1. Magwraeth
Cefais i fy magu mewn tre fach ger Lisbon, maestref wledig ddaeth yn un o'r ardaloedd mwyaf diwydiannol ar gyrion y brifddinas ar droad yr 20fed ganrif, yn debyg iawn i Gwm Rhondda. Byddai pobl o dde a gogledd Portiwgal yn symud yno i weithio yn y diwydiant corc a phapur, ac yn y ffatrïoedd cerameg ac arfau. Mae peth o'r dreftadaeth bensaernïol wedi goroesi, ond cafodd y rhan fwyaf o adeiladau eu dymchwel...
O ffenest fy ystafell wely yn nhŷ Mam gallwn i syllu i'r mynydd, breuddwydio a haniaethu, gan chwilio am gysur a chreu straeon, naratif a chymeriadau. Menyw oedd yn byw yn fy stumog yn magu gloÿnnod byw; carwriaeth rhwng dau ddyn yn sownd yn fy ysgyfaint fyddai'n ysgrifennu llythyrau caru at ei gilydd a'u cyfnewid drwy ysmygu ac anadlu'r geiriau drwy bibau fy ysgyfaint; a merch oedd yn chwarae'r delyn yn fy ngwddf.
- Golygfa o fy ystafell wely, Lisbon, Portiwgal
- Golygfa o Google Earth
- Dideitl, siarcol, pensil lliw 2004
- Wlser, paent dyfrlliw, pinnau ffelt 2004
- Wlser, paent dyfrlliw, pinnau ffelt 2005
- Mwrllwch, beiro ar babur rhad 2008
- Thoracs, paent dyfrlliw, llwch sigâr, beiro 2006
- Thoracs, paent dyfrlliw, llwch sigâr, beiro 2006
2. Y Darganfyddiad
Damwain ffodus oedd dewis dod i Gymru. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am Gymru. Roeddwn i'n gwybod bod yma fyd natur a bywyd trefol, a dyma fi'n meddwl taw dyna'r math o le roeddwn i am fyw ynddo. Gadewais fy ngwaith celf er mwyn dechrau o'r dechrau ar bennod newydd, i herio a chanfod fy hun. Mewn llai na blwyddyn roedd fy ystafell rent yng Nghaerdydd yn llawn dop o bapur, brasluniau a darluniau. Roedd e'n ail natur – yn weithred ddiarwybod o leddfu fy hun drwy ddarlunio. Dros y tair blynedd ddiwethaf rydw i wedi creu toreth o waith, ond roeddwn i'n dal yn anfodlon ac am wthio fy hun ymhellach.
Drwy fy ymweliadau cyson ag Amgueddfa Cymru cefais fy ysgogi i ganfod hunaniaeth newydd, a thrwy hynny, ddiwylliant fy nghartref newydd. Gwelais weithiau artistiaid diwedd y 18fed ganrif wedi eu hysbrydoli gan dirwedd Cymru yn llusgo delfryd Rhamantiaeth i ŵydd cenedlaethau'r dyfodol, ac o gofio'r tir a gafodd ei ddiwydiannu cefais fy llethu gan ryfeddod, prydferthwch a thrasiedi a chael fy ysbrydoli i greu.
Cefais fy nenu gan dirluniau aruchel Richard Wilson a Thomas Jones, cerfluniau llosg David Nash, gosodwaith fideo presennol Môr Vertigo a'r Pwll Llygredig yn y Maendy gan Jack Crabtree.
Gwaith Dur Caerdydd liw Nos, gan Lionel Walden a ysbrydolodd Y Cylch Brad – y gyfres o waith rydw i wedi'i greu ar gyfer y comisiwn hwn. Roedd yn ysbrydoliaeth yn wreiddiol i aestheteg Rhan Pedwar: Gwadu (gorchuddio tŵr â ffabrig coch), ond tyfodd yn fuan yn rheswm dros ddewis Port Talbot fel lleoliad y rhan gyntaf.
Daeth Lionel Walden yn wreiddiol o Connecticut, ond bu'n byw yn Aberfala (Falmouth) ar arfordir Cernyw am bedair mlynedd. Mae ei baentiad yn dangos diwydiant dur Cymru ar ei anterth. Adeiladwyd gweithfeydd Dowlais-Caerdydd ar rostir dwyrain Caerdydd rhwng 1887 a 1897 am ei fod yn gyfleus o agos i'r môr. Ym 1978 cafodd yr adeilad ei ddymchwel a'i ailddatblygu...
- David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019 David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019
- David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019 David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019
- Lionel Walden, Gwaith Dur Caerdydd liw Nos, 1893-97
- Rhan Pedwar: Gwadu, Blaenafon, de Cymru, 2021
- Rhan Un: Y Cwlwm, Perfformiad, Port Talbot, de Cymru, 2021
- Jack Crabtree, Pwll Llygredig yn y Maendy, 1974
3. Artistiaid yn Ymateb i'r Nawr
Roedd y comisiwn hwn yn help i fi ganfod fy llais ac yn sbardun i greu gwaith ystyrlon, trawiadol. Llwyddais i fuddsoddi mewn deunyddiau ac arbrofi â fideo, ffotograffiaeth a pherfformiad, oedd yn teimlo fel tresmasu. Roedd y rhain yn gyfryngau hollol wahanol i fi, wnaeth fy ngorfodi i wynebu teimladau o ansicrwydd, ymhonni, a gorbryder. Cefais ganlyniadau positif ac annisgwyl yn ystod y broses, yn ogystal â deall mwy am fy ngwaith creadigol, ac roedd defnyddio fideo a chydweithio ag eraill ar hynny yn fodd i ddatblygu fy null o weithio.
Wrth greu'r gwaith dyma fi a 'nghydweithwyr yn crwydro Cymru a dysgu am y wlad, gan chwilio o hyd am gymariaethau a pherthynas rhwng y niwed i'r tirwedd a'r pwythau ar fy nghorff.
Roedd gweld fy hun ar fideo yn rhoi persbectif newydd i fi, ac yn fy herio i holi beth yw fy lle i a fy hunaniaeth yng Nghymru. Mae'n ffaith – artist o Bortiwgal ydw i yn byw yng Nghymru.
Ymateb i'r her a phrofi fy hun drwy weithio mewn cyfryngau newydd yw Y Cylch Brad – chwiliad am berthyn wrth 'drwsio a chyweirio' y tirwedd. Mae'n gyfuniad o berfformiad, gosodwaith penodol i safle, fideo, ffotograffiaeth a darlunio, ac yn myfyrio ar natur dyn a chanlyniadau ein gweithredoedd. Dibrisio, dinistrio, narsisiaeth, a llygredd yn ogystal â brad, emosiwn a gobaith – canlyniad gweld tirwedd wedi'i niweidio sy'n gyswllt â'r argraff emosiynol ar fy nghorff.
Mae'r Cylch wedi'i rannu'n naratif chwe rhan. Rhan Un: Y Cwlwm – cyfnewid y weithred o ddarlunio am gerfio ymrwymiad newydd. Rhan Dau: Amheuaeth – pwytho clogwyni bregus ynghyd gyda ffabrig wedi'i lifo'n las. Rhan Tri: Y Darganfyddiad – gweld gwaedu cymoedd y De. Rhan Pedwar: Gwadu – cuddio archollion â sawl cynnig aflwyddiannus. Rhan Pump: Galar – derbyn ffawd a gollyngdod tristwch a thrawma. Rhan Chwech: Gwaredigaeth – boddi mewn anobaith yng nghanol haid o elyrch nes i'r cylch ddechrau eto
DELWEDDAU ORIEL STIWDIO, Arbrofion Y Cwlwm, Methiannau///
- Arbrofion stiwdio, cerflun ffabrig wedi'i lifo
- Arbrofion stiwdio, cerfiad ar bowdwr mowldio
- Arbrofion gwnïo, Stiwdio
- Braslunio syniadau ar gyfer Y Cwlwm Llyfr brasluniau
- Prawf Y Cwlwm, Porth Tywyn, de Cymru
- Prawf Y Cwlwm, Porth Tywyn, de Cymru
4. Y Cylch Brad, Y Cwlwm
Sbardunwyd y syniad gwreiddiol am Y Cwlwm gan darddiad iaith. Fel helwyr gasglwyr, dyma ni'n datblygu dulliau cymunedol o gyfathrebu er mwyn amddiffyn ein hunain rhag llwythi eraill a gwarchod ein tiriogaeth. Mae'n ddiddorol i fi taw gwreiddyn iaith yw clebran. Wrth feddwl am hyn a thrin darlunio fel iaith, mae'r perfformiad yn ddathliad, yn ddefod dderbyn, yn gytundeb rhwng dyn a daear i warchod a gofalu.
O ran arddull, trosiad yw hwn o ddarlun manwl i gynfas fawr, gan aros yn driw i'w naws fyfyriol. Wedi'i ffilmio o safbwynt drôn, mae'r perfformiad yn cyfeirio at gerfio cytundeb i warchod y blaned – ymateb emosiynol i waith Francis, Alÿs Pan fydd Ffydd yn Symud Mynyddoedd. Dyma naratif am greu cwlwm â chartref newydd wedi'i ysbrydoli gan baentiad Lionel Walden, y dinistr amgylcheddol, fflam barhaus ffwrnais Tata Steel ym Mhort Talbot a'r diwydiant yn iasol yn y cefndir wrth i'r môr ymestyn a hawlio sylw.
Yn y 18fed ganrif gyda'r Chwyldro Diwydiannol a Rhamantiaeth ar ei anterth, a heddiw, rydyn ni'n delio â chanlyniadau wrth i lifogydd fygwth ein dinasoedd. Mae nifer o rywogaethau yn ymateb i newid, fel y byddwn ni yn newid o fod yn rhamantwyr i fod yn narsisistiaid mewnblyg, egotistaidd sy'n rhannu ein cappuccino ar y cyfryngau cymdeithasol bob bore.
Mae'n frwydr yn erbyn amser i arben y blaned. Rydyn ni'n ceisio trwsio a chyweirio pethau wrth ddigio gyda phawb a phobeth ar y ffordd. Rydyn ni'n perfformio didwylledd, yn ymbil am glod. Rydyn ni'n llygredig a gobeithiol.
Trasiedi yw bodolaeth ddynol, dim ond hiwmor all ein hachub.
Y Cylch Brad, Rhan Un: Y Cwlwm, Port Talbot, de Cymru, 2021 (Y broses greu)
Y Cylch Brad, Rhan Un: Y Cwlwm, Port Talbot, de Cymru, 2021 (Y perfformiad)
5. Yr Effaith
Daeth y comisiwn hwn a chymaint o ganfyddiadau, ac mae'r siwrnai a fy natblygiad wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i bellach yn creu gwaith celf sy'n clymu'r naratif, gan ymgorffori'r gwnïo wedi'i seilio ar fy narluniau a 'nghraith. Mae darlunio wedi dod yn fwy bwriadus a strategol, ond yn parhau yn emosiynol a myfyriol.
Rydw i wedi datblygu sgiliau meddwl critigol a cysyniadol hefyd wrth i'r naratif ddatblygu. Mae'r corff o waith wedi canfod ffyrdd o ehangu yn ffurf fwy cydlynol – drwy fod yn ymwybodol o'r byd o 'nghwmpas a chwestiynu brad ymddygiad dynol gan wneud lle i gydweithio a thrafod.
Sut mae ein gweithredoedd yn bradychu?
Pa ymrwymiadau ydyn ni wedi'u gwneud i fod yn bobl well?