CYNFAS

Evie Banks
20 Medi 2023

Tirlun Anhysbys

Evie Banks

20 Medi 2023 | Minute read

Tirlun Anhysbys, Banks, Evie, © Evie Banks

Artist a churadur yw Evie Banks sy’n astudio MFA Curadu ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Fel artist, diddordeb Evie yw ffenomenoleg, sef astudio ein perthynas â’r byd drwy ddefnyddio pob synnwyr, gyda’r corff fel math o ymwybod sy’n sylfaen i’r cyfan. Mae’n defnyddio paent i drosi a rhoi ffurf i’r modd y mae’n mewnoli ac ymwneud â’r tirwedd. Mae ei phroses yn reddfol, wrth iddi weithio’n fyrfyfyr heb amgyffred o’r ddelwedd orffenedig. Gan dynnu ar ei dealltwriaeth o theori lliw ac aestheteg, mae’n defnyddio lliw yn chwareus fel estyniad o’r tirwedd. Drwy gyfrwng haenau cymhleth o frwswaith, llinellau graffig, blociau lliw a phatrymau ailadroddus, nod Evie yw creu cynyddu deinameg a dyfnder y ddelwedd i greu llwybr i’w grwydro’n weledol. 

Fel curadur, mae Evie Banks wrthi’n ymwneud â thirlun, planhigion, bodau gwreiddiog, a chompostio. Yn y gorffennol mae wedi cyd-guradu Codi’r Llen ar Gaffael gydag Amgueddfa Cymru – arddangosfa sy’n cwestiynu a herio hierarchaeth draddodiadol y byd Celf. Taste the Difference yw’r sioe gyntaf i Evie Banks ei chyd-guradu yn Llundain.


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this