CYNFAS

João Saramago
15 Rhagfyr 2021

Y Cylch Brad

João Saramago

15 Rhagfyr 2021 | Minute read

1. Magwraeth

Cefais i fy magu mewn tre fach ger Lisbon, maestref wledig ddaeth yn un o'r ardaloedd mwyaf diwydiannol ar gyrion y brifddinas ar droad yr 20fed ganrif, yn debyg iawn i Gwm Rhondda. Byddai pobl o dde a gogledd Portiwgal yn symud yno i weithio yn y diwydiant corc a phapur, ac yn y ffatrïoedd cerameg ac arfau. Mae peth o'r dreftadaeth bensaernïol wedi goroesi, ond cafodd y rhan fwyaf o adeiladau eu dymchwel...

O ffenest fy ystafell wely yn nhŷ Mam gallwn i syllu i'r mynydd, breuddwydio a haniaethu, gan chwilio am gysur a chreu straeon, naratif a chymeriadau. Menyw oedd yn byw yn fy stumog yn magu gloÿnnod byw; carwriaeth rhwng dau ddyn yn sownd yn fy ysgyfaint fyddai'n ysgrifennu llythyrau caru at ei gilydd a'u cyfnewid drwy ysmygu ac anadlu'r geiriau drwy bibau fy ysgyfaint; a merch oedd yn chwarae'r delyn yn fy ngwddf.

Golygfa o fy ystafell wely, Lisbon, Portiwgal

Golygfa o Google Earth

  1. Golygfa o fy ystafell wely, Lisbon, Portiwgal
  2. Golygfa o Google Earth
  3. Dideitl, siarcol, pensil lliw 2004
  4. Wlser, paent dyfrlliw, pinnau ffelt 2004
  5. Wlser, paent dyfrlliw, pinnau ffelt 2005
  6. Mwrllwch, beiro ar babur rhad 2008
  7. Thoracs, paent dyfrlliw, llwch sigâr, beiro 2006
  8. Thoracs, paent dyfrlliw, llwch sigâr, beiro 2006

2. Y Darganfyddiad

Damwain ffodus oedd dewis dod i Gymru. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am Gymru. Roeddwn i'n gwybod bod yma fyd natur a bywyd trefol, a dyma fi'n meddwl taw dyna'r math o le roeddwn i am fyw ynddo. Gadewais fy ngwaith celf er mwyn dechrau o'r dechrau ar bennod newydd, i herio a chanfod fy hun. Mewn llai na blwyddyn roedd fy ystafell rent yng Nghaerdydd yn llawn dop o bapur, brasluniau a darluniau. Roedd e'n ail natur – yn weithred ddiarwybod o leddfu fy hun drwy ddarlunio. Dros y tair blynedd ddiwethaf rydw i wedi creu toreth o waith, ond roeddwn i'n dal yn anfodlon ac am wthio fy hun ymhellach.

Drwy fy ymweliadau cyson ag Amgueddfa Cymru cefais fy ysgogi i ganfod hunaniaeth newydd, a thrwy hynny, ddiwylliant fy nghartref newydd. Gwelais weithiau artistiaid diwedd y 18fed ganrif wedi eu hysbrydoli gan dirwedd Cymru yn llusgo delfryd Rhamantiaeth i ŵydd cenedlaethau'r dyfodol, ac o gofio'r tir a gafodd ei ddiwydiannu cefais fy llethu gan ryfeddod, prydferthwch a thrasiedi a chael fy ysbrydoli i greu.

Cefais fy nenu gan dirluniau aruchel Richard Wilson a Thomas Jones, cerfluniau llosg David Nash, gosodwaith fideo presennol Môr Vertigo a'r Pwll Llygredig yn y Maendy gan Jack Crabtree.

Gwaith Dur Caerdydd liw Nos, gan Lionel Walden a ysbrydolodd Y Cylch Brad – y gyfres o waith rydw i wedi'i greu ar gyfer y comisiwn hwn. Roedd yn ysbrydoliaeth yn wreiddiol i aestheteg Rhan Pedwar: Gwadu (gorchuddio tŵr â ffabrig coch), ond tyfodd yn fuan yn rheswm dros ddewis Port Talbot fel lleoliad y rhan gyntaf.

Daeth Lionel Walden yn wreiddiol o Connecticut, ond bu'n byw yn Aberfala (Falmouth) ar arfordir Cernyw am bedair mlynedd. Mae ei baentiad yn dangos diwydiant dur Cymru ar ei anterth. Adeiladwyd gweithfeydd Dowlais-Caerdydd ar rostir dwyrain Caerdydd rhwng 1887 a 1897 am ei fod yn gyfleus o agos i'r môr. Ym 1978 cafodd yr adeilad ei ddymchwel a'i ailddatblygu...

  1. David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019 David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019
  2. David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019 David Nash, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2019
  3. Lionel Walden, Gwaith Dur Caerdydd liw Nos, 1893-97
  4. Rhan Pedwar: Gwadu, Blaenafon, de Cymru, 2021
  5. Rhan Un: Y Cwlwm, Perfformiad, Port Talbot, de Cymru, 2021
  6. Jack Crabtree, Pwll Llygredig yn y Maendy, 1974

3. Artistiaid yn Ymateb i'r Nawr

Roedd y comisiwn hwn yn help i fi ganfod fy llais ac yn sbardun i greu gwaith ystyrlon, trawiadol. Llwyddais i fuddsoddi mewn deunyddiau ac arbrofi â fideo, ffotograffiaeth a pherfformiad, oedd yn teimlo fel tresmasu. Roedd y rhain yn gyfryngau hollol wahanol i fi, wnaeth fy ngorfodi i wynebu teimladau o ansicrwydd, ymhonni, a gorbryder. Cefais ganlyniadau positif ac annisgwyl yn ystod y broses, yn ogystal â deall mwy am fy ngwaith creadigol, ac roedd defnyddio fideo a chydweithio ag eraill ar hynny yn fodd i ddatblygu fy null o weithio.

Wrth greu'r gwaith dyma fi a 'nghydweithwyr yn crwydro Cymru a dysgu am y wlad, gan chwilio o hyd am gymariaethau a pherthynas rhwng y niwed i'r tirwedd a'r pwythau ar fy nghorff.

Roedd gweld fy hun ar fideo yn rhoi persbectif newydd i fi, ac yn fy herio i holi beth yw fy lle i a fy hunaniaeth yng Nghymru. Mae'n ffaith – artist o Bortiwgal ydw i yn byw yng Nghymru.

Ymateb i'r her a phrofi fy hun drwy weithio mewn cyfryngau newydd yw Y Cylch Brad – chwiliad am berthyn wrth 'drwsio a chyweirio' y tirwedd. Mae'n gyfuniad o berfformiad, gosodwaith penodol i safle, fideo, ffotograffiaeth a darlunio, ac yn myfyrio ar natur dyn a chanlyniadau ein gweithredoedd. Dibrisio, dinistrio, narsisiaeth, a llygredd yn ogystal â brad, emosiwn a gobaith – canlyniad gweld tirwedd wedi'i niweidio sy'n gyswllt â'r argraff emosiynol ar fy nghorff.

Mae'r Cylch wedi'i rannu'n naratif chwe rhan. Rhan Un: Y Cwlwm – cyfnewid y weithred o ddarlunio am gerfio ymrwymiad newydd. Rhan Dau: Amheuaeth – pwytho clogwyni bregus ynghyd gyda ffabrig wedi'i lifo'n las. Rhan Tri: Y Darganfyddiad – gweld gwaedu cymoedd y De. Rhan Pedwar: Gwadu – cuddio archollion â sawl cynnig aflwyddiannus. Rhan Pump: Galar – derbyn ffawd a gollyngdod tristwch a thrawma. Rhan Chwech: Gwaredigaeth – boddi mewn anobaith yng nghanol haid o elyrch nes i'r cylch ddechrau eto

DELWEDDAU ORIEL STIWDIO, Arbrofion Y Cwlwm, Methiannau///

  1. Arbrofion stiwdio, cerflun ffabrig wedi'i lifo
  2. Arbrofion stiwdio, cerfiad ar bowdwr mowldio
  3. Arbrofion gwnïo, Stiwdio
  4. Braslunio syniadau ar gyfer Y Cwlwm Llyfr brasluniau
  5. Prawf Y Cwlwm, Porth Tywyn, de Cymru
  6. Prawf Y Cwlwm, Porth Tywyn, de Cymru

4. Y Cylch Brad, Y Cwlwm

Sbardunwyd y syniad gwreiddiol am Y Cwlwm gan darddiad iaith. Fel helwyr gasglwyr, dyma ni'n datblygu dulliau cymunedol o gyfathrebu er mwyn amddiffyn ein hunain rhag llwythi eraill a gwarchod ein tiriogaeth. Mae'n ddiddorol i fi taw gwreiddyn iaith yw clebran. Wrth feddwl am hyn a thrin darlunio fel iaith, mae'r perfformiad yn ddathliad, yn ddefod dderbyn, yn gytundeb rhwng dyn a daear i warchod a gofalu.

O ran arddull, trosiad yw hwn o ddarlun manwl i gynfas fawr, gan aros yn driw i'w naws fyfyriol. Wedi'i ffilmio o safbwynt drôn, mae'r perfformiad yn cyfeirio at gerfio cytundeb i warchod y blaned – ymateb emosiynol i waith Francis, Alÿs Pan fydd Ffydd yn Symud Mynyddoedd. Dyma naratif am greu cwlwm â chartref newydd wedi'i ysbrydoli gan baentiad Lionel Walden, y dinistr amgylcheddol, fflam barhaus ffwrnais Tata Steel ym Mhort Talbot a'r diwydiant yn iasol yn y cefndir wrth i'r môr ymestyn a hawlio sylw.

Yn y 18fed ganrif gyda'r Chwyldro Diwydiannol a Rhamantiaeth ar ei anterth, a heddiw, rydyn ni'n delio â chanlyniadau wrth i lifogydd fygwth ein dinasoedd. Mae nifer o rywogaethau yn ymateb i newid, fel y byddwn ni yn newid o fod yn rhamantwyr i fod yn narsisistiaid mewnblyg, egotistaidd sy'n rhannu ein cappuccino ar y cyfryngau cymdeithasol bob bore.

Mae'n frwydr yn erbyn amser i arben y blaned. Rydyn ni'n ceisio trwsio a chyweirio pethau wrth ddigio gyda phawb a phobeth ar y ffordd. Rydyn ni'n perfformio didwylledd, yn ymbil am glod. Rydyn ni'n llygredig a gobeithiol.

Trasiedi yw bodolaeth ddynol, dim ond hiwmor all ein hachub.

Cyn creu'r darluniau

Y Cylch Brad, Rhan Un: Y Cwlwm, Port Talbot, de Cymru, 2021 (Y broses greu)

Y Cylch Brad, Rhan Un: Y Cwlwm, Port Talbot, de Cymru, 2021 (Y perfformiad)

5. Yr Effaith

Daeth y comisiwn hwn a chymaint o ganfyddiadau, ac mae'r siwrnai a fy natblygiad wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i bellach yn creu gwaith celf sy'n clymu'r naratif, gan ymgorffori'r gwnïo wedi'i seilio ar fy narluniau a 'nghraith. Mae darlunio wedi dod yn fwy bwriadus a strategol, ond yn parhau yn emosiynol a myfyriol.

Rydw i wedi datblygu sgiliau meddwl critigol a cysyniadol hefyd wrth i'r naratif ddatblygu. Mae'r corff o waith wedi canfod ffyrdd o ehangu yn ffurf fwy cydlynol – drwy fod yn ymwybodol o'r byd o 'nghwmpas a chwestiynu brad ymddygiad dynol gan wneud lle i gydweithio a thrafod.

Sut mae ein gweithredoedd yn bradychu?

Pa ymrwymiadau ydyn ni wedi'u gwneud i fod yn bobl well?


Share


More like this