CYNFAS

Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
12 Chwefror 2023

Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael

Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed

12 Chwefror 2023 | Minute read

Ers mis Mai 2021, mae’r grŵp Codi’r Llen ar Gaffael wedi cyfarfod yn fisol fel rhan o broject ar y cyd sy’n edrych ar gaffaeliadau celf yn Amgueddfa Cymru ac yn trafod yr hanes, y prosesau a’r polisïau sydd wedi llywio’r ymdrech canrif o hyd i ddatblygu casgliadau yn yr Amgueddfa. Un o ganlyniadau mawr y project hwn oedd bod y grŵp wedi cymryd rhan mewn caffaeliad byw; sef cyfres o brintiau Chris Ofili, Gogledd Cymru. Roedden nhw’n rhan o bob cam o'r broses hon; o wneud penderfyniadau, codi arian ac arddangos y gwaith yn y pen draw. Gyda nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy'r project Dwylo ar Dreftadaeth, caiff cyfranogwyr eu talu am eu hamser yn gweithio gyda'r Amgueddfa.

Caffaeliadau: Sut maen nhw'n gweithio?

Mae'r grŵp wedi bod yn ymwneud â chymysgedd o ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol, gan gyfarfod wyneb yn wyneb ac ar-lein i drafod gwaith datblygu casgliadau a chaffaeliadau; edrych ar hanes, polisi casgliadau, codi arian, cyllidebau, cadwraeth, arddangos a moeseg. Mae trafod ac ystyried y prosesau hyn a’n gwaith fel sefydliad yn ffactor allweddol, gyda’r grŵp yn dysgu am y sefyllfa bresennol ac yn ei chwestiynu. 

Digwyddodd eiliad arwyddocaol pan gyfarfu’r grŵp ym mis Mehefin 2021. Yn dilyn dadl ynghylch ei haddasrwydd a’i pherthnasedd i’n casgliad presennol, cytunodd yr aelodau’n unfrydol i fynd ar drywydd cyfres Gogledd Cymru Ofili i’w chaffael. Dyma’r tro cyntaf yn hanes Amgueddfa Cymru i benderfyniad ar gaffaeliad celf gael ei wneud y tu allan i’r adran guradurol ac roedd yn nodi eiliad allweddol yn ein hymdrechion i ddemocrateiddio ein gwaith a rhoi llwyfan i leisiau allanol. Ar ôl rownd lwyddiannus o godi arian, mae'r printiau bellach yn rhan o'r casgliad gyda diolch am gefnogaeth hael yr Ampersand Foundation ac Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Rydyn ni hefyd wedi cael cyfle i rannu’r canlyniadau gyda’r sector amgueddfeydd ac orielau ehangach a’r cyhoedd wrth i’r project fynd rhagddo. Er enghraifft, rhoddodd dau o aelodau’r grŵp gyflwyniad fel rhan o’r symposiwm: Dynamic Collections and Kick the Dust - Young people shaping collections and organisational change, a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa Brydeinig ym mis Mawrth 2022. Ar ben hynny, cymerodd y grŵp ran hefyd mewn pennod ddiweddar o Inside Art ar Sky Arts a oedd yn rhan o bennod ehangach ar arddangosfa Rheolau Celf?. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod grŵp wyneb yn wyneb, a chyfweliad â chyfranogwyr. 

Beth nesaf i’r grŵp?

Cam nesaf y project rydyn ni wedi bod yn gweithio arno gyda’r grŵp drwy gydol 2022 yw cynnal ail-arddangosiad, wedi’i guradu ar y cyd, o Oriel 24 fel rhan o arddangosfa Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r grŵp wedi cytuno ar thema ar gyfer yr arddangosfa hon yn seiliedig ar brintiau Gogledd Cymru Ofili. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn yn y project, gan symud gwaith y grŵp o brosesau tu ôl i’r llenni o ran caffael i arddangosfa gyhoeddus, wedi’i churadu ar y cyd. 

Gan fod cymaint o’r project yn ymwneud â lleisiau’r grŵp ei hun, mae’n iawn i ni roi’r gair olaf iddyn nhw…

“Mae’r project yn unigryw yn yr ystyr ei fod yn addysgu pobl ifanc am gaffaeliadau, proses nad yw’n cael ei thrafod yn aml, ac yn caniatáu i ni gymryd rhan ym mhob cam o’r broses honno. Cefais fy synnu gan y rhwystrau mae’n rhaid i guraduron eu goresgyn i gaffael gwrthrych, sy’n ei gwneud yn broses hir: bodloni gofynion y Polisi Datblygu Casgliadau, cael cymeradwyaeth gan amrywiol randdeiliaid mewnol ac allanol, gwneud cais am gyllid a’i gyfiawnhau ac yn fwyaf nodedig, gweithio gyda chyllideb annigonol i brynu gweithiau celf y mae Amgueddfa Genedlaethol yn eu haeddu ac sydd eu hangen arni. Drwy alluogi’r grŵp hwn o weithwyr nad ydynt yn gweithio mewn amgueddfa i wneud penderfyniadau am waith celf, rydw i’n meddwl bod y project hwn yn bwysig iawn er mwyn arloesi ffordd arall o gynyddu cynrychiolaeth a chyfranogiad y cyhoedd yn ei chasgliadau.”

Chloe Jones

 

“Mae Codi’r Llen ar Gaffael gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn broject gwerthfawr i bobl ifanc sy’n dod i mewn i fyd sefydliadau celfyddydol, ac yn rhoi cipolwg pwysig ar brosesau a gwybodaeth y tu ôl i’r llenni. O’i gymhwyso i gaffaeliad cyfres Gogledd Cymru Ofili, mae’r cyfle’n fwy manteisiol byth gan y gall y project byw ychwanegu’n ystyrlon at gasgliad celf yr amgueddfa; gyda chynrychiolaeth o Gymru fel ysbrydoliaeth i artistiaid cyfoes, yn yr un modd ag y chwaraeodd hynny ei ran ar gyfer gweithiau Turner a Lowry.”

Rhyann Arthur

 

“Rydyn ni fel grŵp wedi trafod manteision ac anfanteision caffael cyfres Gogledd Cymru Chris Ofili. Mae pob un ohonon ni’n teimlo’n gryf fod ei waith yn gyfraniad hanfodol ac arwyddocaol i gynrychioli pobl a diwylliant y Gymru gyfoes. Bydd y gyfres yn ategu ac yn herio tirluniau Cymreig eraill yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, gan gyflwyno cyfle unigryw ar gyfer dehongliadau ffres o Gymru a’r hyn sy’n gyfystyr â chelf “Gymreig”.

Millie Bethel

 

Neil Lebeter oedd yr Uwch Guradur Celf Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa Cymru rhwng 2018 a 2022. Mae gan Neil ddiddordeb yn y blociau adeiladu cymdeithasol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar amgueddfeydd a diwylliant gweledol yn ehangach, a sut y gall celf gyfoes daflu golwg feirniadol ar y strwythurau hynny. Neil oedd curadur Rheolau Celf?, arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a sefydlodd y grŵp Codi’r Llen ar Gaffael gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.

Artist, awdur, curadur ac ymgynghorydd Cymreig a Somali yw Umulkhayr. Mae ei phractis artistig yn canolbwyntio’n bennaf ar ddelweddau symudol a pherfformiad sy’n trafod y tensiwn o fwynhau crwydro rhwng amseroedd rhyddfreiniol a’r angen ymarferol i fyw yn y presennol.

Mae Umulkhayr yn teimlo bod ei gwaith golygyddol a churadurol yn cael ei arwain gan y ddealltwriaeth fod yr hyn gaiff ei gynnwys a’i hepgor, mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau celf sy’n honni eu bod yn trafod hunaniaeth, yn weithred hynod wleidyddol gaiff effaith hirhoedlog ar gymunedau a’u profiadau, a  rhaid eu trin felly â gofal ac ystyriaeth.


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this