Mae cymryd rhan yn Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i'r Nawr – project mentrus sy'n creu argraff i gefnogi artistiaid i greu gwaith newydd – wedi gwneud i mi deimlo braint o gael fy newis.
Bwriad y project oedd rhoi cefnogaeth i artistiaid – drwy ddarparu nawdd ar gyfer adnoddau ac offer, i deithio i orielau ac amgueddfeydd, a threulio amser yn y stiwdio – er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu gwaith. Llwyddais i fuddsoddi mewn odyn a silffoedd newydd er mwyn gallu gweithio yn fwy effeithiol ac effeithlon yn y stiwdio. Roedd yn hyfryd hefyd gallu teithio i ymweld ag amgueddfeydd ac orielau ar ôl bod dan glo cyhyd yn ystod y pandemig. Fe fanteisiais i'r eithaf ar y cyfle, gan ymweld ag amgueddfeydd Pitt Rivers ac Ashmolean yng Nghaergrawnt, MOMA Machynlleth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe gawson ni gefnogaeth mentoriaid gwych hefyd.
Fel aelod o'r project, cefais fynediad at y casgliad cerameg yn Amgueddfa Cymru dan arweiniad Andrew Renton, y Pennaeth Casgliadau Dylunio. Roedd yn brofiad unigryw gallu treulio amser gydag Andrew a chael golwg newydd ar y casgliad cerameg o'i safbwynt ef. Ymhlith ei gyfrifoldebau mae rhoi arweiniad deallusol i gelf weledol a chymhwysol gan sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cael ei chydnabod fel canolfan o safon rhyngwladol am ei chasgliadau, ei hymchwil, a'i henw da a'i dylanwad cyhoeddus. Roedd e felly yn edrych ar gerameg o safbwynt gwahanol iawn i fi. Un darn penodol dyma ni'n edrych arno oedd Y Deg Grochymyn gan y cerflunydd o Brydain, Nicholas Pope. Mae artistiaid gyda chefndir yn y maes cerameg yn aml yn canolbwyntio ar gywirdeb techneg a'r gwaith gorffenedig, tra bydd artistiaid heb yr hyfforddiant hwnnw yn rhoi llai o bwys ar dechneg a phroses a defnyddio gwahanol effeithiau gwahanol gamau'r broses, fel pan fydd gwydredd heb aeddfedu.
Fel artist cerameg cysyniadol, rydw i'n aml yn cwympo rhwng dwy stôl, o ganolbwyntio'n ormodol ar y dechneg gywir a cholli'r effeithiau a grëwyd ar y daith. Yr hyn a ddysgais i yn fy amser gydag Andrew yn Amgueddfa Cymru yw nad yw casglwyr a churaduron yn poeni hanner cymaint am broses a thechneg â chrochenyddion. Dwi'n teimlo fod y perspectif newydd hwn wedi rhoi rhyddid i mi i ddefnyddio effeithiau'r broses ar wahanol gamau.
Cefais i fynedaid ac y casgliad cerameg hefyd yn Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y tro hwn diolch i Louise Chennell, y Curadur Cerameg. Fe gawson ni drafodaeth ddiddorol am sut y mae artistiaid cerameg/crochenyddion yn trefnu eu hamser o gwmpas eu teuluoedd, o gofio bod creu cerameg yn broses hir a drud. Roeddwn i'n eiddgar iawn i drafod sut y gall artistiaid ddychwelyd at eu gwaith ar ôl magu teulu, testun roedden ni'n dwy â diddordeb ynddo.
Ar gyfer y project hwn dyma fi'n cofnodi myfyrdodau amrywiol pobl am Covid-19 a'r cyfnod clo. Fy syniad gwreiddiol oedd creu gosodwaith modwlar wedi'i hongian ar wal yn seiliedig ar waith Mira Schendel a llyfr o haenau o glai tenau fel papur. Datblygodd y syniad hwn i ymgorffori braille fel elfen gyffyrddol, yn ogystal â chyfeiriadau at Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2021 (COP26) o gofio'r berthynas agos rhwng y pandemig a'r cwestiynau amgylcheddol sy'n cael eu codi ar hyn o bryd. Roedd cael fframwaith amser i ddatblygu technegau yn sbardun ac yn rhyddhad mawr, yn ogystal â'r cymorth ariannol i brynu deunyddiau i arbrofi â nhw.
Yn rhan o'r project dyma'r artistiaid yn meddiannu cyfrifon Instagram y Cyngor Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru, gan ddangos gwaith pob un o'r artistiaid ar y project a rhoi llwyfan i ni ddangos ein gwaith i'r cyhoedd ar-lein. Roedd yn agoriad llygad i fi ar fuddsoddi amser i'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fy ngwaith.
Roedd hi'n fraint cael cyfrannu at y project. Fe ges i fudd mawr ohono, a gobeithio y caiff projectau tebyg eu cefnogi yn y dyfodol er mwyn i eraill elwa o brofiadau amhrisiadwy.
'Beth hoffais i am dy waith ar gyfer y project diweddar oedd ei fod yn cyfleu diflastod y cyfnod clo drwy ddefnyddio gwyn i gyd, ond wedyn mae newid cynnil mewn cysgodion a phatrymau yn ymddangos wrth i fi gau allan unrhyw ymyrraeth a dechrau sylwi ar bethau gwahanol.'
Sylw gan Gwenllian Lewis