CYNFAS

Francesca Dimech
19 Gorffennaf 2021

O Fargam i Valletta

Francesca Dimech

19 Gorffennaf 2021 | Minute read

Wrth bori drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru dyma fi’n canfod hen ffotograff caloteip yn dangos golygfa stryd yn Valletta, prifddinas Malta, oddeutu 1845/46, gan Calvert Richard Jones o Abertawe (1804–1877). Mae fy nghais am ddinasyddiaeth ddeuol ym Malta wedi cael ei gymeradwyo’n ddiweddar, felly roedd canfod y cyswllt hwn rhwng Cymru a Malta, man geni fy hen dad-cu, yn ennyn teimladau personol iawn i fi.

Vosis

Roedd Calvert Jones yn un o arloeswyr cynnar ffotograffiaeth, ac yn ffrind i William Fox Talbot, dyfeisiwr y dechneg caloteip. Mae nifer yn tybio taw ffotograff daguerreotype Calvert Jones o Gastell Margam yw’r ffotograff cyntaf i gael ei dynnu yng Nghymru. Fe hefyd oedd y person cyntaf i ddatblygu techneg i greu golygfeydd panorama, drwy osod dau neu fwy o negatifau ochr yn ochr ac asio’r uniadau â llaw. Mae’n bosib hefyd taw Calvert oedd y cyntaf i addasu ffotograffau, drwy ddefnyddio inc India ar negatif i ddileu ffigurau fel na fydden nhw’n ymddangos yn y positif terfynol (gweler Brodyr Capwsin, 1846). Roedd yn gymaint o arloeswr a doeddwn i erioed wedi clywed amdano, er cael fy magu yng ngwlad ei febyd mewn teulu sy’n caru ffotograffiaeth. Roeddwn i am newid hynny a dod â’i lwyddiannau i’r amlwg.

Roedd gan Calvert Jones hefyd ddiddordeb mawr mewn technoleg newydd, ac wedi troi at sleisio ac addasu delweddau i greu rhywbeth newydd, efallai byddai’n syniad da i mi geisio efelychu hynny drwy gerddoriaeth.

Pixelsynth Experiment Olivia Jack

Cam cyntaf y broses oedd uwchlwytho Golygfa Stryd yn Valletta i: Vosis, Acoustic Picture Transmitter (ATP) Dominik Seibold a Pixelsynth Experiment Olivia Jack. Mae’r rhaglenni yma yn galluogi’r defnyddiwr i echdynnu sain o’r delweddau mewn gwahanol ffyrdd. Mae Vosis yn gadael i chi ‘chwarae’ y llun drwy basio’ch bys dros wahanol rannau’r llun ac ATP yn creu rhythmau drwy weddnewid delweddau yn spectrogram. Mae Pixelsynth yn creu alawon a rhythmau drwy ddarllen gwahanol arlliwiau a siapau’r ddelwedd, gan roi’r rhyddid i chi newid tempo, graddfa a nifer y nodau. Dyma fi’n recordio’r synau yma a’u mewnlwytho i weithfan sain ddigidol.

żaqq

Dyma fi wedyn yn dechrau meddwl am y gwahaniaethau rhwng Malta a Chymru. Fel chwaraewr trwmped, roedd traddodiad bandiau pres cryf y ddwy wlad yn sefyll allan yn syth. Rwy’n cofio ymweld â pherthnasau ym Malta un haf, a’r drafodaeth yn cymharu y band pres oeddwn i’n rhan ohono ar y pryd, Wonderbrass, a band martsio fy nghefnder yn Quormi. Roedd e ar fin chwarae’r corn tenor gyda’r band yn festa flynyddol y pentref i anrhydeddu Sant Siôr, a finnau’r wythnos cynt wedi martsio drwy Gaerdydd yn chwarae fy nhrwmped fy hun gyda Wonderbrass ym mharêd Pride. Penderfynais ddefnyddio recordiad o fand pres Cymreig traddodiadol i adlewyrchu cyfnod y ffotograff, ac oherwydd fy mod i am ddefnyddio alaw Gymreig gyfarwydd, ffeindiais i recordiad o Fand Cory Treorci yn chwarae ‘Gwŷr Harlech’, oedd i weld yn berffaith. O safbwynt bandiau pres Malta, roeddwn i wedi bod i festa yn Valletta yn 2019 ac roedd gen i fideo o fand martsio lleol. Fe dynnais i’r sain o’r fideo a’i brosesu i’w gynnwys yn y darn.

Roeddwn i hefyd am gynnwys offerynau traddodiadol o’r ddwy wlad. Y dewis amlwg o Gymru yw’r delyn, ond dydw i ddim yn gallu chwarae’r delyn nac yn berchen ar un. Yn ysbryd Calvert Jones, fe ddefnyddiais i delyn ddigidol a recordio amrywiad. Dyna wnes i hefyd gyda’r żaqq – bacbib rhyfedd o Malta wedi’i wneud o lo cynamserol, gan gynnwys y coesau a’r gynffon. Does gen i ddim żaqq wrth law (diolch byth!) felly fe ddefnyddiais i’r un dechneg â’r delyn a chreu żaqq digidol drwy addasu synth pibau o’r Dwyrain Canol. Mae’r offeryn fel arfer yn cael ei gyfeilio gan tambur, neu dambwrîn, felly fe recordiais i fy hun yn chwarae ychydig fariau.

Leah Dimech, 10 oed (chwith); Francesca Dimech (dde)

Elfen bwysig arall o ddiwylliant Malta yw tân gwyllt. Mae tân gwyllt daear Malta, neu Olwynion Catrin, yn rhai o’r golygfeydd gorau i fi eu gweld erioed. Roedd gen i fideo o Ŵyl Tân Gwyllt Daear Mecanyddol Malta yn Floriana (ger Valletta) o fy ymweliad yn 2019. Fe dynnais i sain y gwahanol fathau o Olwynion Catrin o’r fideo a’u defnyddio yn y darn. Allwn i ddim cynnwys tân gwyllt heb gynnwys sŵn gynnau mawr Magnelfa Saliwt Valletta, sy’n dyddio i Warchae Mawr Malta ym 1565. Mwy na thebyg y byddai Calvert Jones wedi gweld y gynnau’n tanio eu hun, sy’n digwydd bob dydd am 4pm ac ar achlysuron arbennig. Yn ystod yr un cyfnod, byddai pobl yng Nghymru yn mwynhau cynnau tân gwyllt a thanio ‘magnelau carreg’ (llenwi tyllau mewn creigiau â phowdwr gwn) i ddathlu achlysuron arbennig, fel ymweliadau brenhinol ac agor rheilffyrdd. Mae Tom Scott ar YouTube wedi gofyn i beiriannydd ffrwydron ailgreu y rhain, a dwi wedi cael caniatâd i ddefnyddio recordiad yn fy seinlun.

I gloi, fel cantores roeddwn i am ddefnyddio fy llais fy hun yn y darn. Rwy’n caru canu caneuon gwerin Cymraeg, ac un o fy ffefrynnau yw’r hwiangerdd, ‘Si Hei Lwli’. Mae’r gân yn adrodd hanes menyw yn rhybuddio’i chariad pryd fydd ei gŵr adref, ac yn dyddio i ganol y 19eg ganrif o leiaf. Mae’n bosib y byddai Calvert Jones yn gyfarwydd â’r gân, ac efallai wedi ei chanu ei hun yn blentyn yn Abertawe. Mae’r gân yn sôn am longau a hwylio, ac roeddwn i’n teimlo y byddai hyn yn addas iawn, gan y byddai Calvert Jones wedi teithio i Malta dros y môr.

Leah Dimech, 10 oed (chwith); Francesca Dimech (dde)

I ategu ‘Si Hei Lwli’, rydw i wedi cynnwys recordiad o Leah, merch fy nghyfnither o Malta, yn canu fersiwn hyfryd o ‘Ongi’ Ongi’ Ongella’, cân werin boblogaidd yn dyddio o’r oesoedd canol. Mae plant Malta wedi bod yn ei chanu ers canrifoedd, felly mae’n bosib iawn y byddai Calvert Jones wedi ei chlywed ar y stryd yn Valletta lle tynnodd y ffotograff hwn, neu mewn festa wrth ymweld â’r ynys. ‘Croeso’ yw’r cyfieithiad o deitl y gân, ac rwy’n hoffi dychmygu Calvert Richard Jones a’i gamera newydd sbon yn glanio yn harbwr Valletta ac yn cael ei groesawu gan gôr o blant, bandiau pres, tanio magnelau a thân gwyllt.

Diolch arbennig i: Emma Daman Thomas, Nia Daniel (Yr Archif Gerddorol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), Kevin Casha (Cydlynydd Technegol Archif Luniau Genedlaethol Malta), Leah a Simon Dimech, Russell Arnott, Tom Scott, Band Cory. Sara Treble-Parry (Amgueddfa Cymru), Bronwen Colquhoun (Amgueddfa Cymru). Derbyniwyd hawl ar gyfer pob sampl.

Share


More like this