Wrth weithio yn y celfyddydau, cawn ei'n hatgoffa'n gyson am ein llafur a'n gwaith. Mae trafod tâl teg gyda sefydliadau yn arfer mwy cyson, gwahaniaethau tâl a llafur rhwng gweithwyr celfyddydol a chyfarwyddwyr yn cael ei drafod yn agored, a hanes casglu celf fel ‘adnodd ariannol gyntaf, adnodd cyhoeddus yn ail’ yn dod yn fwyfwy eglur. Mae anghydraddoldeb grym ac arian yn gwmwl dros y byd celf, ond mae dulliau creadigol o wrthsefyll yn ffynnu hefyd.
Rydyn ni wedi canfod ein hunain yn dychwelyd at 'yr artist fel gweithiwr' wrth i ni geisio deall yr holl bosibiliadau a sawl gwaith y bydd angen ail-ddehongli'r syniad. Gorsaf radio danddaearol ffug yw ein darn sain Local 37 (2020) wedi'i seilio ar destun byr Carlos Bulosan The Writer as Worker sy'n trosglwyddo geiriau a strategaethau ar gyfer yr artist fel gweithiwr. Daw enw Local 37 o'r undeb i weithwyr ymfudol ar arfordir y Gorllewin yn Unol Daleithiau'r 1930au, ac mae'r 'sioe radio' dair rhan yn cydblethu creu, trosglwyddo, a chyfunoli dosbarth gweithiol. Dyma ni'n dychwelyd at y thema hon eto mewn cyfres o berfformiadau, gan gynnwys Borrow Tomorrow (2021), oedd yn edrych ar sut y mae diffyg tâl dilys am lafur yn y celfyddydau yn annog ail-ddefnyddio, ail-bwrpasu ac ail-werthu profiadau'r gorffennol. Gall y celfyddydau fod yn hollol wahanol i'r hyn maent yn ei hawlio: lle i syniadau newydd, creadigol ddatblygu a thyfu. Mae ystyron amrywiol y geiriau 'yr artist fel gweithiwr' wedi eu crynhoi mewn adran o'n perfformiad mwyaf diweddar PAMPHLET BOMB (2021) dramateiddiad sy'n hanner traethawd beirniadol ar y dynamig rhwng celf a gwaith, a hanner naratif gwyddonias am bamffledwyr agit-prop yn y flwyddyn 2025:
Nid yw'r geiriau 'yr artist fel gweithiwr' yn cyfyngu nac yn derfynol. Maent yn cael eu defnyddio mewn amryw ffyrdd, weithiau i ddisgrifio'r artist nid fel artist o gwbl ond fel gweithiwr; weithiau yn weithiwr sydd ddim bellach yn weithiwr ond yn artist. Dro arall byddant yn cael eu defnyddio i ddangos perthynas rhwng y ddau; er enghraifft, gall yr artist fod o ddefnydd i frwydr y gweithiwr, neu y gall yr artist ddysgu o frwydr y gweithiwr. Gall ehangu ystyr y gair 'artist' i gynnwys gweithwyr artistig, y rhai sy'n glanhau, marchnata, adeiladu, dosbarthu, trefnu a hwyluso. Mae hefyd yn cydnabod llafur anweledig. Y gwaith di-dâl sy'n cefnogi bywyd bob dydd a'r posibilrwydd o weithio o gwbl. Mae'n fodd o ddechrau meddwl am sut i drefnu heb rannu gweithle, yng nghanol ansicrwydd a'r gig economy, ac ymelwa ar lafur anfaterol.
Mae'r artist fel gweithiwr yn fodd o gyfuno ystod eang o amcanion, nid yn unig fel safiad yn erbyn hierarchaeth sefydliadol, ond i ddatganoli sefydliadau yn gyffredinol ac i gefnogi bywydau creadigol sy'n mynd tu hwnt i ymgysylltu cymdeithasol i dir creu, ail-greu ac esblygu cymdeithasol.
Mae sefydliadu o bob math wrth reswm yn bwynt llosg heddiw, yn hawlio sylw wrth i ni ystyried dyfodol grym, arian a diwylliant gweledol. Fel modd o wneud bywoliaeth yn y 'sector creadigol', mae'n naturiol eu bod yn destun beirniadaeth, pan fo'u siarad am werthoedd blaengar yn aml yn cuddio staff wedi'u gorweithio a'u tan-dalu. Gyda chyflogau cyfarwyddwyr yn cynyddu, yn aml ymhell dros £100k, contractau ansefydlog a dim-oriau yn bla, a'r ymelwa ar bobl sy'n barod mewn perygl dan gyfalafiaeth hiliol a'u rhwystredigaeth a'u blinder cyffredinol, mae problem y sefydliad yn lle da i ddechrau. Mae ‘Gwaith Celf fel Gwaith: Herio Llafur’ gan Stephen Heinson yn cynnig beirniadaeth, gan edrych ar arferion llafur sy'n helpu i hwyluso a chyflawni'r gwaith ei hun. Mae'r traethawd yn amlygu sut mae'r system gelfyddydol yn ystyried, neu'n methu ystyried llafur anweledig, ac yn edrych ar y symud presennol tuag at gefnogi arferion celfyddydol cymdeithasol eu naws. Yn ‘Darlunio, Gwerin a Dyngarwch’ mae Jon Doyle yn mynd ati o gyfeiriad arall, gan edrych ar ddibyniaeth systemig sefydliadau cyhoeddus ar ddyngarwch – gweithredoedd ymddangosiadol haelfrydig sy'n aml yn tarddu o anghyfartaledd systemig, ymelwa cyfalafol a hanesion treisgar o echdynnu adnoddau.
Gyda'r faner a'r traethawd ategol ‘Ymateb i'r Pastwn Plismon’ mae She Elloise yn dogfennu'r gwahanol fathau o wrthryfela'n erbyn anghydraddoldeb, gan ystyried hanes protest yn y Gorllewin dan gysgod y Ddeddf Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd sy'n cael ei wthio drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd. Mae'r faner yn brotest ei hun, yn gelf fel gweithred uniongyrchol, fel y mae ‘Y Sgrifen ar y Mur: Cymunedau ar y Cyrion a Graffiti fel Gwrthsafiad’ gan Georgia Day yn dogfennu ffenomenon sticeri gwrth-TERF yng Nghaerdydd. Nid gwrthsefyll yn unig mae'r gweithredoedd celfyddydol hyn, ond maent yn helpu i gynnal y bobl mae nhw'n eu cefnogi, yn helpu i greu byd croesawgar lle gall y bobl hyn ffynnu. Rydyn ni'n gweld hyn fel cyfeiriad pwysig i newidiadau i rym ac arian yn y byd diwylliant gweledol: creu annibyniaeth, nid i artistiaid yn unig, ond i bawb.
Beau W. Beakhouse a Sadia Pineda Hameed
Tachwedd 2021