CYNFAS

Mari Griffith
6 Hydref 2023

Gesiye (g. 1992)

Mari Griffith

6 Hydref 2023 | Minute read

Artist amlddisgyblaeth o Trinidad a Tobago yw Gesiye sy’n mynd i’r afael â themâu fel llinach ac iachâd.

Magwyd hi mewn teulu Nigeriaidd-Trinidadaidd yn Trinidad a Tobago a gwnaeth radd yn y Celfyddydau Gweledol ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Mae adrodd straeon yn ganolog i’w gwaith, ac mae hi’n datblygu ei straeon mewn gwahanol gyfryngau a thrwy ymgynghori â gwahanol gymunedau ac unigolion. Mae ei phroses greadigol wedi ei seilio ar ei phrofiadau hi fel menyw Ddu hoyw a'i hactifiaeth gymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae ymrwymiad Gesiye â materion o’r fath wedi ei harwain i weithio gyda’r tir a’r ddaear, ond mae hi hefyd yn canolbwyntio ar y corff fel pwnc a chyfrwng ei chelf – yn nifer o’i gweithiau, mae hi’n tatŵio delweddau a motiffau ar y croen, fel pe tai’n gynfas.

Yn 2021, comisiynodd Amgueddfa Cymru Gesiye i greu darn o waith a oedd yn ymateb i’r portread o’r perchennog caethweision Syr Thomas Picton yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae’r gwaith Mae’r Briw yn Borth yn canolbwyntio ar y ddefod o datŵio fel ffordd o gyfleu'r trawma sydd wedi cael ei basio gan gaethwasiaeth a gwladychiaeth yn ei gwlad enedigol o un genhedlaeth i’r nesaf. Roedd y gosodiad yn cynnwys cyfres o bortreadau yn ogysal â ffilm fer (animeiddiad ‘stop-motion’) yn dangos tatŵau ar bobl Trinidadiaidd Ddu o wahanol oedrannau – gyda’r tatŵau yn cyfleu ymdeimlad o iachâd ac asiantaeth. Mae’r gwaith bellach yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.

Mae Gesiye hefyd wedi dangos ei gwaith yn Five Myles, Gweithdy Theatr Trinidad, ac Amgueddfa Genedlaethol Trinidad a Tobago.


Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.

GESIYE,
© Gesiye/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Share


More like this