Wrth baratoi ar gyfer sgwrs artist gydag Oriel Glynn Vivian cefais i sgwrs â'r artist marc Rees am themâu fy mhroject Malum, oedd yn cael ei ddangos ar y pryd yn yr oriel. Yr hyn ddaeth i'r amlwg yn gyflym oedd ansicrwydd am agweddau ffeithiol, hanes celf y project. Roedd dyddiadau, enwau a pherthnasau yn rhai o'r ffactorau oedd yn cyfyngu a llywio yr hyn oeddwn i'n ei greu a pham, ond hefyd yn arwain y drafodaeth i ffwrdd o'r materion yn y gymuned LHDTQ+ yr oeddwn i'n ceisio eu hamlygu. Wnaeth y sgwrs gyda Glynn Vivian ddim mynd rhagddi yn y diwedd, ond roedd y drafodaeth gyda Marc yn ailddechrau gwerthfawr ac yn hwb i'r cyfeiriad cywir i greu gwaith newydd. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach cefais i fy enwebu ar gyfer project Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i'r Nawr – amseru perffaith!
Ddiwedd 2020 fe symudais i 'nghartref cynta gyda fy mhartner, tŷ pen-teras bach yn Abertawe. Fel nifer o artistiaid sy'n meddiannu gofod newydd – tŷ, stiwdio, gwlad hyd yn oed – fe deimlais i'r angen i ymateb i'r lle newydd hwn, a myfyrio ar sut fyddai dau ddyn hoyw yn trefnu eu hunain a'u heiddo mewn cartref. Gofynnodd rhywun gwestiwn, 'Beth yw gofod domestig queer, a sut mae'n wahanol i (stereoteip o) ofod domestig heteroarferol?'.
Dechreuais i feddwl am yr hyn sy'n diffinio fy nghartref, a'i ddogfennu drwy gyfrwng proses ffotograffig gynnar o'r enw Colodion Plât Gwlyb, gan gynhyrchu tinteipiau gyda chamera fformat mawr:
- Gorchuddio plât alwminiwm du â colodion (dwi'n defnyddio Poe Boy).
- Gosod y plât mewn blwch Sensiteiddio Arian yn llawn Toddiant Arian Nitrad am 3 munud. Mae hyn yn creu plât sy'n sensitif i olau sy'n rhaid ei drin dan olau coch.
- Tynnu'r plât o'r blwch, sychu'r cefn a gadael i'r gormodedd o doddiant arian nitrad ddiferu i ffwrdd, cyn ei osod mewn daliwr a'i osod mewn camera fformat mawr 5x4.
- Datguddio'r plât, fel arfer am 10-15 eiliad.
- Tynnu'r plât o'r camera ac arllwys cemegyn datblygu drosto – bydd delwedd yn ymddangos yn raddol.
- Gosod y plât mewn cemegyn sefydlu, sy'n adweithio â'r arian nitrad a chlirio'r plât i ddatgelu'r ffotrograff. Sychu'r plât.
Mae'r delweddau Tinteip yn wrthrychau ariannaidd, prydferth sy'n rhoi dimensiwn newydd i'r ffotograffau, ac yn awgrymu'r posibilrwydd o osodwaith. Roedd hefyd yn teimlo'n bwysig i ddefnyddio fformat dogfennu sydd â phresenoldeb materol cryf. Rhywbeth arbennig o ddiddorol oedd y decanter gwydr, oedd yn gwrthod cael ei gofnodi ar y lens. Efallai y gallwn i fod wedi addasu'r goleuo a defnyddio cefndir gwahanol i gael llun gwell o'r cedanter, ond mae rhywbeth hyfryd o annaearol amdano sy'n awgrymu presenoldeb ysbrydol yn y cartref – presenoldeb fy mam-gu efallai? Mae Ann, fy mam-gu, wedi llenwi ei chartref â gwrthrychau gwydr a chrisial – gwydrau, llestri a cherfluniau – a'r gwir yw bod llawer o bethau yn fy nghartref i sy'n fy atgoffa i o Mam-gu a Dad-cu. Dwi'n cael fy nenu at rygiau patrymog trwm, soffas lledr, defnydd moethus a lliwiau cyfoethog fyddai'n gweddu'n berffaith i gartref Mam-gu a Dad-cu. Portread o Mam-gu sydd isod, wedi'i dynnu ar ffilm lliw 5x4 Kodak: Mae Mam-gu wedi gweithio fel gwniadwraig drwy gydol ei bywyd, mewn ffatrïoedd ac yn annibynnol yn ei stafell wnïo. Dwi'n cofio'n blentyn mynd i'w chaban gwnïo yn yr ardd oedd yn orlawn o ddefnyddiau ac offer – rhywbeth fyddwn i heddiw yn ei ystyried yn stiwdio artist. Mae'n bosib fy mod i, wrth wneud fy nhŷ yn ofod diogel, cyfforddus, yn cael boddhad o ail-greu rhyddid creadigol tŷ Mam-gu a Dad-cu. Recordiais i Mam-gu yn fy nhywys i o gwmpas ei chartref, yn siarad am ei nodweddion, yr hyn sy'n bwysig iddi hi, penderfyniadau cyffredinol a hanesion y gwrthrychau yno. 'Dwi'n bendant yn credu fod hynna'n wych. Mae nhw'n cael te parti. Yr hyn dwi'n hoffi amdano yw... roedd y person wnaeth ei werthu i fi yn ei alw yn The Old Gents ... Roeddwn i eisiau'r un mwyaf. [Beth ydych chi'n ei hoffi amdano?] Y ceinder, a'r holl oleuadau, y tebotau arian, gwisg y menywod. Edrych ar y blodau o gwmpas y bwrdd a'r lampau. Mae pwy bynnag huliodd y bwrdd yna wedi ei wneud yn berffaith. Dyna pam, pan fydda i'n hulio'r bwrdd amser Nadolig, y bydda i'n rhoi'r pethau sgleiniog i gyd ar y bwrdd.' Does dim dwywaith fod gan Mam-gu atyniad mawr at y ddelwedd, ond yn fwy at ffantasi'r ddelwedd a sut mae hi'n dychmygu ei hun yn gweddnewid ei gofod hi dros y Nadolig. Mae'r ddihangfa drwy ddefnydd a naws yn debyg iawn i'r hyn rydw i'n gwneud yn fy nghartref fy hun. “Ti'n meddwl bo nhw'n gwybod bo ni'n hoyw?” – cwestiwn a ofynnodd fy mhartner, Dylan, i fi ddechrau 2021. Wrth eistedd yn ein hystafell fyw dyma ni'n clywed crafu wrth y drws a gweld cysgod person ifanc. Fe waeddais i, a rhedodd y cysgod i ffwrdd. Agorais i'r drws a gweld math o biben blastig yn sownd yn y twll llythyrau. Roedd y person ifanc wedi ceisio ei gwthio drwodd. Roedd y cwestiwn yn syml ond yn bwysig, oedd y person ifanc yna'n gwybod ein bod ni'n hoyw? Yn ddiddorol iawn mae'r cwestiwn yn bwysicach na'r ateb (efallai na chewn ni ateb fyth). Dwi'n cymryd nad oedd y person yn gwybod ein bod ni'n gwpwl hoyw a taw dim homoffobia oedd y sbardun. Ond mae'r ffaith bod hwn yn gwestiwn y bydd dyn hoyw 29 oed yn ei ofyn yn dangos sut rydyn ni'n teimlo mae cymuned yn ein gweld ni, a'r posibilrwydd o ymddygiad homoffobig all gael ei ddangos tuag at y gymuned LHDTQ+. Dwi wastad wedi byw mewn tai gyda rhyw fath o fynedfa, cyntedd, neu ardal eistedd, ond yn ein tŷ newydd mae'r drws ffrynt yn agor yn syth i'r ystafell fyw. Dyma'r realiti i nifer o bobl wrth gwrs, ond mae'r ffaith nad oes rhwystr rhwng y gofod cyhoeddus a'r preifat wedi bod yn broblem i fi, ac roedd cael rhywun yn torri drwy'r ffin honno drwy'r twll llythyrau braidd yn anesmwyth. Ar ben hyn i gyd, ein hystafell fyw ni sydd â'r ffenest fwyaf ar y stryd, gan roi golwg dda i bawb sy'n pasio o'n gofod personol – ac mae nhw'n mwynhau cymryd golwg! Mae paranoia wedi ymgartrefu – yw pawb yn gwybod bo ni'n hoyw? Beth maen nhw’n ddisgwyl ei weld wrth edrych mewn? Ydyn ni'n cael ein hadnabod fel yr hoywon ar ben y stryd? Ai llwyfan yw fy ystafell fyw? Dwi'n cydnabod nad yw'r rhain efallai yn gwestiynau go iawn, ond maen nhw wedi fy annog i ganolbwyntio ar themâu cysylltiol. Mae dau gamera llonydd, un yn edrych ar fy ffenest a'r llall yn edrych ar fy soffa, yn rhan o waith fideo rydw i wedi bod yn arbrofi ag ef. Mae ganddon ni deledu eithaf mawr yn yr ystafell fyw, ac rydw i'n ymwybodol iawn o beth fyddwn ni'n ei wylio. Dwi bron yn eistedd yn y stafell fyw yn gwylio RuPaul’s Drag Race, yn gofyn a yw pawb sy'n pasio ac yn gweld fi'n gwylio yn sylweddoli 'mod i'n hoyw. Mae rhywbeth pwysig iawn hefyd am y teledu a'r profiad queer, ac mae gan lawer o bobl queer brofiad cynnar o weld neu gael deffroad queer wrth wylio teledu neu ffilmiau. Ar gyfer y fideo yma fe eisteddais i a gwylio Brokeback Mountain, un o fy mhrofiadau cyntaf o weld perthynas hoyw ar y teledu fel stori ramant. Ffilm y gallwn i uniaethu â hi, ond y cefais i fy ngwawdio'n ddi-baid am ei gwylio, ac felly mae llawer o gywilydd yn ymwneud â hi. Y syniad oedd i geisio herio fy hun drwy wylio, yn lled-gyhoeddus a bron fel perfformiad, ffilm sy'n codi emosiynau anodd. Recordiais y cyfan ar y camerâu llonydd. Golygwyd y fideos i'w dangos ochr yn ochr ar fformat 1080x3840, sy'n helpu i ddangos bod y ddau wedi eu ffilmio ar yr un pryd. Gan fod creu rheolau yn ffordd boblogaidd i ffotograffwyr ac artistiaid greu gwaith, fy rheol i oedd, bob tro y byddai rhywun yn pasio'r ffenest byddwn i'n gwasgu clicied fy nghamera 5x4 a thynnu ffotograff. Roedd hyn tra oeddwn i'n gorwedd ar y soffa o flaen y ffenest honno, y soffa sydd yn y fideo. Wrth eistedd ar y soffa o flaen y ffenest, roedd y teledu wedi'i droi tuag ata i (a'r ffenest) wnaeth godi ton o bryderon, cymaint nes bod rhaid i fi symud y teledu nol i'w le arferol. Roedd y syniad o rywun yn pasio wrth i fi wylio golygfa rywiol o'r ffilm yn codi teimladau o gywilydd, rhywbeth sy'n rhaid i mi ymchwilio iddo a chreu gwaith amdano. Mae'r delweddau 5x4, a dynnwyd ar ffilm ddu a gwyn Ilford HP5 , yn ailadroddus undonog, ac yn gweithio'n well fel corff mwy o ddelweddau – dwi'n eu gweld fel cyfres o 20 a mwy o ddelweddau. Cododd rhai problemau wrth ddatblygu'r ffilm 5x4 wnaeth achosi nam ar ben a gwaelod pob ffrâm, ond wrth olygu fe ddefnyddiais i hyn fel modd o uno'r delweddau: Yn sydyn mae yna hollt rhwng y ddwy ddelwedd sy'n creu ffenest arall. Mae ffenestri yn ymddangos drwy'r gwaith; o ffenestr fy ystafell fyw, i'r teledu fel ffenestr i ddeffroad queer, neu brint yn ystafell fwyta Mam-gu fel ffenestr i ffantasi. Soniodd un o fy mentoriaid, yr artist Holly Davey, ei bod hi'n teimlo awydd i ddringo i'r hollt rhwng y delweddau, a sbardunodd y syniad o argraffu'r ddelwedd, torri'r hollt allan ac arbrofi yn y stiwdio. Mae nifer o bosibiliadau i'r hollt yma, ac mae rhai arbrofion cynnar yn y stiwdio yn cynnwys estyn drwy'r hollt gyda'n nwylo'n dal clapfwrdd – cyfeiriad ychydig yn ddoniol i'r syniad o fy ystafell fyw fel llwyfan a dylanwad ffilm wrth greu'r gwaith. Rwy'n gweld yr hollt fel ffenestr bosibiliadau, ac yn y posibiliadau hynny rhwy'n gweld fy Mam-gu a'i gofod hi, fel bod amser a gofod yn cael ei gywasgu.
Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd ei bod hi'n gweld dihangfa mewn print sydd yn ei stafell fwyta, sydd i'w weld yn y portread uchod. Mae'n dweud: