Y sarff sy'n bwyta’i gynffon ei hun, mewn cylch adnewyddol bythol.
Roedd gweld y cwilt hwn am y tro cyntaf yn arddangosfa Celf Werin Prydain yn 2014, fel rhywun wedi fy magu yn Wrecsam ond yn gwybod dim amdano, yn agoriad llygad. Mae wedi fy hudo byth er hynny.
Y cwilt hwn yw conglfaen y genre – mae–n fonolith! – gyda gwaddol gyfareddol a gofidus. Gweithiodd James Williams yn galed am ddegawd, mwy na thebyg yn gwnïo yn unig, yn ei amser sbâr, yn ei weithdy bach. Torrodd bob siâp pitw i’r maint perffaith, a phwytho’i weledigaeth yn bwyllog. Esblygodd y dyluniad dros y blynyddoedd i adlewyrchu micro- a macrocosm ei fyd.
Ond pa hanes mae’n ei adrodd? Pan fyddwn ni’n oedi ac ystyried – y defnydd gwlanen milwrol, yr adlais Trefedigaethol, priodoli diwylliannol y pagoda Willow Pattern, a’r cyfan dan fantell weithgar Brotestannaidd – mae pwysau anghyfforddus i’r gwaith. Yn sydyn mae’r cwtsh yn llawer llai cynnes.
Ond dyma fe, cofiant mewn cwilt mor eiconig a dynamig mae’n parhau i weu ei naratif ei hun bron i 170 mlynedd yn ddiweddarach, heb sôn am ddenu sylw artistiaid fel Alexander McQueen. Gall y sgwrs am gelf werin fod yn gymhleth yn aml; sut allwn ni warchod hygrededd y crefftwr gwreiddiol, pwy sy’n ysbrydoli pwy, ac yw’r patrwm ouroboros hwn yn broses greadigol adfywiol, neu’n gopi diog? Hanes pwy ydyn ni’n ei hadrodd?
Rydw i wedi cyfansoddi darn o gerddoriaeth yn ymateb i hyn oll. Mae’r byd sain yn ailadroddus, simsan, bywiog, gofidus, hwyliog, taer – cymysgedd o emosiynau’r cwilt! Dylanwadwyd arnaf gan rythm ysgogol caneuon pannu Gaeleg, ac roeddwn yn ymwybodol o rym gweddnewidiol cerddoriaeth gwehyddu’r Amazon. Cefais fy nghyfareddu gan y clymau clytwaith, a’r ymdebygrwydd i groen neidr a chuddliw dallu. Roeddwn i am gyfleu rhai o nodweddion epig y gwaith, lle mae llif a stasis yn cydfyw. Dychmygais James Williams wrth ei waith, yn sownd yn ei synfyfyrio am ddegawd, a chymharu hyn â fi wrth fy nesg, yn astudio’r lliwiau a’r siapau a datblygu math o feigryn creadigol, yn samplo gwahanol offerynnau acwstig a chopïo patrymau tecstilau yn batrymau ar y sequencer.
Mae’r darn yn cymryd siâp ac argraff ouroboros. Rydyn ni’n dechrau a gorffen gyda motiffau pwythau, sy’n cyferbynnu â’r cymal canol sy’n cyfleu prif ddelwedd y cwilt – dychymyg rhyfedd a rhithiol James Williams. Mae’n utopia ‘estron’ swynol ac anghysurus; yn freuddwydfyd. Mae’n teimlo fel taw yma y gwelwn ni’r crefftwr yn ei swyngwsg ei hun, wedi’i hudo fel ni gan y cwilt.
@madameceski