CYNFAS

Efa Lois
9 Hydref 2023

Swyn I

Efa Lois

9 Hydref 2023 | Minute read

Pampetris oedd ei henw.

Yn ôl y chwedl, roedd hi’n arfer byw ar gomin Llangybi, ac roedd ei gŵr yn goryfed. Mae’r chwedl yn gorffen wrth sôn amdani’n ei drawsffurfio’n geffyl, neidio ar ei gefn, a’i farchogaeth dros fryniau a chaeau.  

Hanes tebyg yw’r chwedl am Nansi Goch o Lanidloes. Roedd dynion lleol yn credu ei bod hi’n caru â’r diafol, ac felly roedden nhw’n gwrthod ymwneud â hi. Y gred leol oedd ei bod hi’n troi’r bobl oedd wedi gwneud cam â hi’n geffylau, a byddai hi’n eu marchogaeth nhw nes eu bod nhw’n marw o orflinder.  

Yn ôl chwedloniaeth leol Sir Benfro, roedd Betty Foggy yn fenyw ‘yr oedd y dynion yn chwantu’n fawr amdani’. Roedd hi’n fam, ac roedd yn byw mewn bwthyn uwchben Penfro. Un diwrnod, roedd llong yn mynd i’r môr o’r dociau, ac roedd Betty’n dymuno bod yn dyst i hanes. Fodd bynnag, fe’i gwatwarwyd gan y swyddogion a’r bobl leol, ac ni chafodd hi fynd i mewn. Yn ôl y chwedl, clywyd hi’n tyngu ‘na fydd lansio heddiw’. Unwaith i’r seremoni ddechrau, daeth yn amlwg na fyddai’r llong yn gadael, gan ei bod yn sownd.  

Tair yw’r rhain o blith 90 o fenywod a gofnodais a’u harlunio fel rhan o brosiect Gwrachod Cymru.

O Lord Jesus Christ Sacratus he hereth the preserver of Richard Mason his stock big and small cattle that is on his farm from all witchcraft and from all Evil men and women or spirits or Wizards… Amen XXXX and this I trust in the Lord Jesus Christ thy redeemer and saviour from all witchcraft this ye trust in Jesus Christ to secure Richard Mason his Cattle, Horses, Sheep, pigs, poultry. Every creature on the farm from all witchcraft. Pater Pater Pater. Noster Noster Noster. Ave Ave Ave Maries. X

Mae’r darn hwn gan Mary Lloyd Jones yn cynnwys gweddi gan ddyn (Richard Mason), sy’n erfyn ar Dduw i’w warchod ef rhag gwrachod a gwrachyddiaeth.  

Ond pwy oedd angen eu gwarchod?

Ond gellid dadlau taw’r ‘gwrachod’ honedig hyn oedd angen eu gwarchod rhag eu cymdogion, y gymuned yn ehangach, a’r dynion yn eu bywydau.

Wrth i mi gofnodi chwedlau’r gwrachod fel rhan o’r prosiect, fy mhenderfyniad oedd dathlu eu bywydau a’u personoliaethau nhw, yn hytrach na ffocysu ar beth oedd, yn aml, yn ddiweddglo trist i’w bywydau o ganlyniad i drais dyn neu ddynion eu pentrefi a’u trefi. Yn 2019, pan ddechreuais i’r prosiect, roedd lle a gofod i bobl allu gwerthfawrogi’r cymeriadau hynod yma heb y rhagfarn a fyddai’n debygol iawn o fod wedi effeithio’n negyddol ar y menywod hyn yn ystod eu bywydau.  

Ac er taw chwedlau a ddogfennais yn y prosiect Gwrachod Cymru, roedd sawl achos o gyhuddiadau go iawn o wrachyddiaeth, ac o bobl yn derbyn y gosb eithaf o ganlyniad i wrachyddiaeth, yng Nghymru.  

Lowri, Agnes, a Rhydderch

Un achos adnabyddus yw achos Gwen ferch Ellis, ond mae hefyd achos Lowri, ac Agnes ferch Evan. Yn Sir Gaernarfon yn 1622, cyhuddwyd Lowri ac Agnes Ferch Evan, ynghyd â’u brawd Rhydderch ap Evan, o reibio Margaret Hughes o Lanbedrog nes iddi farw. Cyhuddwyd y tri o achosi i Mary Hughes, hefyd o Lanbedrog, golli defnydd o’i choesau a’i braich chwith, a’i gallu i siarad. Er ei fod yn bosib mai anghytuno rhwng dau deulu oedd y tu ôl i’r achos, cafwyd y tri yn euog, a chrogwyd Agnes, Lowri a Rhydderch.

Margaret ferch Richard

Caiff yr hanes hwn ei adleisio yn hanes Margaret ferch Richard. Roedd Margaret Ferch Richard yn fenyw oedd yn byw ym Miwmares, drws nesaf i fenyw o’r enw Gwen gwraig Owen Meredith. Aeth Gwen yn sâl, a bu hi’n sâl o ddydd olaf mis Hydref 1654 tan ddiwrnod olaf y flwyddyn honno, pan fu farw. Cyhuddwyd Margaret o reibio Gwen, ac er iddi wadu’r cyhuddiad yn ei herbyn, barnwyd ei bod yn euog gan y Barnwr Edward Bultrode a’i lys. Yn 1655, treuliodd Margaret Ferch Richard ei noson olaf yng ngharchar Biwmares. Drannoeth crogwyd Margaret Ferch Richard am reibio ei chymdoges.

Margaret a Gwenllian David

Dwy arall a gyhuddwyd o wrachyddiaeth oedd Margaret a Gwenllian David, a ddogfenwyd yn y llyfr Gwrachod Cymru gan Eirlys Gruffydd. Roedd Margaret a Gwenllian yn fam a merch oedd yn byw yn Llangadog, Dyfed. Dygwyd achos yn eu herbyn yn 1656 o reibio anifeiliaid gan achosi colledion enfawr. Cyhuddwyd y ddwy o achosi poen gorfforol i’r rhai fyddai’n gwrthod rhoi cardod iddynt. Dedfrydwyd y ddwy i gyfnod byr yn y carchar.

Gwen ferch Ellis

Dwi’n credu mai cryfder darn Mary Lloyd Jones Swyn I, yw’r ffaith, er bod y darn yn sôn am weddïau Richard Mason, mae’r defnydd o eiriau, llawysgrifen, a diagramau ar y darn yn dwyn i gof bapurau ‘swynau’. Un o’r rhain a ddarganfuwyd yn nhŷ Thomas Mostyn, ac, o ganlyniad, cyhuddwyd Gwen ferch Ellis o wrachyddiaeth.  

Roedd Gwen yn ennill ei bywoliaeth trwy wnïo a gwau, ac roedd hi hefyd yn creu meddyginiaethau gwerin ar gyfer ei ffrindiau, ei chymdogion ac anifeiliaid pan fyddent yn sâl. Roedd hi wedi bod yn briod deirgwaith yn ei bywyd. Pan ofynnodd yr esgob iddi, wedi iddi gael ei chyhuddo o wrachyddiaeth, a oedd hi erioed wedi defnyddio swynau, ei hymateb diniwed oedd ‘wrth gwrs’, ac aeth ymlaen i adrodd un.

Cafodd ei hanfon i’r carchar, a gofynnodd yr ynad i’r bobl leol a oedd ganddyn nhw unrhyw dystiolaeth bod Gwen yn wrach, neu gyhuddiadau yn ei herbyn. Tystiodd 7 person yn ei herbyn. Tystiodd beili a’i gynorthwyydd fod gan Gwen ddiafol, ac eu bod nhw wedi ei weld ar ffurf pryfyn. Tystiodd gwraig melinwr lleol fod Gwen wedi taflu gwrachyddiaeth at ei mab a’i lofruddio.  

Cafwyd Gwen ferch Ellis yn euog o un gyhuddiad o wrachyddiaeth droseddol, a chafodd hi’r gosb eithaf. Crogwyd hi yn Ninbych yn 1594.

Wrth edrych nôl dros Swyn I, ac wrth feddwl am yr holl chwedlau a hanesion am wrachyddiaeth yng Nghymru, gallwn gwestiynu beth yw’r goleuni, a beth yw’r tywyllwch? Ai’r gwrachod sydd yn oleuni mewn byd tywyll, neu ai Cristnogaeth a’r gymdeithas Gristnogol yw’r goleuni hwnnw? Roedd rhai o’r gwrachod honedig hyn yn cynnig iachawdwriaeth feddygol i’w cymunedau, neu’n glust i wrando ar ofidion menywod Cymru.

Gallwn ystyried – ai gwarchod dynion rhag gwrachyddiaeth oedd ei angen, neu warchod y gwrachod hynny rhag y dynion?  


Mae Efa Lois yn arlunydd ac awdur o Gymru.

Mae hi’n defnyddio ei gwaith celf i godi ymwybyddiaeth am chwedlau, hanes, pensaernïaeth, a diwylliant Cymru. Mae ei gwaith ysgrifenedig yn ffocysu ar hanes menywod Cymru, ac ar y sgil-effeithiau y bydd newid hinsawdd yn eu cael ar ddiwylliant ac etifeddiaeth pensaernïol Cymru.  

Ers 2019, mae prosiect Efa Gwrachod Cymru wedi dogfennu dros 90 wrach o chwedlau gwerin Cymru. Gallwch ddarllen rhagor am y prosiect ar ei gwefan.

LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Share


More like this