Mae sŵn y synth yn grwndi am rai munudau eto ond mae'r cerddorion wedi gadael y llwyfan. Mae David R. Edwards wedi gadael yr adeilad (mwy na thebyg am fwgyn arall), a chynulleidfa’r sinema bellach yn ymgolli’n llwyr yn yr hyn gafodd ei daflunio o’r blaen am y 50 munud diwethaf; cusan fythol, hypnotig mewn du a gwyn perffaith.
Noson ym Mawrth 2017 oedd hi pan ddaeth Kiss Andy Warhol i sinema ym Mangor. Chwaraeodd Datblygu, y band post-punk arloesol, yr hyn addawodd y prif leisydd fyddai eu set olaf. Cadwodd ei air, er doedd neb yn credu hynny ar y pryd mewn gwirionedd. Ond roeddwn i’n gwybod yn sicr fy mod i newydd fwynhau celfyddyd berfformio oedd yn bleser pur, dim llai.
Trist oedd clywed am farw lleisydd a geiriwr Datblygu, David R. Edwards, yn 56 oed ym Mehefin 2021. Ers sefydlu’r band ym 1982, roedd eu hymdrechion i greu sŵn modern, amgen, ac unigryw yn y byd cerddoriaeth Cymreig heb ei ail, a dylanwad David ar ddiwylliant tanddaearol Cymru fel lleisydd, geiriwr, bardd a beirniad yn anferth.
Mae’n addas bod fy nghyfarfyddiad cyntaf â Datblygu yn weledol. Rywbryd yn 2012, roedd rhywun wedi plastro hen flychau teliffon yng Nghaerdydd â phosteri o wyneb David gyda’r slogan BT BRITISH BASTARD TELECOM oddi tano. Roedd y ffotograff ar y posteri yr un un â ddefnyddiwyd ar glawr ei hunangofiant, Atgofion Hen Wanc, ac mae’n dangos David yn ŵr ifanc hirwallt, yn olygus a thrawiadol.
Yn fuan wedyn, drwy hap a damwain eto, fe ddes i wyneb yn wyneb â’r band mewn caffi yn Nhreganna oedd yn cael ei redeg gan chwaer Pat Datblygu oedd wedi gorchuddio un wal ag arddangosfa i ddathlu pen-blwydd y band yn 30. Fe astudiais i’r gwaith celf a’r ffotograffau, ac un oedd yn cynnwys Gruff Rhys ifanc iawn yn eu gwylio yn yr Eisteddfod. Yn fy chwilfrydedd fe brynais CD. Roedd gan Mam a’n chwaer fwy o ddiddordeb yn y coffi a’r waffles.
Pan wrandewais ar y gerddoriaeth o'r diwedd fe glywais i David yn bloeddio’r geiriau o’r poster ar ddechrau’r gân ‘Rauschgiftsuchtige’. ‘Oh Laurie Anderson’ mae’n canu drosodd a thro wrth i’r gân gyrraedd ei huchafbwynt aflafar. I unrhyw un sy’n gwrando ar gerddoriaeth Datblygu heb fawr o grap ar y Gymraeg, mwy na thebyg taw dyma’r unig eiriau fyddwch chi’n eu hadnabod i ddechrau, heblaw am ambell i ‘hello’, ‘yeah’ neu ‘casserole’.
Ond roedd y perfformiad yn y Sinema y noson honno yn Pontio’r bwlch ieithyddol a dealltwriaeth semantig. Mae delweddau Warhol – 50 munud o gyplau o bob hil a rhywedd yn cusanu am 3.5 munud yr un – yn hyd perffaith ar gyfer cân bop dda, ac roedd digonedd o’r rheiny hefyd.
Wrth siarad ag Emyr Williams, trefnydd y digwyddiad ac un o sylfaenwyr Recordiau Ankst wnaeth ryddhau ac ailryddhau nifer o recordiau Datblygu, fe esboniodd pam yr aeth ati i gaffael y ffilm benodol honno gan Andy Warhol. ‘Mae’n un o’i ffilmiau mwyaf gonest a deniadol. Nid awdur difater ydyw yma. Rwy’n dychmygu ei fod wedi ymwneud llawer mwy â chreu’r ffilm hon na nifer o’i ffilmiau eraill. Mae'n hardd mewn ffordd unigryw a syml iawn. Does dim naratif, ond mae i bob pwrpas yn dangos yr unig naratif dynol pwysig.’
Roedd y gadwyn hon o bortreadau synhwyrus yn gefnlen i gadwyn berffaith o ganeuon Datblygu. Mae David yn bresenoldeb ymrithiol ond cinetig ar y llwyfan (pan fydd e ddim yn gadael drwy’r allanfa dân am fwgyn yn y darnau offerynnol). Pat yn llonydd ganolbwyntio drwy’r cyfan. Allweddellau cynnil, tywyll; llais David yn llawn, yn fwy cyhyrog na llais y gŵr ifanc ar yr hen dapiau o’r ’80au. Mae’n canu hen ffefrynnau fel ‘Mynd’ a ‘Problem Yw Bywyd’ yn gadarn, heb grechwen, tra bo cyfeiliant Pat yn swnio’n syndod o fodern wedi’i ailgymysgu a’i ailddehongli, yn dyst i’w dawn.
O flaen y delweddau du a gwyn ar y sgrin fawr, mae’r gerddoriaeth a’r ffilm yn ymddangos yn ddiamser. Mae’n gymysgedd gref i’r gynulleidfa; y perfformiad byw, y cusanu synhwyrus o 1963, y gerddoriaeth arallfydol unigryw, egni David ar bigau’r drain, y cyfan yn cofleidio’i gilydd fel cordeddu’r ffigyrau ar y sgrin.
Roeddwn i’n cymryd taw cyfeiriad oedd y cyfan at Exploding Plastic Inevitable – cyngherddau’r Velvet Underground yn y Factory wedi'u perfformio o flaen delweddau Andy Warhol – ond mae Emyr yn herio. ‘Alla i ddim dychmygu Datblygu byth yn gopi o unrhywbeth arall – beth fyddech chi’n ei gael ar y noson oedd Datblygu 100% a neb arall.’
Mae’r hyn brofais i ar y noson wedi aros yn fwy byw i mi na’r rhan fwyaf o berfformiadau. Ac yn ganolog i hynny mae’r llun o David a Pat, cyn-gariadon eu hunain ac eneidiau cerddorol cytûn yn ôl y teyrngedau diweddar, gyda’i gilydd ar y llwyfan â chusanau cast Warhol yn y bwlch rhyngddynt.
Yn nhŷb Emyr, ‘Mae Datblygu yn gydradd i Warhol, ac felly byddai’r gusan yn un artistig rhwng y band a’r artist yn gymaint â rhywbeth rhwng Dave a Pat.’
Er ei fod yn gyndyn i wneud y gymhariaeth â Exploding Plastic Inevitable, mae digonedd o gymariaethau rhwng y ddau fand. Byddwn i’n mynd mor bell â galw Datblygu yn Velvet Underground Cymraeg, tasai na ddim Cymro yn y Velvet Underground yn barod. Ond mae mwy i’w ddweud am hyn yng nghyd-destun cerddoriaeth Gymraeg.
Cyn ffurfio Datblygu ddechrau’r ’80au, roedd cerddoriaeth roc Gymraeg wedi dal ati i raddau helaeth fel pe na bai’r Velvet Underground yn bodoli. Roedd bandiau gwerin a roc radio, ‘grwpiau hwyl’ i ddyfynnu geiriau bychanol David mewn cyfweliad â HTV yn y chweched dosbarth. Ac yna daeth Datblygu; os nad wedi eu hysbrydoli’n uniongyrchol gan y Velvets, yna’n sicr yn anuniongyrchol drwy eu disgyblion art-rock, The Fall. Sawl gwaith mae geiriau Brian Eno wedi cael eu hailadrodd; bod unrhyw un brynodd un o recordiau’r Velvet Underground yn y ’60au wedi mynd ati i ffurfio band? Felly hefyd mae artistiaid fel Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a Cate Le Bon i gyd yn rhoi’r diolch i Datblygu am eu hysbrydoliaeth a’u harbrofi cerddorol.
Wrth i ni drafod mae Emyr yn crybwyll John Cale fel y drws i’r obsesiwn hwn â Warhol. Mae stori anhebygol y cerddor talentog a symudodd o geidwadaeth gymdeithasol Sir Gâr i galon avant-garde celf a roc Efrog Newydd wedi fy rhyfeddu erioed. Pan ddaeth Warhol i Fangor fe deimlais i gylch yn cau. Pan ddangoswyd Kiss am y tro cyntaf yn orielau Efrog Newydd y ’60au, darparwyd y cyfeiliant byw weithiau gan La Monte Young, a gyflwynodd John Cale i gysyniad y ‘drôn’ – y sain ddaeth i ddiffinio cerddoriaeth y Velvet Underground.
Ac mae plethu celf a cherddoriaeth yn greiddiol i’w yrfa. Ni ellir dychmygu cyffro cerddoriaeth y VU heb ddychmygu banana felen Warhol, a bathwyd y term art-rock i’w ddiffinio. Ond yn Amgueddfa Cymru, mewn blwch du coeth sy’n cynnwys socedi USB wedi’u torri â laser a chyfarwyddiadau manwl yr artist, mae’r esiampl fwyaf cyflawn o arbrofion seinweledol John Cale.
Gosodwaith pum sgrin yw Dyddiau Du/Dark Days a grewyd yn 2009, ac a gynrychiolodd Cymru yn y Venice Biennale y flwyddyn honno. Cafodd ei ddisgrifio ar y pryd fel ‘adlewyrchiad o berthynas bersonol John Cale â Chymru, yr iaith Gymraeg a mater ehangach cyfathrebu’. Mae’r ffilm yn cynnwys golygfeydd o aelwyd plentyndod yr artist yn y Garnant, sydd bellach yn wag; yr artist yn dringo tomen lechi yn Eryri yn ymbil ar ei fam ‘I didn’t do anything’ gyda’r llechi rhydd peryglus yn tincian dan ei draed; a golygfa heriol ohono’n dioddef arteithio waterboarding i gyfeiliant torf rygbi yn bloeddio ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Gallwch chi ddychmygu’r ddelwedd olaf hon yn llamu’n syth o eiriau Datblygu.
Mae John Cale wedi siarad yn agored mewn cyfweliadau ac yn ei hunangofiant What’s Welsh for Zen? am y caethiwed a’r trawma a brofodd yn ystod ei fagwraeth yng Nghymru, ac mae’r gwaith hwn yn bendant yn adlewyrchu a mynd i’r afael â hynny. Efallai y bydd yn synnu rhywun sy’n lled-gyfarwydd â John Cale bod Cymru iddo yn ennyn ymdeimlad o hiraeth tebyg i hiraeth Dylan Thomas yn Nadolig Plentyn yng Nghymru.
Wrth drafod Dyddiau Du yn y Guardian mae’n disgrifio Cymru’r 60au cynnar fel rhywle roedd yn rhaid dianc ohono: ‘Roedd y lle’n codi ofn arna i; roedd e’n mynd i unman.’ Yng nghân Datblygu ‘Gwlad ar fy Nghefn’ mae David yn canu bod
‘Byw yng Nghymru
’R un peth â syllu ar y paent yn sychu,
Ar y gwair yn tyfu lan
Tyfwch lan.’
Drwy ei dalent ryfeddol a’i weledigaeth, gadawodd John Cale Gymru, yn gyntaf ar ysgoloriaeth i goleg Goldsmiths, lle bwydwyd ei awch am arbrofi, cyn symud i Efrog Newydd, ac yn y pen draw fe gollodd ei Gymraeg. Ugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd y bachgen ysgol styfnig, David Rupert Edwards, foderneiddio diwylliant a cherddoriaeth Cymru drwy gyfrwng yr Iaith. Wrth drafod hyn, dywed Emyr, ‘Roedd gan Dave wastad broblem gydag avant-garde Efrog Newydd – ‘Yankee gyda acne, mewn crys-t’ – ac fe ddywedodd e droeon y gallet ti fod mor avant-garde yn Aberteifi â gallet ti yn Efrog Newydd. Felly dwi’n credu fod e’n mwynhau’r syniad o rannu llwyfan â Warhol.’
Ar eu cân ‘Smalltown’ o’r albwm sy’n fywgraffiad o Andy Warhol, Songs for Drella, mae Lou Reed a John Cale yn canu o berspectif yr artist.
‘When you’re growing up in a small town
You know that you'll grow down in a small town
There’s only one good use for a small town
You hate it – and you know you’ll have to leave’
Tra bod John Cale ac Andy Warhol wedi cyfnewid y Garnant a Pittsburgh am Efrog Newydd, symudodd David o Aberteifi i Aberystwyth, o Fangor i Gaerfyrddin, a brywdro gyda phroblemau iechyd meddwl dwys wrth aros yn driw i fywyd mewn tre fach a galwedigaeth gerddorol wreiddiol a gonest.
Roedd gan David wrth gwrs syniad cliriach o sut i fod yn radical artistig yng Nghymru nag oedd John Cale yn y ’60au. Cafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth post-punk wrth wrando ar John Peel, a bandiau oedd o bosib yn fawr eu dyled i John Cale. Rwy’n dwlu meddwl am fywydau disglair-athrylithgar a gwahanol y ddau ddyn. David, yn casáu teithio, a greodd wrth-ddiwylliant mewn diwylliant lleiafrifol yn yr ysgol uwchradd. John Cale, y sgolor clasurol a groesodd yr Iwerydd a newid cerddoriaeth am byth.
Mae’r cyfan yn rhyfeddol o anhebygol. Ond mae’r pontio annhebygol yma i’w weld mewn celf a cherddoriaeth ym mhobman. Mae i’w weld mewn ystafelloedd aer-dymherus mewn amgueddfeydd, yn bosteri ar ein strydoedd, i’w ddarganfod ar waliau mewn caffis, tafarndai a sinemâu annibynnol. Pa mor anhebygol yw hi y daeth Warhol i Fangor, neu bod yna rywun sydd am blethu’r gemau anghofiedig yma i greu rhywbeth newydd.
Yn y deunydd cyhoeddi ar gyfer cyngerdd Datblygu, ac wrth werthu’r syniad i’r Warhol Museum, defnyddiodd Emyr y dyfyniad gan seren y Factory, Ultra Violet, y byddai Andy yn croesawu’r fath ddigwyddiadau yn ei amser: ‘Mae Andy yn tyfu syniad yn fwy, yn well, yn fyddarol drwy gael cerddorion i chwarae ar y llwyfan wrth ddangos y ffilm. Pan fyddwch chi’n gadael y sinema bydd eich pen yn atseinio am ddyddiau a chithau’n cael trafferth clywed unrhyw beth ond ambiwlans.’
Mae celf a cherddoriaeth yn atseinio’n oesol, yn bwydo’i gilydd yn fythol fel drôn gadwyn, neu gusan barhaus.