CYNFAS

Fern Thomas
25 Gorffennaf 2022

Cerdded â Golau: syniadau hirdymor ffilmiau Peter Finnemore

Fern Thomas

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

‘Walking with Light’ © Peter Finnemore

Ysgolion i’r nen
Tân
Tŷ gwydr
Nenfwrdd
Mwg
Dyn Gwyrdd
Ymrithiwr
Pollen Path
Cyffredin
Dirgelwch
Myth
Iaith
Meddwl Cwantwm
Cynhaeaf Tatws
Afalau
Byd Breuddwyd
Dyfnder Gofod
Dyfnderoedd Amser
Time Lord
Cyndeidiau
Cylchol
Hanesion
Dyfod yn goeden
Numinous
Lleuad
Glaw
Archdeip
Castiwr
Cydweithredu rhyng-genedlaethol
Gweddnewid deunydd
Torri’r terfynnau
Eve of Destruction
Tŷ sy’n breuddwydio
Dillad yn sychu
Aros
Hen bryd
Compost
Alcemi
Myffin y Gath
Cof
Methiant
Ansicrwydd
Ymylon
Cloddiau
Posibiliadau Gardd
Deialog rhyng-rywiogaethol
Golau
Golau
Golau

Sefyll yn stond ac aros. Saib, disgwyliad.

Mae’r olygfa’n agor ar ynys; cartref, gardd, man gweithred. Cloddiau ac ymylon. Pob moment wedi’i dal, a phopeth rhyngddynt.

Fel petai’n dweud, dyma un ffordd. Lle i dyfu. Pob ffilm yn fap o sut allen ni fyw.

Yn symud yn araf drwy’r ardd yn ei llawnder, yn ei thymhorau symudol.

Ffrâm wrth ffrâm ac yn rhywbeth mwy na’i hun.

We see a man standing in the garden, he is looking at the sky.

Llwybrau wedi’u hen droedio, cylchol.
Llwybr paill. Cylch bywyd un diwrnod ar hugain y wenynen.
Yr ardd fel system gynhaliol, yn eich dal wrth gerdded y llwybr.
Lleuad. Cylch bywyd un diwrnod ar hugain y lleuad.
Llinellau cân.

He tries to light a fire, there are several attempts. Heat touches his cheeks.

Mwg tân yn trin y tir. Tyfiant y flwyddyn ddiwethaf yn gweddnewid yn wres.
Gwaith cynhesrwydd.

Mwg fel deheurwydd dwylo, yn borth, yn ddôr. Am nawr, dyma ni yn rhywle arall.
Yn croesi ffiniau, ar drothwy, bon yn rhan o dir tu hwnt i amser.
Pob gweithred fwriadol yn torri’r terfynau.

Slab concrid, sylfaen. Mae heulflodyn, wedi meithrin a chyfathrebu, yn hawlio’r llwyfan.

He approaches the sunflower, holds his hand around it. A familiar touch.
A cat exits left.

A dydych chi ddim yn credu ein bod ni ar yr Eve of Destruction.

Coed afalau a blannwyd unwaith fel hadau. Sied a ddechreuodd ei thaith fel syniad o sied. Y ddefod flynyddol o hollti pennau heulflodau a chadw’r hadau mewn amlen.

Tiriogaeth, dan ofal cath. Cath fel dyfyn-ysbryd, fel cydymaith hudol. Cath fel deialog hollweledol rhyng-rywogaethol. Agosatrwydd, cyfeillgarwch, cyfarchiad crwm yn ôl.

Here now, we see a group of seven people, sat around a table. The potato harvest, cutlery banging the table, each dressed in the guise of a shapeshifter, time lords. They play air guitar.

Lle ar gyfer cyfeillgarwch a chydweithio, cuddluw di-siâp, chware â grym, taflu cerrig a malu gwydr. Nid un ffordd sydd.

        Maen nhw’n chwarae gitâr awyr.

Yn gwneud yr anweladwy’n weladwy.

Shaman, bardd, ffŵl, castiwr, atgof o’n dyn gwyrdd Celtaidd. Yn dyfod yn goeden.
Myth hynafol yn ailfyw drosodd a thro.

O’r pridd hwn. Ond dim ond pan taw gair Cymraeg ydyw – pridd.

Pridd, Pridd, Pridd, Pridd. The house dreams the garden, the garden dreams the house. The man, he dreams it all.

Am iddo gael ei freuddwydio i fodolaeth.

Genwair a gwreiddiau. Hiwmor a chwarae myseliol, gwreiddiau’n ymestyn drwy amser.

We wait again. Something is unfolding, transforming.

Tri deg mlynedd a mwy o’r ardd hon, o’r ymylon. Meddwl hir-dymor mewn byd byr-dymor.

Mae bywydau’n datblygu; y bobl, y cathod, yr adar, yr heulflodau, y genwair. Rhyngfod.

The man sees them all, he sees their place in things.

Gofod domestig defodol, yma mae pethau yn arafach, dan chwyddwydr. Y gweddnewid o un cyflwr i’r llall.

They raise something to the sky, a blanket of smoke, a ladder moves off to the left.

Llonyddwch nawr wrth i ni aros am y foment pan. Gallai aderyn lanio ar y Sky Table. Man galw, gwahoddiad.

Bore’n troi yn nos, cymylau. Ac efallai y gwelwn ni’r lleuad yn disgyn i’r ardd, i eistedd wrth y nenfwrdd.

Arhoswn eto. Gwawr o olau alcemig – cast? Golau wedi’i adlewyrchu. Numinous. Caiff yr haul ei gario ar lwybr newydd. Mae’n anelu atom ni, fe symudwn tua’r golau.

✻ ✻ ✻

Mae’r darn yma’n ymateb i waith gan yr artist Peter Finnemore o’r enw Base Camp, sef cyfres o 31 ffilm fer gan Finnemore a greodd o amgylch cartre’r teulu yng Nghwm Gwendraeth yn y gorllewin. Mae modd gwylio’r ffilmiau yma.

Share


More like this