CYNFAS

Emma Daman Thomas
19 Gorffennaf 2021

Celf a Cherddoriaeth

Emma Daman Thomas

19 Gorffennaf 2021 | Minute read

Beth ydw i’n ei wybod am Gelf a Cherddoriaeth? Wel fydda i byth yn siŵr ble mae un yn gorffen a'r llall yn dechrau. Dwi’n gwybod fod un yn Fyd a’r llall yn Ddiwydiant. Sy’n golygu bod un i fod i gael ei werthu, a’r llall, am wn i, yn ein hamgylchynu fel rhyw fiasma. Dwi’n gwybod ein bod ni i fod i fwynhau un, ac os na fyddwn ni mae’n debyg iawn ei fod wedi troi mewn i'r llall (uh oh). Roedd Celf yn arfer bod yn rhywbeth oedd mewn tai pobl gyfoethog, ac mewn Amgueddfeydd, sef Casgliadau o bethau o dai pobl gyfoethog. Tan yn ddiweddar, pan ddechreuodd gael ei recordio, dim rhywbeth i’w brynu oedd cerddoriaeth, ond rhywbeth fyddech chi’n ei wneud.

Vasilii Kandinsky, Cilgant Gwyrdd Asid / © Amgueddfa Cymru

A beth am rhythm, gwead, ailadrodd, lliw, cyfansoddiad... rydyn ni’n defnyddio cymaint o’r un geiriau i ddisgrifio celf weledol a cherddoriaeth. Perthynas symbiotig sydd rhwng celf a cherddoriaeth, ac er y byddwn ni’n eu cadw a’u categoreiddio mewn ffyrdd gwahanol, byddwn ni’n profi’r ddau mewn ffyrdd tebyg iawn. Gall pobl sydd heb synesthesia llawn (y ffenomenon niwrolegol pan fo cyffroi un synnwyr yn tanio un arall) hyd yn oed brofi sain fel lliw i ryw raddau. Yng ngeiriau Vasilii Kandinsky, ‘mae sain lliwiau mor bendant nes ei bod yn anodd canfod unrhyw un fyddai’n cyfleu melyn llachar â nodau bas, neu lyn tywyll mewn trebl.’ 1

Cerddor drwy ddamwain ydw i, ddaeth i Gaerdydd gan feddwl dod yn artist o ryw fath, mewn rhyw gyfrwng. Fe ges i flas mawr ar ddarganfod pethau fel celfyddyd berfformio (pobol yn gneud pethau weird jyst achos bo nhw moyn? ie plis!) a’i bod hi’n bosib dechrau band drwy jyst... ddechrau band (dim ots am gymwysterau, amdani! a dwi’n dal at hyn). Roedd celf yn apelio am ei fod yn teimlo fel y lle oedd yn rhoi’r mwyaf o ryddid. Gallech chi wneud unrhyw beth dan haul, ac roedd e'n dal i gyfri. Ond mae cerddoriaeth yn apelio ar lefel gorfforol ac emosiynol. Mae’n rhywbeth rydych chi’n teimlo gyda phob gewyn a does dim rhaid ei esbonio i chi’ch hun. Yn y rhifyn hwn mae Kieran Owen yn ysgrifennu am brofiad gweddnewidiol personol, a’r plethiad o gerddoriaeth a ffilm a brofodd pan welodd y band post-punk arloesol, Datblygu, yn perfformio i gyfeiliant Kiss gan Andy Warhol. Dyma oedd dechrau ei chwilfrydedd â’r band, a’r diweddar leisydd a geiriwr digymar, David R. Edwards (1964–2021). Mae Kieran yn canolbwyntio ar y cywllt â Warhol a’r Velvet Underground ac yn cymharu geiriau Datblygu i Dyddiau Du/Dark Days, gosodwaith sgrîn gan John Cale.

Hefyd ar gyfer y rhifyn hwn, fe wahoddais i gerddorion i ymateb i weithiau yn y casgliad cenedlaethol yn eu cyfrwng eu hunain. I ddefnyddio eu hofferynnau a’u technegau i greu gwaith, fel y byddai paentiwr yn defnyddio ei frws, a ffotograffydd ei gamera. Mae’r cyfansoddwr Sweet Baboo yn defnyddio ffotograffiaeth ddogfennol Martin Parr fel man cychwyn i adrodd stori plentyndod yn Eryri, 1989. Rydw i’n gweld y ddau artist yn storïwyr yn eu ffyrdd eu hunain. Mae Martin Parr wedi disgrifio ei broses fel ‘creu ffuglen o realiti’2 ac mae Sweet Baboo wedi cymryd y ffuglen hon a dyfeisio naratif newydd ei hun. Mae Sweet Baboo yn ysgrifennu mor naturiol am yr amseroedd tawel mewn carwriaeth, yr eiliadau o obaith ac awydd, y meddyliau mud. Felly y mae yn y gân newydd hon, gyda’i harwr (neu arwres... neu’r ddau?)

Defnyddiodd y cerddor o Gaerdydd, Francesca Dimech, waith y ffotografffydd cynnar Calvert Jones Golygfa Stryd yn Valletta, Malta fel sbardun i greu O Fargam i Valletta, taith drwy ei threftadaeth Faltaidd a’i chysylltiadau cerddorol yng Nghymru a Malta. Mae gwir deimlad o arbrofi chwareus yn y darn hwn, a phrofiad Francesca fel cerddor pres a’i sbardun i ddysgu technegau digidol newydd yn y cyfnod clo yn adlais o arbrofi caloteip Calvert. Wrth feddwl am hanes cerddorol ac artistig Cymru, mae’n anorfod meddwl am y telynorion talentog a’r tirlunwyr mawr sydd wedi ein cynrychioli, ond rhaid cofio hefyd effaith ymfudo a’r plethu diwylliannau parhaus, yn enwedig yn ein porthladdoedd, ar ein bandiau pres, ein caneuon gwerin, ac unrhyw beth arall fyddwn ni’n eu hystyried yn hollol Gymreig.

Ysbrydoliaeth Madame Ceski oedd Cwilt Teiliwr Wrecsam ac mae hi’n plethu ei darn sain ei hun gan adeiladu haenau o offerynau acwstig ac electronig, fel patrwm tecstilau. Mae hefyd yn dwyn ysbrydoliaeth o decstilau a chelf werin o bob cwr o’r byd, ac mae cyferbyniad prydferth rhwng cywreindeb y gerddoriaeth â’r gelfyddyd â’i sbardunodd. Enw’r darn yw Ouroboros, ar ôl y ddelwedd o’r sarff yn bwyta’i gynffon ei hun – symbol o ddinistrio ac atgyfodi. Mae’r ouroboros yn dangos i ni adfywiad cylchol bythol ac undod pob peth, nad oes dim yn diflannu a bod ffynhonnell i bopeth. Gobeithio mod i ddim yn datgelu gormod drwy ddweud bod y darn yn dechrau ac yn gorffen gyda’r un motiff, wedi’i weddnewid a’i adfywio.

Yn yr un modd dwi'n credu fod unrhyw gelfyddyd, dim ots beth yw’r cyfrwng, boed yn baentiad cain neu'n gân werin wedi’i hanner cofio a’i recordio ar iPhone, yn rhannu’r un anian. Mae rhywun yn rhywle, rywbryd, yn dangos i ni ym mha bynnag ffordd y gallan nhw, brofiad bywyd.

Gyda diolch mawr i Francesca Dimech, Francesca Simmons a Steve Black am eu hymatebion cerddorol trosgynnol ac i Kieran Owen am ei erthygl ddadlennol. Diolch hefyd i staff Amgueddfa Cymru am eu cefnogaeth gyda’r rhifyn hwn.

Am Emma Daman Thomas

Cerddor ac artist sy’n byw ym Mhowys yw Emma Daman Thomas. Mae’n un o sylfaenwyr y band Islet, a ryddhaodd eu trydydd albwm Eyelet yn 2020 ac sydd ar fin camu’n ôl i ddyfroedd perfformio byw fu unwaith mor gyfarwydd. Ymhlith ei phrojectau diweddar mae cyfansoddiad cerddorol arbrofol newydd gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, a sain a cherddoriaeth ar gyfer yr artist Freya Dooley. Mae Emma yn creu celf ar gyfer cerddoriaeth, ac mae ei gwaith gweledol yn ategu a chydblethu â’i gwaith cerddoriaeth a sain.


1 Concerning the Spiritual in Art – Vasilii Kandinsky, 1910

2 https://www.canon-europe.com/pro/stories/martin-parr-style-vision/

Share


More like this