CYNFAS

Mia Roberts
15 Rhagfyr 2021

She let me play the organ

Mia Roberts

15 Rhagfyr 2021 | Minute read


Person traws-fenywaidd 27 oed ydw i yn byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru. Dwi'n nodi hyn am fod fy ngwaith yn hynod bersonol, ac wedi'i ysbrydoli gan gymysgedd o brofiadau personol ac eilaidd. Mae fy ngwaith yn ymwneud â'r straeon sy'n esblygu ym microddiwylliannau trefi bach gogledd Cymru, y math o straeon oedd o nghwmpas yn tyfu fyny ac sydd ar yr olwg gyntaf heb gyswllt uniongyrchol ag unrhyw un y tu hwnt i'r cymunedau hyn, ond eto, yma maent yn hynod bwysig ac yn llywio tirlun cymdeithasu. Mae fy ngwaith wedi'i wreiddio yn fy mhrofiadau bob dydd, gan gyffwrdd â rhywioldeb, gwrywdod, iechyd meddwl, dibyniaeth, trais a gwleidyddiaeth.

Drwy gydol y project rwyf wedi bod yn gweithio ar gerfwaith mawr. Drwy gyfrwng cymeriadau gwahanol mae'r gwaith yn trafod trawsnewid a'r newidiadau hormonaidd cysylltiedig, marwolaeth a salwch aelodau'r teulu, marwolaethau covid lleol, a theimladau o glawstroffobia ac unigedd. Mae'r gwaith hefyd yn edrych ar y positifrwydd a'r hapusrwydd sydd i'w gael mewn grwpiau lleol. Mae'n ddelwedd o bopeth – a sut y mae positif a negatif i fywyd ar yr un pryd. Fy ngobaith yw y bydd y gwaith yn dangos prydferthwch byw, er bod y rhan fwyaf o fywydau wedi newid am byth. Digidwyd y cerfwaith er mwyn ei rannu gyda chi yma, ond gobeithio ryw ddydd y gall gael ei arddangos gan taw drwy gyffwrdd, teimlo a gweld y cerfwaith y mae ei brofi yn llawn.

Yn ogystal â'r cerfwaith, rydw i wedi bod yn casglu myrdd o ddefnyddiau – delweddau, fideo a sain. Drwy recordio fy mhrofiadau lleol bob dydd, fy ngobaith yw dangos sut caiff fy nghelf ei lywio gan haenau aflin ac amlweddog prosesau a bywyd. Fy mwriad yw gwneud hyn heb eiluno, swynoli neu aflunio bywyd mewn unrhyw fodd.

Yma rydw i'n rhannu fideo a recordiadau sain, a gallwch weld lluniau ar fy nghyfrif Instagram.


Share


More like this