CYNFAS

Lowri Kirkham
25 Gorffennaf 2022

Agweddau hanesyddol at flodau arddangos a gwneud dewisiadau cynaliadwy heddiw

Lowri Kirkham

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

Wrth feddwl am y peth, mae torri blodau o'u mam-blanhigyn er mwyn eu gwylio'n marw ar y pentan yn arfer rhyfedd, gwastraffus iawn. Ond mae wedi bod yn arfer gan ddynolryw ers miloedd o flynyddoedd. Yn dod â harddwch byd natur i'r aelwyd. Yn cyfleu llongyfarchiadau, cydymdeimlad a chariad. Yn puro aer gwael a thaflu swynion. Mae blodau yn ein ysbrydoli wrth ddylunio dillad, gemwaith, tatŵs ac ystafelloedd y cartref. Maen nhw'n dylanwadu ar gelf, barddoniaeth a cherddoriaeth, a'r persawrau fyddwn ni'n eu defnyddio. Hawdd yw dadlau taw blodau yw'r templed i ddynolryw ddeall a modelu prydferthwch. Ond gall blodau gyfleu cymaint mwy na harddwch. Gallan nhw gyfleu agwedd a dyheadau person neu gymdeithas, gan anfon negeseuon dirgel am bwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei drysori fwyaf.

Fas flodau syml?

Mae Fas Flodau, a briodolwyd i'r artist Ffleminaidd, Simon Hardimé (1672–1737), yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn enghraifft o sut y gall fas o flodau arddangos gael ei defnyddio i drafod mwy na phrydferthwch. Yma gwelwn Ymerodraeth, cyfoeth, bywyd a marwolaeth, ac mae'n dangos hefyd sut y cai delweddau, hyd yn oed yn y 17eg ganrif, eu haflunio i gyflwyno golwg annaturiol o natur.

Heddiw, mae blodau fel y tiwlip yn eithaf cyffredin a rhad, ond yn Iseldiroedd y 18fed ganrif roedd y tiwlip bron mor ddrud ag aur a gemau gwerthfawr, ac yn symbol o statws uchel. O Asia ddaeth y tiwlip, a byddai'n cael ei drysori am ei fod yn brin ac yn rhyfeddol o hardd. Ychwanegwyd at y teimlad o statws a mawredd yn y paentiad drwy orbwysleisio maint rhai o'r blodau, a'r ffaith na fyddai pob un yn blaguro ar yr un adeg o'r flwyddyn. Mae'r paentiad felly yn un dychmygol, bron yn bropaganda, sy'n fwy na datganiad syml o gyfoeth. Mae'n dangos maint Ymerodraeth yr Iseldiroedd, dawn ddiplomyddol ei phobl, rhagoriaeth botaneg y wlad, ac yn dathlu peirianneg, fforio a masnachu. Y neges yn syml yw, gall mawredd Ymerodraeth yr Iseldiroedd gynhyrchu fas flodau fwy blaengar a thrawiadol na Mam Natur ei hun.

Ond gall paentiadau oroesi eu cyfnod, a'r negeseuon yr oeddent i'w cyfleu ar bwynt hanesyddol penodol. Heb gyd-destun, gall ystyr paentiad ddechrau esblygu a magu hunaniaeth newydd, yn dibynnu ar bwy sy'n ei weld a phryd. Daeth ‘Iaith Blodau’ yn boblogaidd yn Oes Fictoria, gan alluogi pob blaguryn i gyfleu neges gudd. Drwy'r iaith hon gallai'r paentiad uchod gyfleu; Cariad drwy'r rhosyn, Cymwynas drwy'r tiwlip, Didwylledd drwy glychau'r gôg, ac Aileni drwy'r cennin Pedr. Felly pan fydd rhywun rydych chi'n eu caru'n ddidwyll yn dechrau swydd mewn siop elusen, byddwch chi'n gwybod yn iawn pa flodau i'w prynu!

Mae'n hawdd anghofio fod blodau yn llawer mwy na phethau hardd. Defnyddiwyd planhigion i goginio, ac fel moddion a chosmetig, persawr a gwenwyn ers miloedd o flynyddoedd. Mae gan y rhosyn, er enghraifft, nodweddion gwrthfiotig ac mae'r egroes (y blagur sy'n ymddangos ar ôl i'r petalau ddigyn) yn cynnwys mwy o Fitamin C nag oren. Mae'r cennin Pedr yn wenwynig i'w fwyta, ond mae iddo nodweddion sy'n cael eu defnyddio i ymchwilio i driniaethau Alzheimer a chancr. Felly i rai pobl, nid symbol Dewi Sant neu'r gwanwyn yn unig yw'r cennin Pedr, ond bywyd hir ac iach gyda'u hanwyliaid. Fyddwn ni'n defnyddio'r tiwlip am fawr ddim ond i edrych yn bert, ond mae'n fwytadwy, a byddai'n cael ei fwyta yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd bwyd yn brin.

Ond drwy lygaid garddwr amatur fydda i'n gweld y paentiad hwn. Rydw i'n dychmygu rhywun yn meithrin yr egin, yn eu dyfrio ddydd a nos, yn eu gwarchod rhag gwlithod a phryfed gwyrdd, ac yn ymfalchïo yn eu harddwch pan fyddan nhw'n blaguro. Mae'r broses i fi heddiw'r un peth a fyddai bryd hynny. Ac mae'n broses ddaeth yn hynod bwysig i fi yn ystod cyfnodau clo COVID y ddwy flynedd ddiwethaf. Gorfododd tyfu planhigion i fi arafu, magu amynedd, a thrwy hynny, ail-gysylltu â natur. Erbyn hyn, nid dim ond blodyn yw blodyn i fi. Mae gofalu am flodau yn cefnogi fy iechyd meddwl ac yn dod â lliw a llawenydd i 'nghartref ar y dyddiau mwyaf llwm. Ond yn bwysicach fyth, mae blodau’n cefnogi ecosystemau cyfan ac yn haeddu parch ac ystyriaeth lawn. Fel y rhan fwyaf o bobl, mae gen i gysylltiad sentimental cryf â blodau, a thrwy arddio galla i greu gofod yn llawn atgofion sy'n unigryw i fi. Lilis oren a chlychau'r gog porffor i fy mamgus. Trilliw ar ddeg o fy nhusw priodas. Ysgaw glas wnaeth dynnu gwaed o 'mysedd wrth i fi drefnu blodau angladd fy Nhad. Gall blodau ein hatgoffa o'r gorffennol, y da a'r drwg, a'n clymu at gerrig milltir bywyd. A'r blodyn amlycaf yn ein bywydau o lawer yw'r rhosyn. Byddwn ni'n dathlu priodasau, Santes Dwynwen, Sul y Mamau a mwy drwy'r rhosyn, ond fel rhywun sy'n tyfu rhosod, bydda i'n pendroni sut mae cynifer yn cael eu cynhyrchu mor rhad.

Enw da'r rhosyn – oes na flodyn mwy Prydeinig?

Gellir dadlau bod disgwyliadau Defnyddwyr heddiw yn debyg iawn i ddisgwyliadau'r sawl fyddai wedi gweld y paentiad hwn 300 mlynedd yn ôl. Rydyn ni'n byw mewn cymdeithas o Ddefnyddwyr uchelgeisiol, sydd wedi dibynnu hyd yn hyn ar fewnforio nwyddau rhad a ffasiwn cyflym. Mae hyn yn cynnwys blodau arddangos, gyda rhai rhywogaethau yn werth llawer mwy nag eraill. Y rhosyn o bosib (yn dibynnu ar yr union rywogaeth) yw'r blodyn mwyaf gwerthfawr, a'r un mwyaf poblogaidd wrth drefnu blodau. Fel hoff flodyn Prydain, mae'r rhosyn yn cynrychioli cariad a llwyddiant, ac mae cysylltiad cryf â 'Phrydeindod'. Ond mae'r rhan fwyaf o rywogaethau'r rhosyn yn dod o Asia, ac mae' rhosod sy'n cael ei defnyddio gan werthwyr blodau ac sydd i'w prynu mewn archfarchnadoedd yn cael eu tyfu dramor, a'u mewnforio i'r DU.

Yn 2020 dangosodd adroddiad gan y Llywodraeth fod y diwydiant planhigion addurnol yn y DU yn werth £1.4 biliwn ar ei ben ei hun, ac mae disgwyl i'r ffigwr dyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf. Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerhirfryn yn 2018, dim ond tua 10% o blanhigion a blodau sy'n cael eu tyfu yn y DU, gyda'r rhan fwyaf yn cyrraedd o (neu drwy) yr Iseldiroedd a Kenya. All y DU ddim cynhyrchu digon o flodau i ddiwallu ei hanghenion ei hun ar hyn o bryd, ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi datgelu cost amgylcheddol a dynol masgynhyrchu a chludo blodau.

Yn syml, mae cynhyrchu blodyn ffres o faint, safon, a phris derbyniol yn galw am y rhan fwyaf o'r canlynol, os nad y cwbl:

  • Gwres – boed mewn cynefinoedd pell ger y cyhydedd neu mewn tai gwydr wedi'u gwresogi. Mae hinsawdd cyson yn bwysig ar gyfer y cnwd gorau.
  • Oerfel – Oergelloedd i gludo blodau ffres, fel gyda bwyd.
  • Plaleiddiaid a Gwrtaith – mae'r safonau yn llawer is nag ar gyfer planhigion bwyd.
  • Trafnidiaeth – Rhaid symud planhigion yn gyflym mewn lorïau ac awyrennau i sicrhau'r pris gorau.
  • Cost ddynol – Mae amodau gwaith a chyflog yn amrywio'n fawr o wlad i wlad.
  • O farchnad i farchnad – anaml bydd blodau yn cael eu gwerthu'n syth i'r cwsmer gan y cynhyrchydd, felly bydd sawl cam ar y daith cyn y pryniad olaf.

Tasech chi'n prynu tusw blodau tebyg i'r un yn y paentiad uchod, byddai'r blodau wedi teithio cannoedd neu filoedd o filltiroedd, o nifer o wledydd gwahanol, mewn sawl math o gerbyd. Mae erthygl gan Flowers from the Farm yn cyfrifo ôl troed carbon tusw blodau tebyg o'r Iseldiroedd, Kenya a'r DU ac yn dod i'r casgliad fod tusw o flodau a dyfwyd yn yr awyr agored yn y DU yn defnyddio tua 90% yn llai o CO2 na thusw o'r Iseldiroedd neu Kenya. Ond mae'r galw am flodau arddangos yn y DU yn uwch na'r capasiti cynhyrchu, a does dim dewis ond mewnforio, felly...

Sut allwn ni fel cwsmeriaid wneud dewis cynaliadwy?

  1. Siopa'n lleol a chefnogi busnesau bach. Galwch draw i'ch gwerthwr blodau am gyngor arbenigol, ac i weld trefniadau unigryw a blodau fyddwch chi ddim yn eu gweld yn yr archfarchnad. Mae rhai pobl yn lwcus i fyw ger fferm gasglu blodau, lle gallwch chi fwynhau diwrnod yn casglu eich tusw ffres eich hun.
  2. Prynu’n dymhorol – Mae hyn yn lleihau'r tebygrwydd bod planhigion yn cael eu gorfodi i flaguro’n artiffisial. Felly yn lle mewnforio rhosod sy'n trachwantu am CO2 ar ddydd Santes Dwynwen, beth am brynu cennin Pedr, neu diwlip. Maen nhw'r un mor brydferth, ac yn well i'r amgylchedd a'ch cyfrif banc.
  3. Blodau archfarchnad – darllenwch y label. Ceisiwch brynu blodau lleol, neu o'r DU. Ond os nad yw hyn yn bosib, cadwch lygad am y sticeri Masnach Deg neu FSF sy'n cynnig dewis mwy cynaliadwy, ac ewch am y dewis organig.
  4. Gwerthwyr blodau ar-lein – gwnewch eich gwaith cartref. Os oes yn rhaid i chi brynu ar-lein, chwiliwch am bolisïau cynaliadwyedd y wefan. Er enghraifft, mae Bloom and Wild yn defnyddio pecynnu wedi'i ailgylchu 100% ac yn garbon niwtral.
  5. Prynu planhigyn potyn. Gall dewis planhigyn mewn potyn fod yn rhatach ac yn llawer gwell yn y tymor hir. Gall rhai rhosod gynhyrchu blodau di-ri am 50 mlynedd a mwy.

Ar yr wyneb, nid yw herio ein hagwedd tuag at ein defnydd o flodau yn ymddangos yn bwysig iawn i'r blaned – beth sy'n fwy naturiol na blodyn? Ond gall blodau gael effaith amgylcheddol a dynol mawr. Mae gan bawb gyfrifoldeb fel Defnyddwyr i gefnogi arferion ffarmio moesegol a chynaliadwy, a newid ein disgwyliadau i weddu'n well i rythm natur. Fel ag y mae'r Fas Flodau a briodolwyd i Hardimé yn cyfleu agweddau ei gymdeithas ef, gallwn ni ddewis heddiw beth mae'r blodau ar y silff ffenest yn ei ddweud amdanon ni. Byr yw oes blodau, a bywyd hefyd, a'n cyfrifoldeb ni yw gwneud y mwyaf ohono.


Share


More like this