CYNFAS

Lowri Kirkham
25 Gorffennaf 2022

5 ffordd gynaliadwy i fwynhau blodau drwy’r flwyddyn

Lowri Kirkham

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

1. Tyfwch rai yn eich gardd

Fel gydag unrhyw beth, yr anrhegion mwya meddylgar yw’r rheiny sy’n deillio o gariad a gofal, felly pam ddim defnyddio rhan o’ch gardd i dyfu blodau torri. Does dim angen llawer o le, arian na gwybodaeth arnoch. Byddai potyn bach neu bocs ffenest yn ddigon i greu eich hafan o flodau. Byddwn i’n argymell mathau estyn atoch megis Pys Pêr a Cosmos. Mae’r ddau yn rhad ac yn rhwydd i’w tyfu, yn boblogaidd gyda phryfaid ac yn amrywio o ran eu maint i ffitio unrhyw ardd. O bell ffordd, y peth gorau amdanynt yw po fwya y gwnewch eu torri, y mwya maen nhw’n tyfu’n ôl felly’n eich cynnal drwy’r haf ac i mewn i’r hydref.

Opsiwn arall yw Perlysiau sy’n blodeuo – sy’n hardd ac yn flasus. Byddwn i’n argymell perlysiau megis Cennin Syfi, Oregano a Phenrhudd yr Ardd. Maent oll yn blodeuo gyda blodau porffor sy’n gallu cael eu defnyddio i goginio a threfnu blodau. Mae hefyd sawl math o flodau lliwgar sy’n dda i’w bwyta y gellid eu defnyddio wrth goginio, pobi a chreu coctêls. Mae Rhosmari er enghraifft yn fytholwyrdd ac yn creu torch o flodau hynod, gan gynnig arogl gwych i unrhyw un sy’n dod at y drws.

Pan yn tyfu’ch blodau’ch hun, ceisiwch ddefnyddio compost di-fawn, hadau a ffid organig, ac os yn plannu yn y tir, nodwch pa fath o bridd sydd yn eich gardd. Mae’r pridd yn fy ngardd i’n Glai ac yn gorslyd ac ar ôl gwastraffu tipyn o arian ar blanhigion sy’n mwynhau pridd sy’n sychu (a arweiniodd at y planhigion yn boddi), fe ddewisais blanhigion megis Blodyn yr Enfys sydd angen llawer o ddŵr ac sydd wedi goroesi’n dda. Gorau arf, dysg, bobl!

Ac yn olaf, peidiwch diystyru’r blodau gwyllt a’r chwyn sy’n ymddangos yn eich gardd. Gwiriwch ar-lein neu ddefnyddiwch ap adnabod i weld a ydyn nhw’n ddiogel i’w defnyddio ac os ydyn nhw’n ddiberyg ac yn hardd, ewch ati i’w defnyddio mewn arddangosiad. Mae’r tusw isod wedi’i greu o bethau sy’n ymddangos yn fy ngardd, o graciau’r pafin, tu ôl i’r sied neu’n cuddio mewn glaswellt hir. Mae harddwch ym mhob peth, nid popeth sy’n Rhosyn Mynydd neu’n Rhosyn Te.

2. Gwneud y mwya o’ch blodau torri

Dyma rai awgrymiadau ar sut i wneud y mwya o’ch blodau a sicrhau eich bod yn eu mwynhau am gyhyd ag sy’n bosib, dim ots o ble maen nhw’n dod. Mae’r mwyafrif o’r tuswau o flodau rydyn ni’n eu mwynhau adref angen rhywfaint o drefnu ‘DIY’, lle mae’r blodau o siopau blodau angen dŵr ffrés yn rheolaidd yn unig. I wneud y mwya o’ch arddangosiad:

  1. Torrwch fodfedd o waelod y goes ar ongl fel bod arwynebedd mawr i’r goes amsugno dŵr.
  2. Tynnwch unrhyw ddail fyddai’n sefyll mewn dŵr. Mae’n bosib na fydd y tusw’n edrych mor llawn ond mae’r cam yma’n sicrhau bod y dŵr yn parhau i fod yn lân braf.
  3. Amnewidiwch y dŵr yn eich fâs neu lestr (yn ddyddiol os yn bosib). Fyddech chi’n dymuno yfed dŵr sydd wedi bod yn sefyll ers dyddiau? Na fyddech! Mae’ch planhigion yr un peth.
  4. Sicrhewch bod unrhyw wastraff (gan gynnwys pecynnau, coesau wedi’u torri a’r blodau eu hunain wrth iddyn nhw farw) yn cael ei osod yn y bin cywir a chompostio lle bo modd.

 

3. Blodau sych

Mae rhai planhigion a blodau cystal os nad yn well pan maen nhw wedi’u cadw. Dyma rai syniadau dwi wedi mwynhau eu trio:

Mae sychu blodau yn boblogaidd ac yn ffasiynol ar hyn o bryd ac yn hawdd iawn i’w wneud. Edrychwch ar-lein i weld pa ddeiliach a blodau (naill yn eich gardd neu’ch fâs) sy’n dda i’w sychu ac yna dewiswch pa ffordd yr hoffech eu sychu. Os ydych chi’n sychu coesau cyfan byddwn i’n argymell eu hongian ben i waered rhywle sych a thywyll, yn ddelfrydol gyda bag papur o amgylch pen y blodau i rwystro pryfaid a dal unrhyw hadau. Mae hwn yn gweithio’n dda gydag Ysgallen a phenau Pabi. Ar y llaw arall mae modd ichi arborfi gyda blodau, petalau a dail mwy cain bob yn un gan ddefnyddio technegau megis dysychwr, rhesel sychu rhwyll neu eu gosod ar bapur cegin am rai dyddiau. Dwi’n defnyddio fy rhesel sychu rhwyll (achos bod fy nghath yn eistedd ar y papur cegin) a dwi’n ei hongian yn y garej lle mae’n sych ac yn dywyll, lle mae modd imi sychu petalau blodau ar gyfer addurniadau a pherlysiau ar gyfer te. Fy hoff brosiect y llynedd oedd creu brigau tân myglyd lle y gwnes eu clymu â’i gilydd gydag edafedd a’u hongian i sychu yn y garej a rai wythnosau. Flwyddyn yn ddiweddarach ac maen nhw’n arogli’n arbennig p’un ai fy mod yn eu llosgi ai peidio!

4. Gwasgu blodau

Mae gwasgu blodau yn ffordd hwyliog arall o gadw blodau a’u sychu. Mae modd ichi brynu gwasg blodau pwrpasol neu ddefnyddio llyfr trwm i wasgu petalau, dail a blodau cain rhwng darnau o bapur. Sicrhewch eu bod mor wastad ag sy’n bosib, gyda digon o le rhyngddyn nhw a’u troi yn aml i’w hatal rhag bydredd. Mae’r broses, gan ddibynu ar faint o ddŵr sydd yn y planhigyn, yn cymryd tua pythefnos ac yn creu deunyddiau crefftio lliwgar. Dwi wedi cael llwyddiannau wrth wasgu petalau Rhosod, Lafant, Fioledau Ofergaru, Blodau Ysgawen a Llygad y Dydd a dwi wedi’u defnyddio gyda resin i greu gemwaith, cardiau a set o lythrennau Rwnig.

5. Trowch at flodau am ysbrydoliaeth

O bryd i’w gilydd mae’n hawdd meddwl am yr hyn nad ydyn ni’n dda yn ei wneud neu beth na fedrwn ni ei wneud. Serch hynny ni ddylai’r ffaith nad ydyn ni’n ddigon da i fod yn broffesiynol wrth rywbeth dynnu oddi ar y mwynhad a’r cariad at yr hyn rydyn ni’n gallu’u creu. Bob Nadolig dwi’n ceisio gwneud o leiaf un anrheg â llaw ar gyfer fy nheulu. Fe wyliais nifer o fideos ar YouTube ar gyfer y prosiect yma a chymryd ysbrydoliaeth gan flodau’r gaeaf. Roeddwn i’n gwneud llawer o gamgymeriadau a dyw’r prosiect ddim yn berffaith ond dwi mor hapus gyda’r ffordd y daeth at ei gilydd ac mae fy modryb wrth ei bodd hefyd. Fe ges i fy ysbrydoli gan y celyn a’r moch coed yn fy ngardd a thrwy’r prosiect yma, bydd y planhigion hynny yn byw cyhyd â’r clustog.

Felly, byddwch yn greadigol; tyfwch, cadwch, paentiwch, arluniwch, gwnïwch, sgwennwch, cenwch; gwnewch unrhyw beth wedi’i ysbrydoli gan eich blodau i estynnu eu hoes tu hwnt i heddiw. Ac wrth wneud, cewch greu rhywbeth sy’n bod tu hwn i’r blodau a ninnau, gan gyfrannu at stori oesol blodau a bodau dynol.

Cosmos, pys pêr a blodau garllegyn (sy’n debyg i gennin syfi) yn fy ngardd, 2021

Mae rhosmari’n enwog am ei nodweddion gwarcheidiol felly’n wych ar gyfer y drws ffrynt.

Brigau tân myglyd gan ddefnyddio lafant, rhosyn, rhosmari, saets a llawryf cartref.

Yn y llythrennau rwnig fe ddefnyddiais melyn Mair er arwybod, rhosod ar gyfer medrau seiciatregol, blodau ysgawen er galw a dail llawryf er amddiffyniad. Ffynonellau o amryw lyfrau dewiniaeth.

Uwchgylchwyd yr holl ddeunyddiau yn y prosiect yma heblaw’r edafedd.


Share


More like this