Yn un o gerflunwyr pwysicaf Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae Barbara Hepworth yn adnabyddus am ei cherfluniau haniaethol arloesol.
Yn enedigol o Wakefield yn Swydd Efrog, mynychodd Ysgol Gelf Leeds rhwng 1920 a 1921, gan astudio ochr yn ochr â Henry Moore, a'r Royal College of Art yn Llundain tan 1923. Ym 1924, aeth i Fflorens ar ôl ennill ysgoloriaeth, ac yna symud i Rufain, lle dysgodd gerfio marmor a chyfarfod â'i gŵr cyntaf, y cerflunydd John Skeaping.
Ar ôl priodi yn Fflorens ym 1925, ymsefydlodd y cwpl yng ngogledd Llundain lle ganwyd eu mab Paul ym 1929. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwahanodd hi a Skeaping ar ôl i Hepworth gwrdd â'r artist Ben Nicholson. Yn ystod y 1930au, teithiodd hi a Nicholson sawl gwaith i Ffrainc, a chyfarfod ag artistiaid avant-garde fel Brancusi, Arp, Picasso, Braque, Mondrian, Kandinsky a Gabo. Cawsant dripledi ym 1934 ac ym 1938 symudon nhw i St Ives yng Nghernyw, lle bu i Hepworth fyw am weddill ei hoes.
O’r 1940au ymlaen, arddangosodd Hepworth ei gwaith ym Mhrydain, Ewrop a thu hwnt, gan gynnwys ei retrospectif cyntaf ym 1943, Pafiliwn Prydeinig 25ed Biennale Fenis ym 1950 a’r Festival of Britain ym 1951. Yn y 1960au cafodd sawl gomisiwn cyhoeddus, yn eu plith siop John Lewis ar Oxford Street a’r United Nations Plaza yn Efrog Newydd.
Daeth priodas Hepworth â Nicholson i ben yn 1951, ac ym 1953 collodd ei mab cyntaf mewn damwain awyr RAF, yn 24 oed. Bu iddi farw mewn tân yn ei stiwdio yn St Ives.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.