CYNFAS

Mari Griffith
9 Tachwedd 2023

Ray Howard-Jones (1903–1996)

Mari Griffith

9 Tachwedd 2023 | Minute read

Roedd Ray (neu Rosemary) Howard-Jones yn paentio tirluniau atmosfferig o arfordir ac ynysoedd de Cymru, gan fwyaf ym Mhenarth a Sir Benfro ac fel arfer mewn gouache. Mae ei gwaith yn tarddu o werthfawrogiad dwfn, ysbrydol bron, o natur.

Ganed Howard-Jones i rieni Cymraeg yn Berkshire a threuliodd ei phlentyndod ym Mhenarth gyda’i nain a’i thaid. Ar ôl mynychu’r ysgol leol, ym 1920 aeth i astudio yn y Slade School of Art. Roedd hi’n byw yn Llundain ar hyd ei thridegau, a fe gafodd ei harddangosfa unigol gyntaf ym 1935 ond arafodd ei gyrfa o ganlyniad i broblemau iechyd a threuliodd gyfnod yn paentio lamplenni mewn ffatri lampau. Ar ôl dychwelyd i Benarth gweithiodd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gwneud darluniau archeolegol ar gyfer cyhoeddiadau. Yn nes ymlaen yn ei gyrfa, bu hefyd yn ddarlunydd meddygol.

Er nad oedd yn artist rhyfel swyddogol, yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Howard-Jones ei chomisiynu i baentio’r amddiffynfeydd ar ynysoedd Echni a Ronech ym Môr Hafren, a phaentiodd y cychod yn paratoi i adael Penarth a dociau Caerdydd ar gyfer glaniadau D-Day. Gyda’i chartref ym Mhenarth wedi ei ddifrodi gan fomiau, dychwelodd i Lundain ym 1947 ond byddai’n ymweld â Chymru bob haf. O 1948 tan 1959, byddai hi a’i phartner, y ffotograffydd Raymond Moor, yn gweithio fel gofalwyr haf ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro, lle paentiodd rhai o’i gweithiau mwyaf adnabyddus.

Hefyd yn artist murlun a mosaig, yn 1958 ennillodd Howard-Jones gystadleuaeth genedlaethol i greu mosaig enfawr ar gyfer swyddfeydd y Western Mail yng Nghaerdydd: Llygad i’r Bobl, a gafodd ei ddymchwel yn 2008. Mae’r amrywiaeth yn ei gyrfa yn dangos yr heriau oedd yn wynebu menywod yn y maes celf ar ganol yr ugeinfed ganrif, ffaith sy’n cael ei adlewyrchu yn ei henw, sydd ddim yn datgelu ei rhywedd.


Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.

HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Share


More like this