CYNFAS

Apekshit Sharma, Intern Curadurol
14 Tachwedd 2023

Toredig Ond Prydferth

Apekshit Sharma, Intern Curadurol

14 Tachwedd 2023 | Minute read

The Beauty of Imperfection

In a world where tears for shattered dreams do fall,  
Broken thoughts and things, they haunt us all.  
Yet within each fracture, hope’s ember starts to burn,  
Beauty in imperfection, a lesson we must learn.

Imagine frozen moments, stories caught in a frame,  
Greek script and love’s essence, not just a mere claim.  
In pixels and verses, emotions softly lace,  
A Mother’s love torn, a timeless embrace.

Now envision the remnants of castles once grand,  
Their missing glaze, a masterpiece unplanned.  
Cut edges gleam with life’s wisdom worn,  
Like unfiltered moments, where authenticity is born.

In this fabric of existence, we seek what’s true,  
Genuine souls and moments, a precious view.  
Within these life’s fragments, stories unwind,  
Revealing the beauty of imperfections, one of a kind.

So, within life’s rich tapestry, these tales reside,  
Of brokenness and beauty, hearts open wide.  
Through trials and tears, our spirits start to glow,  
In the fragments of existence, our true selves begin to show.

Toredig ond prydferth

Mae atyniad rhyfedd i amherffeithrwydd, fel gwrthrych sydd wedi torri ond o’i drwsio â lacr aur, daw’n fwy gwerthfawr na’r gwreiddiol. Mae’r syniad hwn yn deyrnged i wytnwch a’r gallu i ganfod harddwch yng nghanol heriau.

Byddwn ni’n aml yn esgeuluso a thaflu gwrthrychau sydd wedi torri. Anaml fyddwn ni’n ystyried eu prydferthwch.  

Wrth ddadorchuddio’r hen gasgliad cerameg a gladdwyd danddaear, dyma ni’n ailddarganfod amrywiaeth diddorol o eitemau. Mae rhai wedi’u crefftio’n gain ac eraill yn dwyn creithiau amser, fel y gwelir gyda’r tri darn o grochenwaith sydd wedi’u difrodi yng nghanol y darnau gwyn. Yr hyn sy’n gwneud y cloddiad hwn hyd yn oed yn fwy diddorol yw ei natur barhaus. Cymerwch eiliad i edrych ar y darnau llachar, lliwgar sy’n addurno’r darnau gwyn. Nid gweddillion o’r ddaear yw’r darnau hudolus hyn ond gwrthrychau toredig a ganfuwyd mewn mannau eraill. Mae’r tri darn amlwg ym mlaen y casgliad yn disgrifio eu proses cloddio. Mae’r darnau gwyn sy’n cynrychioli’r ddaear a’r gwrthrych cyfagos amlycaf yn sefyll mewn cyferbyniad â nhw.


Mae’r deilsen hon yn dod o Abaty Tyndyrn yn Sir Fynwy. Roedd yn rhodd i Amgueddfa Cymru gan John Ward, y Ceidwad Archaeoleg, sy’n debygol o fod wedi’i thynnu o’i lleoliad ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’r deilsen yn enghraifft o waith Ysgol Wessex, grŵp o arteffactau y mae eu patrwm dosbarthu yn cyfateb i ranbarth Wessex neu ran ohono. Ymyl doredig y teils wnaeth ddal fy sylw i am ei fod yn darlunio amlinell llew rhygyngog hynafol gyda fleur-de-lys mewn cylch yn ei ffurf grai.


Daw’r llestr hwn o Dŷ Dwnrhefn, maenordy canoloesol ym Mro Morgannwg a ehangwyd dros amser nes iddo gael ei ddymchwel yn y 1960au. Cyfeirir ato yn aml hefyd fel Castell Dwnrhefn. Mae’r un ardal yn gartref i’r cadarnle canoloesol sydd bellach yn eiddo preifat, Castell Benton. Yn y 1930au, cyfrannodd perchennog blaenorol y castell dros 200 darn o grochenwaith canoloesol ac ôl-ganoloesol at gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae’r llestr o grochenwaith slip arddull Swydd Stafford, gydag arwyneb cribog, siâp petryal o bosibl, ac ymylon crwst pastai gloyw. Pan welais i hon gyntaf, meddyliais ar unwaith am gacennau marmor, gan feddwl tybed a oedd cacennau marmor heddiw wedi’u hysbrydoli gan rywbeth tebyg.


Dyma hefyd ddarn teilchion o botyn planhigyn a allai fod heb wydriad yn fwriadol. Mae’n ddarn o grochenwaith slip Ewenni heb y gwydredd. Mae’r patrwm a grëwyd yn debyg i strôc brwsh syml. Dwi’n dwlu ar pa mor ddi-broses yw'r ôl-gynhyrchu a’r gwaith brws.

Gan droi at y prif wrthrych: llestr priddwaith gydag arwyneb hufen matte, cylch troed crwn, ymylon crwm, ac addurn print troslgwyddo. Mae Torn in Two gan Antonia Splini yn cynnwys llun wedi’i rwygo o fenyw yn dal babi gyda thestun Groegaidd o lythyr anhysbys. Er nad yw’r llun wedi chwalu mae’n cyfleu llawer am y cwlwm rhwng mam a’i phlentyn. Mae’r testun ar y llun fel petai wedi’i rwygo ar wahân, ac mae’n ymddangos ei fod ynghlwm â hen ffotograff o’r ddau ohonyn nhw. I mi, mae hyn yn edrych fel neges gan y plentyn at y fam.

Seiniau cerameg

Ym mis Ebrill 2023, cynhaliodd grŵp Bloedd Amgueddfa Cymru weithdy o’r enw Siarad Potiau, gan arbrofi â synau cerameg. Doeddwn i ddim yn gallu bod yno yn anffodus, ond roedd yn deffro atgofion plentyndod a faint o hwyl oedd chwarae gyda gwrthrychau a gwneud synau doniol gyda nhw. Roedd hefyd yn ennyn atgofion o’r ysgol a sut y bydden ni’n gwneud synau yn ystod amser cinio gyda'n beiros yn taro ar y ddesg. Cefais i fy ysbrydoli gan y syniad hwn i arbrofi â gwneud synau gyda gwrthrychau cerameg wrth ddewis yr eitemau ar gyfer fy arddangosfa project olaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. I greu seinlun, dyma fi’n taro’n ysgafn wrthrychau fel y darnau o Nantgarw, y fas borslen gyda dolenni eryr o grochendy Abertawe, a daliwr chwe chwpan wy Crochendy Morgannwg Abertawe gyda beiro a bysedd tra roedd yn gorffwys ar wahanol seiliau o wydr a phren. Rhwng fy nwylo dechreuodd amrywiol seiniau ymddangos.

Felly, profwch hud y sain! Yn y recordiad hwn, rydyn ni’n archwilio nodweddion cerameg trwy bŵer sain. Caewch eich llygaid, tiwniwch i mewn ac ymgollwch yn alawon gwybodaeth a chreadigrwydd.

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw bywyd intern yn Amgueddfa Cymru?

Ar hyn o bryd rwy’n astudio fy MA mewn Curadu yn UWE (Prifysgol Gorllewin Lloegr) Bryste, ac ym mis Chwefror 2023 dechreuais ar leoliad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r cyfle hwn wedi gwireddu breuddwyd i mi. Y llynedd, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai’r lleoliad yn digwydd, ond roeddwn i’n dal eisiau bod yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a nawr dyma fi, yn cyflwyno fy mhroject terfynol.

Un o elfennau curadu amgueddfeydd sydd wedi fy swyno erioed yw harddwch gwrthrychau sydd wedi torri. Mae’n her weithiau bod yn dyst i rywbeth toredig, ond mae’r eiliadau bregus hyn hefyd yn dangos ein gwytnwch a’n cryfder, yn debyg iawn i’r gwrthrychau y dewisais eu harddangos ar gyfer fy mhroject terfynol yn un o’r casys yn yr Amgueddfa. Er eu bod wedi torri, mae harddwch unigryw a swynol yn tasgu ohonynt.

Drwy gydol fy nhaith guradu, rydw i wedi pendroni pam fy mod yn cael fy nenu gymaint at yr arteffactau hyn sydd wedi’u difrodi a pha fathau o straeon maen nhw’n eu mynegi. Mae'n fel petai pob crac a thoriad yn cuddio stori sy’n aros i gael ei datgelu. Er gwaetha’u gwendidau mae’r arteffactau hyn yn fy atgoffa o ddycnwch cymeriad dyn. Croniclau o drawiadau, damnweiniau, neu dreigl amser yn gadael eu marc. Yn debyg iawn i’r profiad dynol, mae pob crac yn cuddio stori am ddycnwch a goroesiad. Mae’r gwrthrychau amherffaith hyn yn adlewyrchiad o’n taith anodd ein hunain drwy fywyd, ac yn siarad â mi fel symbolau o hynny. Maen nhw’n fwy nag arteffactau hanesyddol; maen nhw’n storïwyr, yn adrodd hanesion yr unigolion a greodd ac a ddefnyddiodd y pethau hyn a’u trysori. Caiff fy mrwdfrydedd dros guradu ei danio gan yr elfen storïol gynhenid hon, gan fy sbarduno i fod eisiau adrodd y straeon gafaelgar hyn i gynifer o bobl â phosibl.  

Drwy gydol fy lleoliad gwaith, rydw i wedi cael y fraint o ddysgu myrdd o bethau newydd sydd wedi ehangu fy ngorwelion y tu hwnt i bob dychymyg. Mae’r profiad wedi bod yn weddnewidiol, gan roi dealltwriaeth a gwybodaeth newydd i mi.

Yn olaf, hoffwn fynegi diolch o galon i fy mentoriaid, Jennifer Dudley ac Andrew Renton, y mae eu harweiniad a’u cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy ar fy nhaith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. I’w harbenigedd a’u mentoriaeth nhw mae’r diolch mawr am fy nghynnydd drwy gydol yr interniaeth.

Gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth rydw i wedi’u meithrin hyd yma, rydw i’n eiddgar i ddysgu mwy am guradu. Rydw edrych ymlaen at gam nesaf fy nhaith academaidd yn mynd nesaf, oherwydd mae’r lleoliad hwn wedi bod yn bennod allweddol.


Share


More like this