ei wthio i mewn i’r eithin, a’r cyfan yn weladwy o’r stafell fyw. Cyffredin oedd gosod rhedyn gwyrdd, newydd ei dorri, oherwydd byddai’r canghennau oll yn asio i ffurfio un haen cryf.4

Roedd gan drigolion y ddau fwthyn dulliau o gadw eu tai yn sych a chlud. Roedd llechi to Llainfadyn yn swmpus ac yn anwastad felly er mwyn atal y glaw roedd yn rhaid gwthio mwsogl rhyngddynt. Yn ogystal, gwnaeth perchnogion Llainfadyn rhiciau neu ‘drips’ yn y clogfeini a ‘weather sheds’, sef llechi yn ymwthio o’r simnai er mwyn taflu'r dŵr glaw i ffwrdd. Roedd corneli clom Nantwallter yn archolladwy, felly roedd y to gwellt yn codi uwchben pob cornel i greu clustfeini, sef ‘eavesdrops’, oedd yn sianeli’r diferion dŵr i ffwrdd.

Roedd gwres yn flaenoriaeth arall. Roedd cynnal tan drwy’r dydd a nos yn hanfodol, ac wrth gwrs roedd angen ffordd o sianeli’r mwg allan o’r tŷ. Eto roedd perchnogion Llainfadyn a Nantwallter yn gwneud hyn mewn ffyrdd gwahanol. Adeiladwyd ‘uffern’ yn Llainfadyn, sef gofod yn y llawr wrth yr aelwyd efo grât haearn. Pwrpas yr uffern oedd dal y lludw a chreu drafft i helpu i gynnal y tan, ac roedd modd defnyddio’r lludw o’r uffern i greu llwybrau neu lloriau sment. Lwfer o bangorwaith uwch yr aelwyd sydd gan Nantwallter i dynnu’r mwg allan o’r tŷ. Cafodd ei leinio tu fewn gyda thail buwch, sydd yn gwrthsefyll gwres ac yn caledi megis haearn.5 Yn Nantwallter, mae’r wal bellaf yn camu yn ôl i greu alcof lle lleolir yr aelwyd, gyda’r lwfer uwch ben. Roedd hyn yn golygu fod mwy o wal, a mwy o arwynebau, i amsugno a storio gwres y tan. Rheswm posib arall am yr alcof oedd yr opsiwn o chwalu’r wal a’r lwfer ar frys petai yna dan, heb ddinistrio gweddill y tŷ. Mae’r simnai yn un fach, fyrdew, ac yn aml byddai’r simnai ar y math yma o fwthyn yn pwyso i ffwrdd o’r to er mwyn taflu unrhyw farwydos oedd yn codi o’r tan i ffwrdd o’r gwellt.6

Er dim ond un stafell oedd gan y naill dŷ yn y bôn, roedd gan y ddau dŷ ofodau mwy preifat i’r trigolion gysgu: yn Llainfadyn mae yna dau wely bocs pren sy’n ffurfio’r daflod uwchlaw ac yn Nantwallter mae yna bared o blethwaith yn gwahanu'r gofod o dan y daflod o’r stafell fyw. Mae’n amlwg fod gan adeiladwyr y tai hyn dealltwriaeth arbennig o natur a phriodweddau deunyddiau naturiol lleol. Gwnaeth trigolion Llainfadyn bared i atal drafftiau tu ôl i’r drws allan o un llechen enfawr oedd yn wyth troedfedd o daldra. Ers talwm roedd chwarelwyr yn aml yn creu llochesau bach o lechi er mwyn cysgodi rhag y ffrwydradau yn y chwarel, felly roedden nhw’n amlwg yn gwybod sut i ddefnyddio llechi yn adeileddol. Ffordd arall o wahaniaethu rhwng mannau gwahanol y tŷ oedd trwy ddefnyddio amryw o ddeunyddiau i greu hierarchaeth ofodol. Un esiampl o hyn yn Llainfadyn oedd y teil, sef platfform bach o lechen sy’n rhedeg ar hyd perimedr y stafell fyw er mwyn codi’r celfi pren oddi ar y llawr pridd i atal pydru. Yn ogystal â dal y celfi mwyaf drudfawr megis y cloc, y cypyrddau pen, a’r cwpwrdd llechen sy’n cadw bwyd yn oer, mae’r aelwyd a’r bwrdd a chadeiriau gerllaw hefyd wedi gosod ar y teil. Tra bo’r teil yn cynrychioli mannau mwy statig y stafell fyw, lle'r oedd y trigolion yn eistedd a gorffwys a’r celfi yn sefyll yn barhaol, mae gan y mannau mwy prysur lawr pridd. Mae’n debyg fod y teil wedi goroesi o dai’r cyfnod canoloesol gydag esgynloriau.

Mae’r trothwy yn lle pwysig hefyd. Dyma’r ffin rhwng y byd tu fas a’r cartref tu fewn, a hefyd man mwyaf prysur y tŷ sy’n gweld y fwyaf o draul; roedd angen arwyneb gwastad a chadarn yn y man hwn, nid llawr o bridd. Yn naturiol, llechen ydy trothwy Llainfadyn, ac yn Nantwallter mae yna bedwar slab o garreg wrth y drws. Yr unig arwynebau o garreg yn Nantwallter oedd y trothwy, y garreg aelwyd, a’r plinth islaw'r wal. Roedd y trothwy hefyd yn fan ysbrydol, yn gysylltiedig â thraddodiadau gwerin. Roedd trigolion yn addurno’r trothwy gyda sialc neu baent i groesawu dieithriaid neu fabanod newydd a chadw ysbrydion i ffwrdd.7

Yn ogystal ag anghenion ymarferol fel cysgod a gwres, roedd y werin bobl yn amlwg yn becso am olwg eu cartrefi, tu mewn a thu allan, ac yn gweithio yn galed i’w cadw yn dwt a glân. Cafodd mannau eraill yn ogystal â’r trothwy eu haddurno, er enghraifft yn Llainfadyn mae’r dyddiad ‘1762’ wedi ei gerfio ar fantell y simnai uwchben y lle tan i ddynodi'r flwyddyn cafodd y bwthyn ei godi. Gwnaeth y naill deulu ymdrechion i guddio deunyddiau hyll o’r golwg yn eu tai: yn Llainfadyn cafodd y darnau man o garreg a llechi a ddefnyddiwyd i ‘begio’ yr agennau dwfn rhwng clogfeini'r wal eu dwbio a’u gorchuddio; yn Nantwallter roedd y pared o blethwaith wedi ei orchuddio efo plastr llyfn ar yr ochr oedd yn wynebu'r stafell fyw a’r drws, ond nid ar yr ochr gefn yn y stafell gysgu.

Roedd perchnogion Llainfadyn a Nantwallter yn byw yn yr un cyfnod ac yn deuluoedd dosbarth gweithiol gyda’r un anghenion, ond mae’r bythynnod yn cyferbynnu gymaint. Nawr bod y ddau wedi eu hail-godi ochr yn ochr, maent yn dyst i ba mor gyfoethog ac amrywiol oedd pensaernïaeth Gymreig ers talwm. Maen nhw’n amlygu pam gafodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei chreu, sef i’n helpu ni i werthfawrogi adeiladau brodorol, hanesyddol Cymru mewn cyfnod o globaleiddio lle mae’n bosib adeiladu tai unfath yng Ngwynedd a Sir Gaerfyrddin, neu unrhyw le ym Mhrydain. Y rheswm dwi’n annog pobl i ddarllen y darn hwn wrth ymweld â’r bythynnod yn yr Amgueddfa, yn hytrach na chynnwys lluniau di-ri, ydy oherwydd bodolaeth yr Amgueddfa does dim rhaid i ni ddibynnu ar hen luniau na chofnodion o’r naill adeilad i’w hastudio a mwynhau heddiw.


Nodiadau

1Martin Davies a Dawn Jay, Save the Last of the Magic: Traditional Qualities of the West Wales Cottage (Caerfyrddin: Martin Davies, 1991), t. 6

2H. Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Cottages of Snowdonia (Bangor: Jarvis & Foster, 1908) t. 31

3Eurwyn Wiliam, Y Bwthyn Cymreig: Arferion adeiladu tlodion y Gymru wledig 1750–1900 (Aberystwyth: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2010), t. 25

4Eurwyn Wiliam, Home-made Homes: Dwellings of the Rural Poor in Wales (Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1988), t. 13

5Iorwerth C. Peate, The Welsh House: A Study in Folk Culture (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1940), t. 183

6Wiliam, Y Bwthyn Cymreig, t. 202

7Wiliam, Y Bwthyn Cymreig, t. 208


Darllen Pellach

  • Barnwell, Rachael a Richard Suggett, Inside Welsh Homes/Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru (Aberystwyth: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2012)
  • Davies, Martin and Dawn Jay, Save the Last of the Magic: Traditional Qualities of the West Wales Cottage (Caerfyrddin: Martin Davies, 1991)
  • Hughes, H. Harold a Herbert L. North, The Old Cottages of Snowdonia (Bangor: Jarvis & Foster, 1908)
  • Lowe, Jeremy, Welsh Country Workers Housing 1775–1875 (Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1985)
  • Peate, Iorwerth C., The Welsh House: A Study in Folk Culture (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1940)
  • Rapoport, Amos, House Form and Culture (Englewood Cliffs, New Jersey: Prentice Hall, 1969)
  • Wiliam, Eurwyn, Y Bwthyn Cymreig: Arferion adeiladu tlodion y Gymru wledig 1750–1900 (Aberystwyth: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2010)

Hanesydd adeiladau a darlunydd o Gaerdydd yw Bethan Scorey. Dechreuodd drwy astudio pensaernïaeth, ond cafodd ei hysbrydoli gan yr hafau a dreuliodd fel Gofalwr yn yr adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan a phenderfynu dilyn gradd Meistr mewn Hanes Adeiladau ym Mhrifysgol Caergrawnt. Fel rhan o’i hymchwil fe ddychwelodd ar leoliad myfyriwr i’r Adran Hanes ac Archaeoleg. Mae Bethan wrthi’n astudio ar gyfer PhD gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar broject yn ymwneud â Chastell Sain Ffagan, ac yn parhau i weithio fel Gofalwr yn yr adeiladau ar benwythnosau.



Share


More like this