CYNFAS

Mari Griffith
2 Chwefror 2024

Cicely Hey (1896–1980)

Mari Griffith

2 Chwefror 2024 | Minute read

Roedd Cicely Hey yn gweithio fel artist yn Llundain yn ystod yr 1920au a’r 30au, pan oedd hi hefyd yn awen i’r artist Walter Sickert. Yn ddiweddarach, symudodd i ogledd Cymru lle dechreuodd greu ffigurau terracotta cywrain.

Roedd Hey yn wreiddiol o Faringdon yn Swydd Rydychen a hyfforddodd yn Ysgol Gelf Brwsel ac yna'r Central School of Arts and Crafts a’r Slade School of Fine Art yn Llundain. Yn ei hugeiniau hwyr daeth i adnabod Walter Sickert a dod yn ffrind a model iddo. Roedd e’n hoff iawn ohoni hi a’i ‘hwyneb bach doniol, hardd, call, annwyl’ a phaentiodd hi sawl gwaith yn ystod yr 1920au.

Fel artist ei hun, arddangosodd ei gwaith yn helaeth yn Llundain yn ystod y 1920au a’r 30au: gyda’r London Group, Women’s International Art Club, New English Art Club a’r Society of Graphic Artists. Enw ei sioe unigol gyntaf, a gynhaliwyd yn 1933 yn Oriel Lefevre, oedd ‘Art Celebrities’ ac roedd yn cynnwys portreadau o fawrion celf Llundain, yn eu plith yr awdur Roger Fry, yr artist Duncan Grant yn ogystal a gŵr Hey, Robert Tatlock, golygydd y cylchgrawn celf, The Burlington Magazine.

Symudodd Hey i Gymru ym 1941 a threulio ail hanner ei hoes yn Llysfaen ger Bae Colwyn, yn edrych dros y môr. Ar ôl cyrraedd Cymru, dechreuodd wneud ffigurau bach wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd hanesyddol y byddai’n eu hymchwilio'n ofalus a’u gwneud gyda therracotta, weirien a phapier maché. Cafodd rhain eu harddangos yng Nghymru a thu hwnt, ac y mae rhai bellach mewn casgliadau cyhoeddus.

HEY, Cicely
© Cicely Hey/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Sketchbook, HEY, Cicely © Cicely Hey


Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.


Share


More like this