Mae Peter Prendergast yn adnabyddus am ei dirluniau o ogledd orllewin Cymru, sy’n cyfuno arddull fodernaidd o beintio â thirwedd fynyddig a diwydiannol yr ardal.
Ganed Prendergast yn Abertridwr, ger Caerffili, i deulu Catholig. Roedd ei dad yn löwr o Swydd Wexford yn Iwerddon a symudodd i Gymru yn 1917 (wedi Gwrthryfel y Pasg, 1916). O dan arweiniad ei athro celf, cafodd Prendergast ei dderbyn yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1962 er nad oedd cymwysterau academaidd ganddo, ac fe enillodd ysgoloriaeth i barhau i astudio yno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 17 oed, aeth i’r Slade School of Fine Arts yn Llundain lle cafodd ei addysgu gan Frank Auerbach, ac yn 1968 cychwynodd ar radd M.A. ym Mhrifysgol Reading, gan astudio o dan Terry Frost.
Ym 1970, symudodd Prendergast yn ôl i Gymru, i ardal Bethesda, lle arhosodd hyd weddill ei oes. Trodd ei sylw at y dirwedd leol gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr ardal o gwmpas Chwarel Penrhyn lle mae dwy ganrif o’r diwydiant llechi wedi gadael creithiau dwfn ar y ddaear – ardal digon tebyg i’r Cymoedd lle cafodd Prendergast ei fagu. Paentiodd fynyddoedd Eryri hefyd, a'r arfordir cyfagos, mewn arddull ddramatig a mynegiannol: byddai’n paentio tafnau o liw cryf, trwchus wedi eu hamlinellu â strôcs o baent du.
Cyfunodd Prendergast ei waith artistig ei hun â gyrfa fel athro, yng Ngholeg Celf Lerpwl rhwng 1970 a 1974 ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Menai Bangor, lle chwaraeodd ran yn sefydlu’r Cwrs Sylfaen yn 1980.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruwchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.