CYNFAS

Carys Tudor, Curadur Digidol – Celf, Amgueddfa Cymru
12 Chwefror 2023

Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker

Carys Tudor, Curadur Digidol – Celf, Amgueddfa Cymru

12 Chwefror 2023 | Minute read

Dyma’r artist Caroline Walker yn trafod ei gwaith a’r hyn sy’n ei hysbrydoli. Yn y ffilm mae Walker yn esbonio sut aeth hi ati i greu’r darn Cyflyru a beth sydd wrth wraidd y gwaith. Cawn glywed rhywfaint am y motifs sy’n dychwelyd dro ar ôl tro yn ei gwaith

Mae Cyflyru gan Caroline Walker yn rhan o arddangosfa Rheolau Celf? Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 23 Hydref 2021 a 4 Mehefin 2023. Mae Rheolau Celf? yn arddangosfa sy’n twrio drwy bum canrif o baentiau a darluniau, cerfluniau a cherameg, ffilm a ffotograffiaeth i holi cwestiynau pwysig am gynrychiolaeth, hunaniaeth a diwylliant.

Am wylio’r fideo gydag isdeitlau?

Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gydag isdeitlau.


Share


More like this