CYNFAS

Melissa Munro, Uwch Curadur: Casgliad Derek Williams
19 Mai 2023

Pwy oedd Derek Williams?

Melissa Munro, Uwch Curadur: Casgliad Derek Williams

19 Mai 2023 | Minute read

Pwy oedd Derek Williams? 

Nid oes llawer yn hysbys am y dyn ei hun, a oedd yn berson preifat iawn. Roedd yr entrepreneur llwyddiannus William Henry Mathias (1845-1922) yn hen dad-cu i Derek ar ochr ei fam, dyn a fu’n rhan o greu Rheilffordd Cwm Taf a datblygu pyllau glo a chwareli. Ganed Derek Williams yng Nghaerdydd ym 1929. Ystyriodd yrfa fel bargyfreithiwr am ychydig, ond yn hytrach fe ymunodd â phractis syrfewyr siartredig ei dad, Tudor Williams. 

Yn ddyn diymhongar a phreifat, roedd Derek Williams yn hoff o lawer o bethau, fel teithio, golff, y bale, opera a theatr. Roedd hefyd yn ffotograffydd amatur brwd. Fel dyn busnes craff, adeiladodd gryn gyfoeth, a buddsoddodd y cyfoeth hwnnw mewn eiddo a chelf. Yn ystod y 1950au, datblygodd angerdd am gasglu celf gyfoes. Roedd yn cael boddhad mawr o adeiladu ei gasgliad a’i arddangos yn ei breswylfeydd niferus. 

Beth sydd yn ei gasgliad? 

Mae’r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan artistiaid neo-ramantaidd o Brydain, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. Cefnogir yr elfen hon gan waith artistiaid eraill o’r cyfnod hwn fel Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore. Cryfder mwyaf y casgliad gwreiddiol yw’r 21 darn gan John Piper gyda’u darluniau gwyllt ac atgofus o dirwedd Cymru.   

Yn y casgliad gwreiddiol, dim ond un darn o waith sydd gan artist benywaidd, sef Frances Richards, gwraig Ceri Richards. Dyma amgylchiad sydd efallai’n adlewyrchu’r anawsterau roedd artistiaid benywaidd yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at y byd celf, hyd yn oed yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Ble roedd e’n casglu?

Dechreuodd Williams gasglu o ddifrif ar ddiwedd y 1950au, pan brynodd ddarn o waith gan Ceri Richards o Oriel Howard Roberts – oriel gelf fasnachol flaengar yng nghanol Caerdydd. Am dros ddeng mlynedd bu’n ymweld yn rheolaidd â’u harddangosfeydd, a dyna lle prynodd dros ddau draean o’r gwaith celf yn ei gasgliad. Ym mis Gorffennaf 1969, cynhaliodd Oriel Howard Roberts arddangosfa o ‘Gasgliadau o Gymru ers 1956’. Roedd casgliad Derek Williams yn rhan ohoni, ond fel dyn distaw, arddangoswyd y casgliad o dan y ffugenw ‘Casgliad Portland’.

Gadael Etifeddiaeth mewn Ymddiriedolaeth

Ym 1984 bu farw Derek Williams, a gofynnodd yn ei ewyllys i’w gasgliad a gweddill ei ystâd gael eu dal mewn ymddiriedolaeth, gan ganiatáu i’w ymddiriedolwyr ymgymryd â’r gwaith o ofalu ac arddangos y gwaith celf i’r cyhoedd, yn ogystal â chyfrannu at wella’r casgliad. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams gan ei ysgutorion ym 1992, a gwnaed cytundeb ffurfiol y flwyddyn ganlynol gydag Amgueddfa Cymru i gydweithio er mwyn cyflawni dymuniadau Derek Williams.

Pam fod y casgliad bellach yn Amgueddfa Cymru?

Roedd Derek Williams yn dymuno i’w gasgliad gael ei weld gan bobl Cymru ac iddo barhau i dyfu. Mae’r casgliad ar fenthyciad hirdymor yn Amgueddfa Cymru. Mae gwaddol y casgliad hwn yn golygu mai Derek Williams yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. 

Mae nifer o weithiau gan artistiaid modern a chyfoes wedi’u hychwanegu at y casgliad, gan gynnwys Michael Craig-Martin, Michael Andrews, Paula Rego, Patrick Caulfield, Prunella Clough a Tess Jaray.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth angerdd parhaus dros gelf gymhwysol hefyd, ac mae ganddi gasgliad serameg o ehangder a dyfnder rhyngwladol gwych. Yn 2015, roedd Ymddiriedolaeth Derek Williams yn ffodus o gael trwy gymynrodd gasgliad y ddiweddar Anita Besson, perchennog Galerie Besson. Mae’r casgliad cywrain hwn o grochenwaith stiwdio yn cynnwys seramegwyr amlwg fel Lucie Rie a Hans Coper.

Beth arall mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud?  

Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn dangos ei chefnogaeth i gelf ryngwladol gyfoes drwy Wobr Brynu Artes Mundi. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhoi £30,000 i Amgueddfa Cymru i’w galluogi i brynu gwaith gan artist sy’n arddangos yn arddangosfa ddwyflynyddol Artes Mundi. Mae’r rhodd hael hon wedi galluogi Amgueddfa Cymru i ddatblygu casgliad celf gyfoes o arwyddocâd rhyngwladol. mhlith derbynwyr blaenorol y Wobr Brynu mae Berni Searle, Ragnar Kjartansson, Bedwyr Williams a Tania Bruguera.  

Mae haelioni a chefnogaeth sylweddol Ymddiriedolaeth Derek Williams yn golygu bod modd caffael llawer o gelf fodern a chyfoes ar gyfer casgliad yr Amgueddfa, gan gynnwys gwaith gan David Hockney, Pablo Picasso, Peter Doig, Andrea Büttner a John Akomfrah.   

Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn parhau i fod hyd heddiw yn un o gymwynaswyr mwyaf y celfyddydau i bobl Cymru, gan gyflawni dymuniadau ei sylfaenydd.

Lluniau:  
Derek Williams © Ymddiriedolaeth Derek Williams.   
Paentiad a gafwyd eleni gan Tess Jaray o’r enw Victory of Eraclio 2, 2019, acrylig ar fwrdd, © Tess Jaray/Ymddiriedolaeth Derek Williams.   
Mae’r llun gosodwaith yn dangos casgliad Anita Besson a adawyd yn gymynrodd i’r Ymddiriedolaeth yn 2015 Llun © Amgueddfa Cymru.   
 

 

The Death of the Virgin
REGO, Paula
©Ostrich Arts Ltd/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
CRAIG-MARTIN, Michael
© Michael Craig-Martin/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
ANDREWS, Michael
© Ystâd Michael Andrews/Tate Images/Amgueddfa Cymru

Share


More like this