CYNFAS

Dyfan ac Esyllt Lewis
25 Gorffennaf 2022

Helo Dyfan Helo Esyllt

Dyfan ac Esyllt Lewis

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

Wrth lunio ein bwriadau ar gyfer y rhifyn hwn o Cynfas, roedden ni’n awyddus i edrych ar bwysigrwydd cynaliadwyedd i orffennol, presennol a dyfodol Cymru. Drwy edrych yn ôl ar gasgliadau’r gorffennol a’u defnyddio’n greadigol, ein gobaith oedd gallu dechrau gwneud synnwyr o sut i feithrin cynaliadwyedd at y dyfodol. Roeddem am weld ystyriaethau o gynaliadwyedd oedd yn edrych y tu hwnt i’r unigolyn, ac yn darparu gofodau a chyfleon am ymdrech dorfol, lle mae cydweithio a chyd-ddyheu yn ganolog i’r gwaith.

Diolch yn fawr i’r cyfranwyr am ymateb i’r her, a gobeithio bod y rhifyn hwn o Cynfas yn ddechrau at y nod hwn.

Mae’r darn sain yn gyfres o negeseuon llais rhwng brawd a chwaer sy’n ceisio dygymod â realiti presennol argyfyngau cynaliadwyedd yn pentyrru ym myd gwaith, yr amgylchedd a’r trywyddau posib y ddynoliaeth.


Share


More like this