CYNFAS

Neil Lebeter
25 Hydref 2022

Rheolau Celf?

Neil Lebeter

25 Hydref 2022 | Minute read

Bydd unrhyw gasgliad celf mawr a gasglwyd dros ddegawdau yn cynnwys llu o wahanol straeon. Gall rhain fod yn straeon am artist, person mewn portread neu’r casglwr a roddodd waith celf i’r Amgueddfa. Nid yw casgliad cenedlaethol o gelf yn wahanol, ac mae'n cynnwys haenau ychwanegol o hanes – beth mae casgliad o gelf yn ei ddweud wrthon ni am y wlad rydyn ni’n byw ynddi; ei gorffennol, presennol a dyfodol? Gall casgliadau amgueddfeydd ddweud llawer wrthon ni amdanon ni ein hunain ac maen nhw hefyd yn adlewyrchu cymdeithasau’r gorffennol. Un o’n swyddi fel curaduron y casgliad yw canfod y straeon a’u gwneud yn berthnasol i’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw.

Mae Rheolau Celf?, sy’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng mis Hydref 2021 a mis Mehefin 2023, yn bwrw golwg eang dros hanner mileniwm o’r casgliad celf. Mae gan Amgueddfa Cymru un o’r casgliadau celf gorau yn Ewrop, ac mae’r arddangosfa yma’n ymwneud yn bennaf â dathlu ac arddangos y casgliad hwnnw mewn ffordd newydd. Bydd hyn yn creu cydberthnasoedd newydd ac yn sbarduno amrywiaeth o gwestiynau ynghylch pwy mae’r casgliad yn ei gynrychioli, pwy nad yw’n ei gynrychioli a pham. 

 

Mae’r ffordd mae amgueddfeydd wedi arddangos eu casgliadau, yn enwedig yn hanesyddol, wedi dilyn llwybr cronolegol i raddau helaeth. Byddai paentiadau a cherfluniau yn cael eu harddangos ar sail eu ‘hysgolion’ arddulliadol neu ddaearyddol, gan ffurfio llinell amser swyddogol o gelf. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddod i ddeall mudiadau mewn hanes celf, ond gall roi golwg gyfyngedig ac eithrio llawer o artistiaid nad ydynt yn cael eu hystyried fel eu bod yn ffitio i faes penodol. Hefyd, gall roi camargraff o ddilyniant unedig; bod celf bob amser yn symud ymlaen, bod un arddull yn llywio ac yn ildio i arddull arall. Nid felly mae; mae dilyniant celf weledol wedi bod yn afreolus ac mae wedi mynd a dod. Enghraifft rwy’n meddwl amdani’n aml yw rhwng dau gerflun hynod bwysig o ddechrau’r ugeinfed ganrif: Y Gusan (1901–1904) gan Rodin, a The Rock Drill (1913–1915) gan Jacob Epstein. Wrth edrych ar y ddau waith yma ar sail eu ‘hysgolion’ neu ddaearyddiaethau priodol, maen nhw’n edrych fel y gallai canrifoedd fod rhynddynt, ond mewn gwirionedd, mae llai na degawd. Gall grwpio pethau gyda’i gilydd bwysleisio tebygrwydd yn daclus, ond gall hefyd anwybyddu amrywiaeth.

Addysgu Celf: Hanes cymhleth

Bu’r ffordd roedd celf yn cael ei addysgu yn fwy anhyblyg byth. Yn 1669, gosododd Andre Felibien, yr awdur Ffrengig ac Ysgrifennydd yr Academi Ffrengig, yr egwyddorion paentio a ffurfiodd yr hyn rydyn ni bellach yn cyfeirio ato fel Hierarchaeth y Genres. Mae'r hierarchaeth yma’n gosod math arbennig o baentiad dros un arall, gan ffurfioli meddwl mewn celf Orllewinol sy’n dyddio'n ôl i’r Dadeni. Er enghraifft, gosodwyd paentiadau o olygfeydd beiblaidd neu bortreadau o uchelwyr yn uwch na phaentiadau bywyd llonydd. Dyma’r hierarchaeth:

  1. Paentiadau Hanesyddol
  2. Portreadau
  3. Golygfeydd o fywyd bob dydd
  4. Tirluniau
  5. Bywyd llonydd

 

Am gannoedd o flynyddoedd, roedd celf yn cael ei addysgu ar sail y system yma, gan ddechrau newid dim ond wrth i ni symud drwy'r ugeinfed ganrif mewn gwirionedd. Roedd yn fanteisiol i artist felly i greu gwaith a oedd yn cyd-fynd â’r ‘gynghrair’ ragnodol yma, gan fod rhagor o arian a statws ar gael i’r artistiaid hynny oedd yn gwneud paentiadau ar frig yr hierarchaeth.

Am ganrifoedd roedd hyn yn pennu’r gweithiau roedd artistiaid yn eu cynhyrchu, yr hyn roedd casglwyr yn ei brynu ac – yn y pen draw – yr hyn mae amgueddfeydd wedi’i gasglu. Mae wedi cael effaith ddofn ar y casgliadau a welwn mewn amgueddfeydd hyd heddiw ac wedi adlewyrchu ac atgyfnerthu strwythurau pŵer cymdeithasol ehangach. Nid yw’r byd mae amgueddfa yn ei adlewyrchu yn ôl i ni bob amser yn cyd-fynd â’r byd rydyn ni’n ei brofi.

Felly, defnyddiodd Rheolau Celf? yr hierarchaeth yma o genres i ddangos ein casgliad mewn ffordd wahanol; nid yn gronolegol nac yn ôl ‘ysgol’ ond yn ôl thema. Roedd hyn yn caniatáu i ni archwilio cydberthnasoedd newydd yn y casgliad; i arddangos gweithiau celf Hanesyddol a Chyfoes na ddangoswyd gyda'i gilydd erioed o'r blaen. Roedd cwestiynu’r hierarchaeth ei hunan yr un mor bwysig, gan ddangos yr artistiaid sydd wedi ei chwestiynu a chwyldroi sut rydyn ni’n meddwl am gelf heddiw. Roedd gwaith yr Argraffiadwyr mor ddadleuol yn Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, er enghraifft, oherwydd ei fod yn amlwg yn mynd yn groes i ddoethineb canfyddedig yr Academi Ffrengig.

Dangos beth sydd ar goll

Roedd dangos y casgliad yn y modd yma hefyd yn amlygu absenoldeb, er bod hyn yn llawer mwy heriol yn guradurol. Fel llawer o gasgliadau mawr o gelf ledled y byd, mae ein casgliad ni yn adlewyrchu hanes penodol iawn, ac nid yw bob amser yn adlewyrchu’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw. Mae edrych ar yr absenoldebau hynny a’u deall yn ffordd ddiddorol iawn, nid yn unig, o ddehongli ein casgliadau hanesyddol, ond hefyd i ddychmygu sut olwg ddylai fod ar ein casgliad yn y dyfodol.

Enghraifft bwysig o hyn yw cynrychiolaeth artistiaid benywaidd. Fel gyda llawer o amgueddfeydd eraill, ychydig iawn o artistiaid benywaidd sydd yn ein casgliad cyn yr ugeinfed ganrif. Un o’r rhesymau am hyn yw bod merched wedi cael eu gwrthod rhag cael hyfforddiant celf ffurfiol mewn academïau celf yn Ewrop tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Academïau oedd un o’r ffyrdd mwyaf clodfawr i artist dderbyn hyfforddiant ffurfiol, i arddangos eu gwaith ac felly i sicrhau gwerthiant a chomisiynau. Doedd y system ddim yn gosod menywod o dan anfantais ond yn hytrach yn eu heithrio nhw’n llwyr ohoni. Mae Rheolau Celf? yn dangos gweithiau artistiaid fel Gwen John, a oedd ar flaen y gad o ran myfyrwyr celf benywaidd. Mae’r arddangosfa hefyd yn dathlu gwaith artistiaid fel y ffotograffydd Mary Dillwyn, a fu’n creu celf er gwaethaf y rhwystrau cymdeithasol roedden nhw’n eu hwynebu.

Dechrau sgyrsiau

Daw’r arddangosfa i ben gyda Vertigo Sea (2015) gan John Akomfrah – caffaeliad newydd i’n casgliad cyfoes, a brynwyd mewn partneriaeth ag Oriel Towner yn Eastbourne. Mae’r fideo tair sgrin yn crynhoi llawer o’r themâu a gafodd sylw yng ngweddill yr arddangosfa, a llawer mwy hefyd. Mae’n archwilio harddwch natur a’r dinistr a wneir gan bobl i’r amgylchedd ac i ni ein hunain.

Mae’r gwaith yn defnyddio ystod eang o ffynonellau gweledol a llenyddol, gan ymgorffori deunydd ffilm newydd ac archif Hanes Natur y BBC. Mae’n benfeddwol o ran cwmpas a chyflwyniad; mae Akomfrah yn archwilio ehangder hanes dynol, ac mae’r tair sgrin yn eich amgylchynu ac yn llenwi’ch golwg. Mae’r diwydiant morfila, yr argyfwng ffoaduriaid presennol a’r fasnach gaethweision drawsatlantig ymhlith rhai o’r themâu sy’n cael sylw. Yn amlwg drwy gydol y ffilm mae naratif personol Olaudah Equiano (1745–1797), cyn-gaethwas ac ymgyrchydd dros ddiddymu caethwasiaeth. Wrth ei wraidd, mae Vertigo Sea hefyd yn ymgorffori’r syniad o’r aruchel – cymysgfa o synhwyrau o harddwch, syfrdan a braw sy’n cael ei ysbrydoli ynom gan y byd naturiol. Mae hyn wedi swyno artistiaid ers cannoedd o flynyddoedd ac, yn ein hargyfwng hinsawdd presennol, mae’n rhywbeth sy’n berthnasol iawn heddiw.

Yn fwy na dim, mae Rheolau Celf? yn dechrau sgwrs, yn hytrach na diwedd sgwrs. Mae ein cynulleidfaoedd yn rhan hanfodol o’r sgwrs yma, a’r ffordd caiff ein casgliadau eu harddangos yn awr ac yn y dyfodol.


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this