CYNFAS

Lois Elenid
5 Rhagfyr 2023

I’r môr ’fo fi

Lois Elenid

5 Rhagfyr 2023 | Minute read

Aneurin: Dyn yn ei ugeiniau hwyr

Dwi rioed ’di gorfod dychmygu sut beth fysa fo i fyw i ffwrdd o’r môr. Dwi’n cyfri’n hun yn lwcus yn fan ’na. Dwi rioed ’di dioddef digon yma i feddwl symud. Er mod i'n nabod pobl sy’ di gorfod symud, i achub eu hunan, i ddeinig. Dwi’n deall hyna a dwi’n i barchu o, mae gen i ffrindia agos sydd wedi gorfod mynd. Ond i fi, dio rioed ’di digwydd a masiwr neith o fyth.  

Ma’ modolaeth i ynghlwm i'r môr. Ond, ddim mewn ffordd caeth, dwi ddim yn sownd, dwi ddim yn was iddi. Mae’n rhoi gymaint. Dwi’n gweithio ar y môr, dwi’n byw wrth y môr, mae gen i gariad, a ma’r môr fel trydydd person yn ein perthynas ni, yn ein plethu ni’n dynnach.    

Dwi’n gwybod bod llefydd arall yn bodoli, llefydd delach a llefydd sy’n lot fwy o hwyl, ond y peth ydi dwi’n hapus efo hyna, dwi’n hollol gyfforddus efo’r ffaith mod i yn gallu mynd yna am wylia unrhyw bryd dwi isio, ddim bo fi isio, ond mae o’n gysur gwbo fod o yna os dwi’n newid yn meddwl. Os da ni’n penderfynu gwahanu.  

Dwi’m isio bod yn un ochrog, dwi yn amlwg yn hapus yma ond fel ddudisi ma ’na lawer un yn teimlo’n wahanol.  

Ma’n ffrind gora i, Steffan, er enghraifft yn deud bod byw mewn lle fel hyn yn beryg i chi. Dwi’n dalld be sy’ ganddo fo chwara teg, mae o yn siarad o’i brofiada ei hun.

Mae o’n deud i fod o yn le rhy heddychlon, rhy ddistaw a bod pobl yn colli arni yma. Lle perffaith i ymlacio a ymddeol ar ôl i chi fyw eich bywyd. Ma’n deud fod pobl efo gormod o amsar gwag, gormod o amsar i feddwl. Bod eu meddylia nw yn cal gormod o ryddid ac yn dechra llenwi’r distawrwydd yn ei ffordd i hunan, bod y diffyg sŵn o’u cwmpas nhw yn achosi nhw greu syna yn i penna.  

‘Prif hobi pobol y lle ’ma di mynd i pub, ydi alcohol, ydi meddwi, fedri di’m dadla efo hyna Aneurin, a ma hyna’n deud bob dim dwi angen wbod’  

Mae o’n iawn, fedrai ddim dadla, achos dwi di weld o’n digwydd, dwi’n neud o fy hun.  

Mae o’n deud bod y lle ’ma, yn gneud i bobl deimlo fatha bo ’na wbath yn bod efo nw  

‘Mae o fod yn le delfrydol i fyw a ’da ni fod yn lwcus i fod yma, felly pam bo’ na gymaint yn diodda yma?’  

Sa’ Steffan wastad yn deud bod symud yn oce, bod pobol ddim angan aros yma a brwydro, bod symud i ffwrdd a darganfod na dim chi odd y broblem, ond mai lle odda chi odd y broblam, yn bwysig.  

Does ’na ddim byd yn bod efo hyna, ma’r lle ma’n siwtio rhai, ond ddim lleill.  

Pysgotwr ydw i, gyda llaw, ddim yn siŵr os nesi sôn. Mae o fel arfer y peth cynta dwi’n ddeud wrth bobl. Sa Steffan yn deud ma’i dyma’r peth fwya diddorol amdana i.  

Dwi’m yn meindio, mae o’n ddiddorol.  

Pysgotwr ydw i a pysgotwr fyddai.  

Y tro cynta i fi ddal pysgodyn, pan oni’n ifanc a cyn mi ddechra neud o fel bywoliaeth, ar gwch glas taid oni.  

Dwi’n cofio teimlo’r lein yn tynnu, ddoth ’na deimlad dieithr o hyder a sicrwydd drosta i, y tro cynta i mi fod mor siŵr o wbath yn fy mywyd. Fel bod y pysgodyn yn tynnu fi ata fi’n hun. Oni byth isio bod heb fy ngwialen, oddi’n cadw fi’n saff, yn cadw fi’n siŵr, cadw fi’n fi.  

Ma’ rhai hogia ifanc yn ffeindio tîm rygbi neu bêl droed, ond nes i ffeindio pysgota a pysgotwyr.  

Yn y ha’ swni’n cerdded i’r creigia efo fy ngwialen bob bora, yn meddwl i’n hun ‘masiwr ma’ felma ma’ cowboi a’i geffyl yn teimlo.’ Hollol annibynnol a llawn rhyddid.  

Y ffaith mod i’n gallu, jesd … ei neud o... mynd, heb help, heb neb, dim ond fi a’r wialen. Dwi’n cofio meddwl os fysa ’na ddisaster, ryw argyfwng yn digwydd, swni’n iawn, swni’n gallu goroesi a bwydo’n hun a nheulu dim problem. Weithia oni’n gobeithio am ddisaster, i mi gal trio profi fy survival skills go iawn. Yn amlwg, dwi ddim yn gobeithio am hyna ddim mwy. Ma’ byw digon anodd i bobl fel mae hi.

Er bod ’na ddim lot ohona ni erbyn hyn, dani dal yma, y pysgotwyr. Cymuned o bobl sy’n gweithio yn galed, yn gefna i’n gilydd. Pobl sy ’di diodda yn dawel yn nhywyllwch ein cilfachau ers blynyddoedd, da ni dal yma yn gwthio ymlaen.

Ma’ ganddo ni barch ymysg ein gilydd, y math sydd ddim angen ei ynganu, mae o i’w weld, efo nod ben bora ar draws y dŵr, mewn rhes daclus o wellingtons yn sychu wrth ddrws y pyb.

Ma ’na griw ohono ni yn mynd o’r un lle, da ni’n cadw llygaid ar gychod ein gilydd, gneud yn siŵr fod pawb ’di cal eu gweld yn dod nol. Dio ddim yn cael ei neud yn amlwg, di nw ddim yn reola sydd rhaid cytuno iddyn nhw cyn dod yn bysgotwr. Ond da ni gyd yn ymwybodol or petha ma, ma’ nhw yna yn gefn ein penna ni, ma nw’n betha dani gyd yn neud i’n gilydd, i’n hunain.

Mae gen i betha eraill heblaw am bysgota yn y mywyd, cyn chi ddechra meddwl, dwi ddim yn boring, dwi dal yn ifanc.

Tu allan i ngwaith mae gen i fywyd eitha llawn, mae o’n teimlo’n llawn i mi beth bynnag. Mi a’i i pyb tua dwy waith yr wsos ella. Dwi’n gwbod Steffan, dwi’n gwbod.

Dwi’n aelod o’r côr pentra, da ni’n ymarfar yn rheolaidd, ag ar ben hyn mae gen i Elis.

Sut dwi’n disgrifio Elis?  

Ma’ Elis fel breuddwyd, mae o fatha un o’r bobl ’na sy ’di cal i sgwennu ar gyfer llyfra. Weithia dwi’n cal hunllefa bod o ddim yn berson go iawn, bod fy nychymyg i ’di neud o fyny. Ond wedyn dwi’n deffro a fa’na mae o, yn cysgu’n fodlon, a dwi’n cofio bod o yn wir, bod o i gyd yn wir a bo fi’n caru’r boi ’ma a bod o yn fy ngharu i.

Da ni’n dau ’di cal cariadon yn y gorffennol, ond wrth sbio nol rwan, odd y perthnasau yna yn teimlo fel syniad sy’n diflannu’n sydyn i gymharu efo hyn.

Dani efo’n gilydd ers dros dair mlynadd bellach. Dim i ddeud bod ni’n ‘bobl priodi’ ond os ’sa ni yn penderfynu priodi ’sa ni’n gwahodd rhan fwya o’r criw gwaith ac rhai o’r pyb masiwr.  

Odd na gyfnod pam odda ni’n arfer mynd i'r Lamb ar nôs Wener i weld ffrindia ysgol Elis. Sa’r criw yna ddim yn cal dod o fewn pum milltir i’n priodas ddychmygol ni.

Da chi’n gwbod y teip, math o ddynion sy’n rhedeg i hunan i'r ddaear bob dydd ac yn meddwl fod hynny yn ddigon o reswm i drin pawb arall fatha shit. Math o ddynion sy’n difetha nosweithia pobol efo un brawddeg.

Hogia bach mewn cyrff dynion, dyna ma pobl yn i galw nhw.  

Dynion fel ’na sa chdi ddim isio efo chdi ar gwch pysgota .  

Dynion sa’n gorfod meddwl am eiliad ddau cyn neidio mewn.  

Mae Elis yn bysgotwr hefyd, ond mae o ar gwch arall, efo criw arall.  

Ffrindia odda ni i ddechra, ffrindia agos, trystio’n gilydd. Debyg i fi a Steffan. Dyna sut nath hyn ddigwydd dwi’n meddwl. Odd y ddau ohona ni yn gweithio fel pysgotwyr ers chydig flynyddoedd ac oddo wastad yn nodio a gwenu arna fi wrth llnau y gwch.

Odd ganddo fo wên glên, a llygaid odd llawn gobaith a brwdfrydedd. Un o’r petha fwya sexy amdan y fo rŵan bo ni’n gwpl. Ei frwdfrydedd a’i awydd.  

Odda ni’n ffrindia da am oes, mynd i'r pyb efo’n gilydd, ca’l can ar traeth ar ôl gwaith yn ha’. Odda ni ’di bod yn yfad efo lleill am oria un noson, dyma ni’n dechra cerddad adra, fo i'w dŷ fo a fi i nhŷ fi, wedi meddwi dipyn erbyn hyn dyma fo’n cynnig i fi ddod mewn am banad.  

Dwi’n chwerthin.  

Oni ’di arfar mynd mewn ar ddiwadd noson, ond fel arfar am botal arall ddim am banad.  

Da ni’n dau yn llusgo’n traed trwy’r drws.

Mae Elis yn mynd draw i’r cowntar i neud paneidia efo fi yn goruchwylio rag ofn iddo losgi i hun. Da ni’n isda lawr ar y soffa, fo yn edrych ’di blino, dwi’n gwbod i fod o am gymryd un sip o’i banad a disgyn i gysgu.  

Da ni’n dau yn eistedd ochr yn ochr, wedi suddo’n isel mewn i'r soffa yn gafael yn ein mugs cynnas, Elis yn syllu i nunlla tra dwi’n syllu arno fo, dyma fo’n rhoi ocheinad fawr, ymlacio’i i ben ar fy ysgwydd, gafael yn fy llaw i'w osod a’r ei lin a disgyn i gysgu.  

Dim digwyddiad mawr, dim nyrfs, dim dryswch.  

Yma nath y ddau ohona ni gysgu dan y bora, o dan flanced ar y soffa yn setlo mewn i gynhesrwydd ein gilydd.  

Da ni’n deffro yn y bora, dal yn gafael dwylo, da ni’n gwenu ar ein gilydd, mae’n rhoi ei law drwy fy ngwallt ac yn ei gorffwys ar fy moch am eiliad tra’n sbio arna i fyny ag i lawr. Mae’n anelu ei lygaid o mewn i'n llygaid i am eiliad ddwy ac yna yn gosod ei dalcen ar fy nhalcen, ein llygaid di cau dwi’n i deimlo fo’n gwenu.  

‘Bora da’  

‘Bora da’  

Dwi’n codi a mynd i neud panad arall.  

Wrth edrych yn ôl, y noson yma nath sementio bob dim.  

‘Ni’

Oedd o’n gneud gymaint o sens, oddo’n teimlo’n gywir.

Odda ni’n ofalus efo’n gilydd, mae o’n swnio’n od ond odda ni’n caru’n gilydd yn barod felly odd hyn i gyd yn wbath ychwanegol, newydd i ni’n dau. Odda ni’n darganfod wbath efo’n gilydd bob dydd.

Odd y tro cynta i mi ddisgyn i gysgu ym mreichia Elis yn atgoffa fi o’r tro cynta i fi ddal pysgodyn. Llawn hyder, llawn bodlonrwydd, hollol heddychlon. Fel ’na ma Elis dal yn neud fi deimlo.

Ddudish i gyna bo fi yn caru Elis a bo fo yn caru fi, a dani yn, ond dani rioed ’di ddeud o, dim allan yn uchel. Dani ddim angen, rywsut . Da ni’n ei ddeud o mewn ffyrdd erill, fel rhoi paned ar y bwrdd yn barod i'r llall cyn iddo gyrraedd adra, neu drwy smwddio dillad y llall heb iddo orfod gofyn, neu dewis blue ribbon yn y siop yn lle hobnobs achos heina di’r rei mae o’n licio.

Yn y gaeaf mae o’n codi yn gynt i wneud brecwast a paned i ni’n dau, mae o yn deud mai ‘gneud yn siŵr bod ni’n dau yn cael dechra iawn i'r dydd’ mae o,  ond dwi’n gwbo mai ei ffordd o o wneud yn siŵr mod i'n cael oleia un pryd call y dydd yn ystod y cyfnoda anodd mae o, achos i fod o’n gwbod yr effaith ma’r dyddiau tywyll yn gallu gael arna i.

Swni ddim yn deud ein bod ni yn ramantus, dani jesd yn licio edrach ar ôl ein gilydd. Neud yn siŵr bod llall yn iawn.  

Dwi weithia yn teimlo bod ’na ymwybod yn y tirwedd yma, rywun neu rywbeth sy’n gwarchod ni fel pobl.  Os fyddai’n sâl, yn isal, ddim yn fi fy hun, mi a’i i'r môr, yn y nôs, mewn ddim byd ond fy nghroen, mae ’na wbath yn ei thonnau hi, yn drwch i llif hi sy’n tynnu haen ohonai i ffwr i ddarganfod haen newydd, haen sydd ddim wedi i difetha gan bryderon y dydd. Ma ’na wbath galonogol am hynny. Y ffaith bod y môr wastad yna i'n helpu ni os dani ei angen hi.  

Ar ddiwedd y dyddiau hir ym Mehefin mi fydda ni’n dau yn gneud ein ffordd i'r traeth i nofio. Pam fydd yr awyr bron yn ddu, a’r traeth fel y bedd. Da ni’n dau yn hawlio’r dŵr i ni’n hunain, moment preifat i ni’n tri gyda neb arall mewn golwg, ma hi’n gafael ynddo ni’n dyn. Mae o’n gafael yndda i’n dyn.  

Ar ôl ’chydig da ni’n ffarwelio, yn sychu efo tywel ac yn syth i'r tŷ i gnesu. Ein cyrff yn addasu ac ymlacio i berffeithrwydd yr aer, gyda panad yn ein dwylo a bodlonrwydd yn llenwi bob modfedd o’n hafan.


Share


More like this