CYNFAS

Sweet Baboo
19 Gorffennaf 2021

Eryri, 1989

Sweet Baboo

19 Gorffennaf 2021 | Minute read

Cerddoriaeth a geiriau: Sweet Baboo
Delwedd y clawr: Martin Parr – Eryri. 1989
© Martin Parr / Magnum Photos / Rocket Gallery

http://www.sweetbaboo.co.uk/

Ysgrifennais gân yn ymateb i ffotograf Eryri 1989 gan Martin Parr. Fe welais i’r ffotograff am y tro cyntaf yn arddangosfa Martin Parr yng Nghymru, sef yr arddangosfa ddiwethaf i fi ei gweld yn yr Amgueddfa. Roeddwn i am ysgrifennu rhwybeth allai fod o safbwynt un o’r bobl yn y ffotograff, neu’r ddau. Cefais fy nenu at y ffotograff am ei fod yn fy atgoffa o ‘mhlentyndod yn tyfu i fyny yn Eryri. Cefais i fy ngeni yn yr 80au ac mae gan fy nheulu ffotograffau di-ri tebyg yn yr archifau.

Dwi’n poeni o hyd y bydda i’n rhedeg allan o ysbrydoliaeth i gyfansoddi caneuon, ac felly roedd cael delwedd neu syniad fel ysbrydoliaeth yn wych. Roeddwn i wedi bod eisiau ysgrifennu cân yn agor gyda’r geiriau ‘I miss you’ am dipyn, a phan welais i’r ffotograff daeth y cyfan at ei gilydd yn gyflym. Dyma fi’n dychmygu fy hun fel baledwr o’r 60au yn canu ar stôl uchel ar hen raglen deledu du a gwyn, gyda set gardfwrdd yn y cefndir. Roedd y geiriau wedi gorffen erbyn diwedd y nos a dyma fi’n ei recordio hi’r diwrnod wedyn. Dwi’n eitha hapus â’r canlyniad, ac mae wedi rhoi sbardun i fi ysgrifennu mwy fel hyn.

Martin Parr, Eryri, 1989 
© Martin Parr, Magnum Photos, Rocket Gallery 
© Amgueddfa Cymru 
© Celf ar y Cyd

Sweet Baboo

Mae Stephen Black wedi bod yn perfformio fel Sweet Baboo am dros ugain mlynedd. Mae’n gerddor a chyfansoddwr sydd wedi perfformio ledled y byd a chyhoeddi saith albwm sydd wedi dwyn clod y beirniaid. Mae wrthi’n gweithio ar albwm newydd i’w ryddhau yn 2022, y cyntaf ers iddo ryddhau Wild Imagination ar recordiau Moshi Moshi yn 2017. Yr enw ar hyn o bryd yw The Wreckage. Mae Stephen yn wreiddiol o dref lan-môr Bae Colwyn ond mae wedi treulio’i fywyd fel oedolyn i gyd yn ne Cymru.

Clywch fwy ar wefan Sweet Baboo.

Share


More like this