CYNFAS

Georgia Day
24 Tachwedd 2021

Y Sgrifen ar y Mur: Cymunedau ar y Cyrion a Graffiti fel Gwrthsafiad

Georgia Day

24 Tachwedd 2021 | Minute read

Mae graffiti'n bwnc llosg a dweud y lleia. Yw e'n gelf neu'n niwsans? Ddylai graffiti fod yn gyfreithlon? Ai fandaliaeth yw graffiti?

O be wela i, mae'r atebion i'r cwestiynau yma yn aml yn hollti ar hyd gwahaniaethau dosbarth a hil. Er enghraifft, os ydych chi'n wyn a dosbarth canol, rydych chi'n llawer mwy tebygol o ddifrïo waliau graffiti a meddwl eu bod nhw'n flêr, waeth pa mor gryf yw'r neges. Rydych chi'n llawer mwy tebygol o weld tag gwael ar wal a gresynu dros gymdeithas neu ysgrifennu colofn olygyddol am ymddygiad anghymdeithasol pobl ifanc. Mae rhywbeth am graffiti sy'n ennyn och a gwae.

Fel rhywun gafodd fy magu yn Lloegr mewn tref ddosbarth gweithiol wedi'i hamgylchynu gan faestrefi dosbarth canol a phentrefi cyfoethog, roedd fy ysgol yn gymysgedd. Plant gydag ail dŷ yn Ffrainc yn rhannu dosbarth â phlant tai cyngor, plant mewn gofal, a phlant teuluoedd oedd yn cadw dau ben llinyn ynghyd. Ond roedden ni i gyd yn cael ein dysgu o'r dechrau bod graffiti yn bla ar gymdeithas. Roedden ni'n cael ein dysgu am theori torri ffenestri, yn cael ein rhybuddio am peer pressure, ac yn gorfod gwylio fideos am blant yn difaru cael ASBOs.1 Panig moesegol am ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd y cyfan, ac fe ddysgodd i ni bod graffiti yn salw, bod graffiti yn frwnt, bod graffiti yn waith chavs gyda gormod o amser ar eu dwylo. Ond eto, byddai'r rhan fwyaf o'r athrawon yma wedi edrych ar waith Banksy a'i ddisgrifio fel celf llawn ysbrydoliaeth. Beth yw'r gwahaniaeth yn y bôn fal hyn? Gwleidyddiaeth? Pwy sy'n ei wneud ac ym mhle?

Tynnwyd y llun uchod gan y ffotograffydd David Hurn, ac mae'n dangos neges graffiti ar wal. Mewn llythrennau bras, mawr mae'n datgan 'THE BOYS ARE INNOCENT'. Heb gyd-destun, gallech chi feddwl taw rhywun yn mwynhau eu hunain baentiodd hwn, ychydig bach o fandaliaeth ysgafn oherwydd diflastod. Ond mewn gwirionedd mae hwn yn ddarn hynod wleidyddol.

Ar 14 Chwefror 1988 cafodd merch ifanc o'r enw Lynette White ei llofruddio'n giaidd yn nociau Caerdydd. Roedd wedi cael ei thrywanu ryw hanner cant o weithiau. Roedd yr achos a ddilynodd yn un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn y DU. Er gwaethaf tystiolaeth llygad dyst a welodd ddyn gwyn wedi'i orchuddio â gwaed gerllaw, arestiodd Heddlu De Cymru bum dyn ifanc Du a hil gymysg. Un o'r rhain, Stephen Miller, oedd cariad Lynette ar y pryd, ond doedd y lleill ddim yn ei hadnabod hi o gwbl, dim ond eu gilydd. Er nad oedd unrhyw wir dystiolaeth yn eu herbyn, cawsant eu dal yn y ddalfa am ddwy flynedd cyn achos llofruddiaeth hiraf y DU yn 1990. Cafodd dau – Ronnie a John Actie – eu dyfarnu'n ddieuog. Cafodd Stephen Miller, Tony Paris a Yusef Abdullahi eu dyfarnu'n euog a'u dedfrydu i oes o garchar. Diolch i ymgyrchu cyhoeddus diflino gan eu teuluoedd, cafodd y ddedfryd yn erbyn Tri Caerdydd ei gwyrdroi gan y Llys Apêl, a cafodd y tri eu rhyddhau ym 1992.2 Ond fe newidiodd y profiad fywydau'r pump a'u teuluoedd a'u ffrindiau am byth. Cafodd pobl go iawn gam o ganlyniad i hiliaeth strwythurol yn yr heddlu a chamweithredu.

Dyna gyd-destun y graffiti a gofnododd David Hurn i ni. Nid plant diflas yn cael hwyl, ond rhan o ymgyrch gymdeithasol daer i ryddhau tri dyn â'u bywydau wedi chwalu o ganlyniad i heddlu di-glem, llwgr, diegwyddor, a hiliol. Mae’r ysgrifen ar y wal hon yn datgan gwrthryfel. Mae'r graffiti yn wrthsafiad a her, wedi'i anelu at gynulleidfa sydd efallai yn oddefol – gweithwyr ar eu taith i'r swyddfa; pobl ifanc sy'n honni nad ydyn nhw'n wleidyddol; heddweision wrth eu gwaith bob dydd. Mae'n herio'r bobl hyn i ystyried cyd-destun y geiriau, ac yn codi ymwybyddiaeth o achos Tri Caerdydd heb eu henwi'n uniongyrchol hyd yn oed.

Ond mae'n llawer mwy na modd o godi ymwybyddiaeth. Mae'n neges o gefnogaeth. Nid yw David Hurn yn nodi pryd y tynnwyd y llun, ac nid yw'n glir pryd y cafodd y graffiti ei osod. Mae'n debygol ei fod yn rhan o weithred brotest benodol. Ym 1991 cynhaliwyd gorymdaith hanesyddol i ryddhau Tri Caerdydd. Cerddodd cannoedd o gefnogwyr a phrotestwyr o Drebiwt i garchar Caerdydd yng nghanol y ddinas, dan arweiniad y gweinidog Bedyddwyr o America a'r ymgyrchydd hawliau Du, y Parchedig Al Sharpton. Presenoldeb y Parchedig Sharpton a daeth ag ymgyrch y teuluoedd i sylw cenedlaethol, ac mae fideo archif o'r orymdaith yn dangos presenoldeb mawr newyddiadurwyr a heddlu. Heb ymdrechion yr ymgyrchwyr, mae'n anhebygol y byddai'r achos wedi cyrraedd y Llys Apêl. Efallai taw ffansi yw hyn ond mae'n hawdd dychmygu protestwyr, yn llawn balchder a chefnogaeth cymuned yn teimlo bod rhywun yn cydnabod eu galw am newid, yn bachu can o baent ar y ffordd adref ac yn creu'r neges sydd bellach wedi'i hanfarwoli yn y ffotograff. Mae'r bois yn ddieuog, ac mae'r gymuned hon yn gwybod hynny.

Cydsafiad. Gwrthryfel. Her. Mae'r cyfan yn cael ei gynrychioli mewn graffiti fel yr un yn ffotograff David Hurn. Ac nid hen hanes yw hyn chwaith. Mae'n digwydd hyd heddiw yr un modd. Wrth gyrraedd stesion Caerdydd Canolog, drwy ffenest y trên fe welwch chi'r neges 'KILL THE BILL' dan un o'r pontydd (y ddeddf dan sylw yw'r Ddeddf Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd sydd am leihau yn sylweddol ein hawl i brotestio, ynghyd â rhyddfreiniau eraill). Does gen i ddim llun ohoni, ond mae gweld y neges honno ger y stesion yn gwneud i mi wenu bob tro.

2

Ac mae mwy na graffiti erbyn hyn – mae symud wedi bod yn ddiweddar yn lleol at ddefnyddio sticeri i ledu negeseuon gwleidyddol a chymdeithasol. Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, efallai eich bod chi wedi gweld y rhain yn britho polion lamp ac arwyddion ffyrdd, ond os nad ydych chi wedi cael y fraint, gallwch chi eu gweld yn lluniau 2–4. Dwi wedi clywed nad yw e yn dechnegol, yn gyfreithiol, yn cyfri fel graffiti, ac felly mae perffaith hawl ganddoch chi yn ôl y gyfraith!3 Dwi wedi ceisio canfod tystiolaeth neu ddogfennaeth o hyn ac wedi methu – ond dwi heb gael i drafferth am y peth eto! Mae pobl yn yr ardal yn defnyddio pob math o sticeri i gyfleu negeseuon gwahanol. Dwi'n treulio gormod o amser yn tynnu sticeri ymgyrchwyr gwrth-frechu lleol, ond llawer mwy yn gosod rhai gyda negeseuon fel 'Kill the Bill', 'Mae Bywydau Du o Bwys', 'Croeso i Ffoaduriaid' ac ati. Beth bynnag fo'r neges, mae hwylustod a hygyrchedd sticeri finyl yn ymddangos fel esblygiad naturiol o bastio posteri gwleidyddol i waliau. Ac fe allwch chi ei wneud yng ngolau dydd, a heb ddenu golwg amheus.

3

Fy hoff sticeri i'w gosod a'u gweld yw rhai ar gyfer pobl sy'n agos iawn i nghalon: y gymuned trans a queer lleol. Mae digonedd o sticeri fel hyn, o negeseuon cefnogol syml, i in-jokes cymhleth ac eiconau diwylliant trans na fydd y teithiwr cyffredin yn ei ddeall.

4

Er enghraifft, yn llun 4, mae sticer sgwâr gan y 'trandal' (trans vandal) lleol N3ko, yn dangos cymeriad o Zombieland Saga gyda testun amryliw yn gweiddi 'SHUT THE FUCK UP TERF'. Fydd hyn ddim yn golygu llawer i rywun sydd ddim yn gyfarwydd â diwylliant queer a trans. Efallai eich bod chi'n gwybod taw ystyr TERF yw Trans-Exclusionary Radical Feminist, ac yn ei ddarllen fel neges gefnogol syml. Ond mae hefyd yn ddelwedd ddrwg-enwog mewn cymunedau lleol ac ar-lein. I dorri stori hir yn fyr, cafodd y meme ei anfon dros Twitter at yr AS SNP Joanna Cherry, wnaeth ei brintio ar bapur a mynd â chopi gyda hi i gyfarfod y Pwyllgor Hawliau Dynol yn San Steffan fel rhan o ddadl nad yw Twitter yn gwneud digon i warchod menywod yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae hyn yn ddoniol ar sawl lefel – yn gyntaf am nad yw'r meme yn bygwth trais mewn unrhyw fodd, a bod angen canolbwyntio fwy ar y bygythiadau go iawn a manwl i lofruddio y mae gweinidogion yn eu derbyn yn gyson. Mae hefyd yn ddoniol am ei fod yn syniad chwerthinllyd y gellid dadlau bod hwn yn fygythiad credadwy gan berson trans i Aelod Seneddol sy'n defnyddio ei safle grymus i ormesu cymuned sydd ar y cyrion. Mae difrïo ar-lein yn fater difrifol, yn yr achos hwn, yr AS sydd â sedd ar y Pwyllgor Hawliau Dynol sydd â'r llaw uchaf.

Mae sticeri hawliau trans i'w gweld mewn sawl cyd-destun arall yn lleol, ac mae'r ffaith taw shitposts ar bolion lamp yw cymaint o'r rhain mewn gwirionedd yn dangos taw dangos cefnogaeth yw eu bwriad yn gymaint â chodi ymwybyddiaeth. Nid bwriad y sticeri hyn yw newid meddwl unrhyw un, neu godi unrhyw ymwybyddiaeth hyd yn oed. Yn syml, mae nhw'n arwydd o gefnogaeth i bobl queer a trans. Mae'n fodd o ddangos bod y gymuned yn lle diogel i bobl trans fod yn nhw'u hunain, i atgoffa pobl trans bod pobl yn eu caru, nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, ac i ddangos llawenydd a chreadigrwydd sy'n rhy aml ynghudd. Nid trasiedi yw bywyd trans, ac mae'r sticeri hyn yn fynegiant hy o lawenydd queer mewn hinsawdd gwleidyddol sy'n gynyddol elyniaethus tuag at bobl trans ac anneuaidd.

Mae'r sticeri sili hyn yn fy atgoffa i nad ydw i ar ben fy hun. Dwi'n rhan o gadwyn hir o bobl ar y cyrion sy'n defnyddio celf stryd i brotestio, cydsefyll a grymuso.

Ewch iddi!


Mae Georgia yn sgwennwr a myfyriwr cwiar yng Nghaerdydd, sydd ar hyn o bryd yn astudio at eu MTh. Maen nhw’n arbenigo mewn theoleg cwiar a chasglu planhigion y tŷ. Yn eu hamser sbâr, mae Georgia yn mwynhau pobi, garddio, a threulio amser gyda’u cariad! Fe allwch chi ddilyn eu hanesion ar Twitter trwy @GeorgiaTDay2 neu ar Instagram @georgiatheday.



Nodiadau

1 Dyw ASBOs ddim hyd yn oed yn bodoli heddiw!

2 Dyna hanes bras achos cymhleth iawn, ac rwy'n argymell i chi wylio cyfres ddogfen dair rhan BBC2 am yr achos A Killing in Tiger Bay (2021) am olwg llawer mwy manwl ar yr achos, gan gynnwys cyfweliadau gyda nifer o'r rhai a gyhuddwyd a sain o'r cyfweliadau heddlu gwreiddiol.

3 Roedd achos diddorol yn ddiweddar yn Rhydychen pan farnodd yr heddlu lleol bod sticeri hynod atgas yn erbyn pobl trawsryweddol yn drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, ond nid yw hyn yn gosod cynsail (na chwaith yn dweud dim am y sticeri cefnogol i bobl trans sydd wedi eu gosod i ymateb i'r casineb. http://stickersagainsthate.com/ https://www.telegraph.co.uk/news/2019/10/14/police-response-transphobic-stickers-branded-extraordinary/


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this