Mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cael ei gyfri'n aml fel esiampl berffaith o'i ddelfryd o'r Ffrancwr gwerinol, gwledig. Saif gŵr a gwraig gyda'i gilydd, â'u plentyn o'i blaen yn ymestyn ei freichiau i'w tynnu'n agosach fyth. Galwodd y paentiwr Walter Sickert y teulu yn 'ŵr gwych a gwraig gref' wrth ddisgrifio sut mae'r ffigurau yn syllu o'r cynfas 'gydag urddas cymesur caryatid'.1 Dywed Sickert fod y plentyn yn 'faban Samson, yn dangos cryfder pileri'r tŷ hwn'. Tu ôl i'r lliwiau pŵl a'r wisg gyffredin, roedd hwn yn deulu o gryfder a phwysigrwydd Beiblaidd, yn archdeip o genedl gywir, urddasol.
Mae'n bosib taw Jean-François ei hun yw'r plentyn. Cafodd ei fagu ym mhentref Gruchy ger arfordir Normandi, a gadawodd ei astudiaethau cynnar i helpu ar fferm y teulu. 'Dechreuodd weithio gyda'i dad a'r gweision,' meddai ei fywgraffiadydd, Alfred Seiser, 'i ladd gwair a'i gynaeafu, clymu'r ysgubau, dyrnu a gwyntyllu, chwalu tail, aredig a hau.' Treuliodd ei blentyndod yn rhan o'r byd gwerinol a ddaliodd ei ddychymyg yn ddiweddarach yn ei yrfa. Er i Millet symud i astudio paentio yn Cherbourg, ac yna i Baris i ddysgu wrth lin Paul Delaroche yn yr École des Beaux-Arts, anghofiodd erioed ei gysylltiad â'r wlad. Ymsefydlodd yn y diwedd yn Barbizon, yng Nghoedwig Fontainebleau, a chanolbwyntio am fwyafrif ei yrfa ar Realaeth newydd. Yn wahanol i ddisgyblion eraill arddull Barbizon, oedd yn canolbwyntio ar y tirlun yn unig, trodd Millet ei olygon at y bobl oedd yn gwneud eu bywoliaeth ar y tir gan gyfleu caledi ac urddas eu bywydau.
Y Teulu Davies
Prynwyd Y Teulu Gwerinol ym 1911 gan Margaret Davies, wyres y diwydiannwr Fictoraidd David Davies: dyn y gellir cymharu dyrchafiad ei statws â dyrchafiad Millet. Dechreuodd David Davies ei yrfa yn trin tir y teulu, ond anelodd yn uwch, gan ddechrau drwy adeiladu pontydd, rheilffyrdd a ffyrdd, cyn dod yn un o yrwyr pennaf y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda ac adeiladu dociau'r Barri. Erbyn iddo farw ym 1890 ei gwmni, Ocean Coal Co. Ltd., oedd y mwyaf llwyddiannus yn ne Cymru, a daeth y Barri yn brif allforiwr glo y byd.
Etifeddodd Margaret ei gyfoeth enfawr, ynghyd â'i brawd David a'i chwaer Gwendoline. Daeth y tri yn enwog am eu haelioni, yn noddi mentrau iechyd cyhoeddus i ddiddymu'r fogfa ac ariannu nifer o sefydliadau diwylliannol. Cefnogodd David y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, tra bo Margaret a Gwendoline yn cynnig rhoddion i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Buan y dechreuodd y chwiorydd eu casgliad celf eu hunain, gan brynu gweithiau gan Turner, Monet a van Gogh, yn ogystal â nifer gan Millet, gan gynnwys Y Teulu Gwerinol. Ar ôl gweithio mewn cegin ar y ffrynt yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma'r ddwy yn dychwelyd i Gymru gyda sbardun newydd i helpu'r dynion a ddioddefodd y fath erchyllter. Prynodd y chwiorydd Blas Gregynog yn Sir Drefaldwyn a'i weddnewid yn ganolfan greadigol yn y gobaith o gyfoethogi bywydau pobl Cymru a dyrchafu statws artistig y wlad. Roedd yn galluogi iddyn nhw blethu eu diddordeb mewn celf gain a'u mentrau dyngarol, a dangos chwaeth wrth ddyrchafu cymdeithas. 'Roedd y plant Davies ifanc yn ymwybodol iawn bod eu cyfoeth wedi'i adeiladu ar draul llafur gwerin Cymru' meddai'r bywgraffiad ar wefan Gregynog, 'ac yn gynnar iawn daethant i deimlo bod dyletswydd arnynt i "roi rhywbeth yn ôl".'
Sut gall y Cyfoethog Achub y Byd
Nid y teulu Davies oedd yr unig gymwynaswyr. Dan arweiniad lleidr-farwniaid America – diwydianwyr digyfaddawd fel like John D. Rockefeller, Andrew Carnegie a Henry Ford – roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn oes aur i ddyngarwch. Roedd yr enillion treth yn sbardun mae'n siŵr, ond rheoli delwedd gyhoeddus oedd yn eu denu mewn gwirionedd. Boed drwy fwriad sinigaidd neu anesmwythyd gwirioneddol am eu sefyllfa freintiedig, defnyddiodd y cefnog ddyngarwch i gyfiawnhau eu cyfoeth, gan leddfu eu cydwybod eu hunain a thawelu gweddill y boblogaeth oedd yn gweithio drostynt.
Yn ôl Mikkel Thorup, mae gwthio'r syniad 'bod, neu y gall cyfalafiaeth fod yn annatod o elusennol' yn fodd i atgyfnerthu'r system gyfalafol. Aralleiriodd Thorup un o ddywediadau llywydd General Motors er mwyn amlygu'r syniadaeth sydd wrth graidd cyfalafiaeth ddyngarol: 'Mae'r hyn sydd o fudd i'r cyfoethog o fudd i'r tlawd (ond nid i'r gwrthwyneb mae'n siŵr).' Mae'r syniad yn un o gonglfeini goruchafiaeth cyfalafiaeth heddiw. Mae cyfalafiaeth yn helpu i ddatblygu addysg a threchu afiechyd, felly wrth reswm rhaid taw dyma'r system orau, a'r unig system. Mae dyngarwch yn bosib o ganlyniad i hierachaeth ac anghydraddoldeb cyfalafiaeth, ond dyma'r union resymau mae angen amdano yn y lle cyntaf. Drwy barhau i esgus bod eu gwaith yn gwbl bositif a didwyll, mae cyfalafwyr dyngarol yn ceisio (boed yn fwriadol neu beidio) i guddio rôl cyfalafiaeth wrth greu'r union broblemau y maent yn ceisio eu taclo. Dyma gyfalafiaeth wedi ei ailffurfio fel grym haelfrydig, llesol dan law'r Meseia cefnog er budd gwerin druenus. Fersiwn o'r byd lle nad yw'r lleidr-farwniaid yn lladron o gwbl, ond 'yn ffrind i'r tlawd, o bosib ei unig ffrind' yng ngeiriau Thorup.
Caiff y syniad hwn ei ailadrodd gan ddyngarwyr ledled y byd, yn aml drwy lednais delfrydol neu swyno ymbilgar. Ond weithiau, bydd rhywun yn lleisio’r geiriau tawel hyn, ac mae'n bosib taw'r llais cryfaf oedd Mathew Bishop yn ei faniffesto o 2008 Philanthrocapitalism: How the Rich Can Save the World. 'Os nad yw'r cyfoethog yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn,' medd Bishop wrth drafod yr angen i roi i achosion da, 'maen nhw mewn perygl o ennyn ymateb gwleidyddol gan y cyhoedd yn erbyn y system economaidd sy'n galluogi iddynt ddod mor gyfoethog'. Mae'r frawddeg yn datgelu gwirionedd isdeitl y llyfr. Nid yw'r weithred o 'achub y byd' yn golygu gweithio at iwtopia yn rhydd o afiechyd a dioddefaint. Yn hytrach, mae'n gwrthwynebu newid, yn broject cadwraeth i gadw'r byd yn ei sefyllfa bresennol, a chadw'r system sy'n galluogi'r pwerus i gronni cyfoeth yn ddi-baid.
Mae'r syniadaeth yng ngeiriau Bishop yn greiddiol i hanes y Gorllewin. Mae Anne O'Brian yn disgrifio yn Philanthropy and Settler Colonialism sut y defnyddiodd Prydain y syniad o garedigrwydd ac elusen i gyfiawnhau ei choncro ymerodrol. Gorchmynnodd y Brenin Siôr III i Capten Cook 'feddiannu' Awstralia, ond 'gyda chaniatâd y brodorion' a'i fod i 'ymdrecfhu drwy bob modd cywir i feithrin cyfeillgarwch a chynghrair â nhw'. Rhan o'r gwaith hwn oedd dyngarwch - gweithredoedd oedd yn disgwyl ad-daliad (rhoi nawr er mwyn cymryd yn ddiweddarach). Yn waeth byth, roedd cyfleu eu gweithredoedd fel rhai haelfrydig yn galluogi Prydain i gyfiawnhau eu syniadaeth hiliol o oruchafiaeth. Dywed O'Brien fod ymatebion amwys y 'brodorion' i'r rhoddion a'r cyfleodd i fasnachu yn cadarnhau eu statws fel pobl 'anwar'.
Mae teitl cyfrol Anand Giridharadas, Winners Take All yn addas iawn am waith sy'n dadlau fod perthynas ymelwol wrth galon unrhyw ddyngarwch. Mae Giridharadas yn dyfynnu Sean Hinton, cyn ymgynghorydd i McKnisey, Goldman Sachs a'r grŵp mwyngloddio Rio Tinto ac sydd bellach yn gyfarwyddwr Sefydilad Open Society George Soros, sy'n disgrifio dyngarwch fel 'Ceisio-Datrys-y-Broblem-gyda'r-Offer-Achosodd-y-Broblem'. Yn hytrach na lleddfu trais coloneiddio, mae dyngarwch yn estyniad uniongyrchol ohono. Mae'n 'barhad' medd Hinton 'o ryfyg gwladychol, ymerodrol y dyn gwyn goleuedig gydag arian a gwyddoniaeth'. Ond yn fwy na ffolineb y gwaredwr gwyn, mae dyngarwch yn gwarchod asedau'r sawl sy'n ei arfer. 'Sylfaen dyngarwch traddodiadol yw gwarchod cyfoeth' medd Edgar Villanueva yn Decolonizing Wealth, 'a bod cyfoeth yn y bôn yn arian sydd wedi ei ddwyn ddwywaith, y tro cyntaf drwy ymelwa ar adnoddau naturiol a llafur rhad, ac eilwaith drwy osgoi treth'.
Mae Giridharadas yn defnyddio'r teulu Sackler fel esiampl amlwg o'r dacteg ddichellgar hon. Y teulu Sackler a sefydlodd Purdue Pharma, gan ddatblygu a marchnata yn ffyrnig gyffuriau lleddfu poen caethiwus sy'n greiddiol i'r epidemig opioid yn yr Unol Daleithiau heddiw. Mae cannoedd o filoedd wedi marw, ac yn parhau i farw wedi cymryd gorddos, ond mae'r teulu Sackler yn parhau gyda'r cyfoethocaf yn y wlad ac yn arddel eu henw da drwy ddyngarwch. Mae nhw wedi ariannu llochesi i'r digartref, theatrau, sŵs môr a llyfrgelloedd, yn ogystal â sefydliadau sy'n 'annog datblygiad iach pobl ifanc drwy leihau ymddygiad peryglus, megis camddefnyddio cyffuriau'. Mae nhw'n parhau i werthu OxyContin law yn llaw â'r gwaith hwn, ac mae Purdue Pharma hyd yn oed wedi marchnata meddyginiaeth i well a thrin dibyniaeth, gan elwa o'r frwydr yn erbyn y broblem mae hw'i hunain wedi ei chreu.
Fe roddodd y teulu Sackler yn hael iawn i'r celfyddydau, ac roedd un yn ddefnyddiol iawn yn arddel eu henw da. Rhoddodd y teulu symiau mawr i amgueddfeydd, orielau a phrifysgolion ledled y byd, a daeth eu henw mor fawr yn y byd celfyddydol â'r byd cyffuriau (mae adain gyfan yn Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd yn dwyn eu henw). Roedd nawdd y teulu Sackler ymhell y tu hwnt i nawdd y teulu Davies, ond mae'r tebygrwydd rhwng y ddau deulu yn pwysleisio pa mor gyffredin yw'r arfer - teuluoedd wnaeth elwa o ddiwydiannau marwol yn ail-greu eu gwaddol drwy ymwneud â'r celfyddydau.
Nawdd Moesegol?
Wrth i gymdeithas y Gorllewin fynd i'r afael yn araf â'i gorffennol trefedigaethol, mae sefydliadau diwylliannol wedi dod dan y chwyddwydr. Mae grwpiau fel ‘Decolonize This Place’ a ‘BP or not BP?’ wedi herio amgueddfeydd ac orielau i ailystyried cysylltiadau â phartneriaid neu ymddiriedolwyr sy'n gwneud arian o ymelwa, ac yn amlygu sut y gall enw da a chyfoeth gael ei 'lanhau' drwy'r fath berthynas. Ac mae'r protestiadau yn rhoi sefydliadau mewn sefyllfa anodd. Fel y mae dyngarwch yn hybu cyfalafiaeth fel yn unig system bosib, felly hefyd mae'n cyfleu ei hun fel yr unig fodel realistig ar gyfer sefydliadu diwylliannol. Gyda dyfodol cymaint o sefydliadau yn ddibynnol ar nawdd preifat, gall codi arian anfoesegol fod yn rheidrwydd anghysurus. Mae hyn yn amlygu strwythur grym cyfoeth, ac yn dangos sut mae dyngarwch yn methu â herio anghyfartaledd, ac yn wir yn eu hatgyfnerthu. Ein ffordd ni neu ddim o gwbl yw hi.
Ond sut hefyd mae diffinio nawdd 'anfoesegol'? Oes yna raddfa o ddyngarwyr, o'r haelfrydig i'r maleisus? Ble fyddech chi'n gosod y teulu Davies neu'r teulu Sackler? Mae awgrymu bodolaeth dyngarwyr 'da' yn awgrymu bod natur ymelwol adeiladu cyfoeth yn wall moesegol mewn lleiafrif 'gwael', ac nid yn rhan annatod o'r broses. Mae Giridharadas yn dyfynnu’r athronydd o'r Eidal, Chiara Cordelli, sy'n diffinio 'gweithredwyr gweithredol' a 'hwyluswyr goddefol' niwed. Gellid ystyried teulu Sackler, sy'n ymelwa'n uniongyrchol ar yr amodau y maent wedi eu creu, yn y grŵp cyntaf. Mae'n debyg bod y chwiorydd Davies, ddwy genhedlaeth o'r broses o gasglu cyfoeth, yn yr ail grŵp. Ond dadl Cordelli yw bod y ddau grŵp yn cyflawni'r un weithred foesegol. 'Law yn llaw â'r weithred o helpu oedd y weithred o dderbyn.' Mae hi'n cyffelybu'r hwyluswyr goddefol i berchnogion paentiad sydd wedi cael ei ddwyn. Efallai i'r paentiad gael ei ddwyn ymhell cyn iddynt ei brynu, yn hollol ddiarwybod o'r drosedd, ond os yw hanes y gwaith yn cael ei ddatgelu a'r gwir berchnogion yn hysbys, mae Cordelli yn dadlau 'bod rheidrwydd moesegol arnoch i'w ddychwelyd'. 'Efallai hyd yn oed i ymddiheurio [...] a chydnabod bod gennych chi rywbeth sy'n ffrwyth yr anghyfiawnder hwnnw.'
Drwy adael cyfran helaeth o'i chasgliad yn gymynrodd i Amgueddfa Cymru, aeth Margaret Davies gryn ffordd at gydnabod hynny. Ond er bod gweithred o'r fath yn gwneud yn iawn i raddau, nid yw'n cyfiawnhau parhau â'r model, ac un rheswm yw nad oes unrhyw reolaeth gyhoeddus ar sut a phryd y gwneir yn iawn. System sydd, yn ngeiriau Naomi Klein yn No is Not Enough, 'yn troi at y biliwnyddion i ddatrys problemau roedden ni'n arfer eu datrys drwy gydweithio a sector cyhoeddus gref'. Mae newid gwirioneddol yn amhosib dan y fath amgylchiadau. Mae cyfalafiaeth ddyngarol yn cael ei gyflawni ar delerau'r cyfoethog bob tro, ac wedi'i wreiddio yn yr un systemau sy'n gyrru anghyfartaledd a dioddefaint. Pan ddisgrifiodd Sickert y cwpwl ym mhaentiad Millet yn sefyll 'gydag urddas cymesur caryatid' roedd yn cyfleu delwedd berffaith o'r dosbarth gweithiol yn y system gyfalafol - gwrthrychau mud yn ysgwyddo baich y strwythur a adeiladwyd uwch eu pennau. Er ei holl addewidion, ni fydd dyngarwch yn esmwytho'r baich hwn am ei fod ei hun yn dibynnu ar y pileri hyn.
Mae Jon Doyle yn sgwennwr sy’n byw ym Mhort Talbot. Mae ganddo sawl gradd o Brifysgol Caerdydd a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Gallwch ddysgu ymhellach am waith Jon ar Twitter fel @Jon_Doyle neu drwy ei wefan: jon-doyle.co.uk