CYNFAS

Charlotte James
16 Tachwedd 2022

Ffasiwn

Charlotte James

16 Tachwedd 2022 | Minute read

Charlotte James

Cafodd y cyfarwyddwr creadigol a’r gwneuthurwr ffilmiau Charlotte James ei geni a’i magu ym Merthyr Tudful. Ei diddordeb yw arbrofi gyda gwahanol ddulliau o gydweithio â chymunedau drwy gyfrwng ffasiwn a ffilm, a gweithdai creadigol i bobl ifanc.

Mae Charlotte wedi cynhyrchu gwaith golygyddol a masnachol ar y cyd ag Alexander McQueen, Gucci, Helmut Lang, a Vogue Italia, ac mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau ledled y byd gan gynnwys British VogueUS Vogue10 MagazineAnother MagazineThe FaceTwin MagazineThe New Yorker.

Bu ei magwraeth yn greiddiol i’w gwaith, gyda nifer o brojectau yn cynnwys teulu, ffrindiau a phobl leol. Ei gwaith amlycaf yw It’s Called Ffasiwn a ddatblygwyd dros ddwy flynedd gyda Clementine Schneidermann, sy’n dathlu’r gymuned hon ac yn adeiladu cysylltiadau drwy ffasiwn, ffilm a gweithdai creadigol.

Cafodd It's Called Ffasiwn lwyfan gan BBC New Creatives, Amgueddfa Cymru a Sefydliad Martin Parr ar ffurf arddangosfa a llyfr ffotograffig ategol.

Ophelia Dos Santos

Dylunydd Tecstilau Cymreig ac Ymgyrchydd Cyfiawnder Hinsawdd yn gweithio yng Nghaerdydd yw Ophelia.

Mae’n arbenigo mewn brodwaith llaw, ac yn atgyweirio dillad ac ail-bwrpasu dillad a defnydd gwastraff. Yn ogystal â chael effaith cymdeithasol ac amgylcheddol positif, mae ei gwaith hefyd yn atgof gweledol o newid agwedd ffasiwn at gynaliadwyedd, gan ysbrydoli eraill i roi ail gyfle i hen ddillad.

Drwy ei phlatfform mae’n creu cynnwys addysgiadol, i addysgu ac annog trafodaeth am ffasiwn gynaliadwy, gor-ddefnyddio, a chydraddoldeb. Wrth weithio yn y gymuned mae hi’n canolbwyntio ar rannu sgiliau fel arf pwerus i drafod cymhlethdodau newid hinsawdd, gan annog pobl i gymryd rhan a gweithredu. Mae’n arwain gweithdai gydag elusennau a sefydliadau lleol ac yn dangos sut y gall technegau brodwaith syml gael eu defnyddio i drwsio ac adfywio dillad.

Megan Winstone

Ffotograffydd ffasiwn o Abercynon, Rhondda Cynon Taf, yw Megan. Theori ffeministaidd sy’n ysbrydoli ei gwaith, ac ymdrechion i ddymchwel disgwyliadau cymdeithas o ddelweddau negyddol o’r corff. Mae ei threftadaeth Gymreig yn amlwg yn ei phortffolio, yn enwedig y gwaith comisiwn gan Stella McCartney, The Face ac eraill. Dros yr haf, bu’n dysgu ffotograffiaeth i grŵp ieuenctid yn Aberdâr fel rhan o ysgol haf Amgueddfa Cwm Cynon.

Laurie Broughton

Graddiodd Laurie yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda gradd mewn Ffotograffiaeth Dogfennol Cymdeithasol. Mae ei waith yn trafod themâu fel ieuenctid ac isddiwylliant, yn ffurfiol o safbwynt tai cymdeithasol, yn ogystal â newid hinsawdd yn Ne Cymru.

Drwy waith ymchwil ac wynebu gwahanol bynciau, ei nod yw herio ei hun i edrych tu hwnt i syniadau arwynebol am hunaniaeth a stereoteip diwylliannol gan greu delweddau mewn modd ymdrwythol o fewn cymunedau. Mae am i’w waith gwestiynu a thrafod tybiaethau hen ffasiwn am y cymunedau hyn, gan greu dros gyfnod hir er mwyn herio’r norm cymdeithasol.

Ffian Jones

Dylunydd dillad dynion o Gaerffili yw Ffian. Datblygodd ei Chasgliad Gradd RCA 2022 Let’s Talk About Better Things Than That o gyfweliadau gyda dynion ifanc, yn canolbwyntio ar newid yn y byd gwaith yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol de Cymru. Mae gwaith Ffian wedi'i seilio ar dri o werthoedd – pobl, lle a phrotest – ac yn canolbwyntio ar themâu gwrywdod cyfoes, ansefydlogrwydd gwleidyddol, hiwmor, tafodiaith a iaith leol. Mae wrthi’n datblygu ei chasgliad cyntaf dan ei brand FFIAN.

Siôn Marshall-Waters

Cynhyrchwr ffilmiau a ffotograffydd o dde Cymru yw Siôn Marshall-Waters. Gyda’i gefndir mewn anthropoleg weledol, mae naws ethnograffig at bobl a lle yn amlwg yn ei waith. Cyrhaeddodd ei ffilm fer Forest Coal Pit, dan nawdd BFI Network, restr fer Gwobr Grierson yn ddiweddar.

Share


More like this