CYNFAS

Heledd C. Evans a Rosey Brown
25 Gorffennaf 2022

Torri i mewn i’r Llysieufa

Heledd C. Evans a Rosey Brown

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

Wrth feddwl am gynaliadwyedd, rydych chi mewn gwirionedd, naill ffordd neu'r llall, yn dychmygu'r dyfodol. Yr hyn aeth â 'mryd i (Rosie) a Heledd oedd y gwahanol syniadau am y dyfodol yng nghasgliad yr Amgueddfa, a dyma ni'n creu tri darn sain yn ymateb i hyn.

Casgliad y Llysieufa

 

 

‘Pe gwyddwn y darfu'r byd yfory, fe blannwn goeden afal heddiw.’

— Martin Luther

 

Fe ymwelon ni â'r Llysieufa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i edrych ar y casgliad hadau (oes na drosiad mwy plwmp â phlaen am y dyfodol na hedyn?)

Dyma ni'n meddwl am y casgliad o hadau a phlanhigion, eu potensial cynhenid yn gaeth mewn poteli a thuniau llychlyd, a dychmygu eu dychwelyd i'r ddaear.

Dyma ni'n recordio sain rhai o'r hadau yn y casgliad ar gyfer y darn hwn. (Diolch i Osian Gruffydd am gyfieithu a darllen y testun byr yn y darn hwn.)

Pysgod yn Llyn Trawsfynydd

 

Fe ddarllennon ni ‘March for a Safe Future’, pamffled yng nghasgliad yr Amgueddfa, a'i gymharu â'r iaith mewn testunau cyfredol ar wefan Sizewell (gorsaf niwclear yn nwyrain Lloegr).

Fe ddarllenon ni hefyd am orsafoedd niwclear Cymru, Trawsfynydd a'r Wylfa, a chyfansoddi darn sain yn myfyrio ar ddyfodol Trawsfynydd a'i lyn.

Caeodd Trawsfynydd yn 2011, ond fydd y safle ddim yn barod i'w ddatgomisiynu tan 2071* am fod rhannau o'r ffatri yn dal yn 'llawer rhy ymbelydrol' i'w dymchwel.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried 'adweithyddion modwlar bach' i'w gosod ar dir ger yr hen safle, er bod pentref Llan Ffestiniog, 3k gyda'r gwynt o'r orsaf, yn barod yn gweld lefelau cancr sylweddol uwch o ganlyniad i'w lleoliad.

Mae Llyn Trawsfynydd yn fan pysgota poblogaidd hefyd, er gwaetha'r holl wastraff o'r orsaf sydd wedi cael ei ollwng iddo.

Nofwyr

 

Mae Nofwyr Sain Ffagan yn ymateb i Y Tyrrau Mawr gan Bedwyr Williams, a'i weledigaeth o dref o nendyrau hynod ar Gader Idris, a breuddwydion a brygawthan y trigolion.

Mae Nofwyr hefyd yn dychmygu cymuned y dyfodol, ond un sy'n dygymod â boddi a chodi lefelau'r môr.


Share


More like this